Rhybudd am brysurdeb wrth i Beyoncé ddod i Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
Beyoncé ar lwyfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd fydd y lleoliad cyntaf yn y DU i Beyoncé gynnal cyngerdd yn ystod ei thaith ddiweddaraf

Mae Caerdydd yn paratoi ar gyfer croesawu miloedd o ffans Beyoncé ar gyfer ei chyngerdd yn y brifddinas.

Y gyngerdd nos Fercher fydd y gyntaf yn y DU yn rhan o'i thaith ddiweddaraf.

Mae pobl wedi teithio o lefydd ar hyd Prydain ac mor bell ag UDA i fynd i'r gyngerdd.

Mae Cyngor Caerdydd yn rhybuddio pobl sy'n mynd i'r digwyddiad i gynllunio eu trefniadau teithio'n ofalus a chyrraedd yn gynnar.

Bydd y gyngerdd yn dechrau am 19:00 yn Stadiwm Principality ac yn gorffen tua 22:30.

Mae'r cyngor wedi rhybuddio y bydd ffyrdd i mewn i'r ddinas yn "hynod brysur".

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tagfeydd difrifol ar yr M4 cyn cyngerdd y seren bop - Ed Sheeran - yn Stadiwm Principality fis Mai y llynedd

Roedd oedi sylweddol ar yr M4 pan ddaeth Ed Sheeran i Gaerdydd fis Mai 2022, gyda rhai pobl yn colli'r gyngerdd.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n defnyddio technoleg ddadleuol adnabod wyneb ar gyfer mesurau diogelwch.

Mae'r dechnoleg yn cael ei defnyddio mewn digwyddiadau torfol i ddod o hyd i bobl y mae'r heddlu'n chwilio amdanynt.

Fe gafodd y defnydd o'r dechnoleg ei atal am gyfnod, ond mae Heddlu'r De bellach yn ailddechrau ei defnyddio ar ôl i adolygiad annibynnol awgrymu nad yw'n gwahaniaethu ar sail rhyw, oed a hil.

Er fe rybuddiodd rhai ymgyrchwyr hawliau sifil fis diwethaf y gallai "waethygu hiliaeth" o fewn yr heddlu.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o ffans tu allan i'r stadiwm am 09:00 fore Mercher, er nad yw'r gatiau'n agor tan 17:00

Bydd gatiau'r stadiwm yn agor i'r cyhoedd am 17:00 brynhawn Mercher, ond mae nifer wedi bod yn aros y tu allan ers y bore.

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Molly Palmer, ffan a fydd yn mynychu'r gyngerdd: "Mae'n dipyn bach o ffenomenon.

"Y peth gyda Beyoncé, mae'n addasu ei ffordd o 'neud cerddoriaeth i symud ymlaen gydag amser.

"Wrth i amser fynd ma' cerddoriaeth hi'n newid i fod yn addas ac i fi ma' hwnna'n arwydd o rywun sy'n gwybod y diwydiant, sy'n gwybod be ma' nhw'n neud a rhywun sy'n dalentog hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd y ddwy chwaer hyn o Ddulyn am 08:30 fore Mercher er mwyn cael yr olygfa orau yn y gyngerdd

Cyngor teithio

Ar y ffyrdd:

Fe fydd ffyrdd ar gau yng nghanol y ddinas rhwng 16:00 a chanol nos.

Mae pobl sy'n mynychu'r gyngerdd yn cael eu hannog i barcio eu ceir ger Stadiwm Dinas Caerdydd a defnyddio'r gwasanaeth bws sydd wedi ei drefnu, neu barcio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd a cherdded.

Mae pobl sydd ag anableddau yn cael eu cynghori i ddefnyddio lleoedd parcio yng Ngerddi Sophia.

Mae sawl maes parcio arall ar gael yng nghanol y ddinas.

Trên:

Mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn ar ôl y gyngerdd a bydd system giwio tu allan i'r brif orsaf yng nghanol y ddinas.

Mae gwasanaeth Great Western Railway (GWR) wedi ychwanegu mwy o deithiau i Abertawe, Casnewydd a Bryste.

Y cyngor i deithwyr yw gwirio gwefan GWR cyn teithio gan fod gweithredu diwydiannol ddydd Mercher yn debygol o achosi "rhai newidiadau byr rybudd".

Bydd teithiau Trafnidiaeth Cymru'n darparu mwy o gapasiti "lle'n bosib" ond maen nhw'n annog teithwyr i wirio eu gwefan.

Ni fydd trefnau'n rhedeg i'r gogledd o Bontypridd oherwydd gwaith ar y rheilffyrdd, ond mae gwasanaethau bws wedi eu trefnu yn lle.

Bws:

Bydd angen gwirio amserlenni bws y brifddinas i wybod mwy am wasanaethau oherwydd y bydd ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau.

Bydd bysus National Express yn cyrraedd a gadael Gerddi Sophia fel yr arfer.

Yn y stadiwm:

Bydd y gatiau'n agor i'r cyhoedd am 17:00, a'r swyddfa docynnau am 13:00.

Yn ôl swyddogion, mae'r holl docynnau wedi eu dosbarthu'n ddigidol ac fe ddylen nhw gael eu lawrlwytho drwy ap.

Bydd stiwardiaid yn sefyll ger pob un o'r gatiau a'r rhai sy'n helpu gyda hygyrchedd yn gwisgo siacedi gwyn.

Mae gan Stadiwm Principality fwy o wybodaeth ar eu gwefan.