Gwrthfiotigau: Dweud wrth fam am wasgu tabledi i'w babi
- Cyhoeddwyd
Dywedwyd wrth fam am wasgu tabledi gwrthfiotig yn fân ar gyfer ei merch 10 mis oed gan nad oedd fersiynau hylif ar gael.
Cafodd babi Catrin Edwards ddiagnosis o'r dwymyn goch a achoswyd gan Strep A ym mis Rhagfyr, a rhoddwyd presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau iddi.
Fodd bynnag, dywedodd y fam 29 oed o Ffynnon Taf, Caerdydd, nad oedd unrhyw wrthfiotigau i blant ar gael.
Felly dywedwyd wrthi am dorri tabledi gwrthfiotig i drin ei merch.
'Plant yn marw'
Dywedodd un fferyllydd fod y ciwiau a welodd ar gyfer gwrthfiotigau yn bryderus, gan ychwanegu bod pryder hefyd y gallai gorddefnyddio gwrthfiotigau arwain at ymwrthedd gwrthfeicrobaidd (antimicrobial resistance).
Pan mae hyn yn digwydd mae bacteria'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, gan olygu bod pethau cyffredin fel llawdriniaethau'n gallu bod yn rhy beryglus i'w gwneud yn y dyfodol.
Daeth Mrs Edwards yn bryderus pan ddatblygodd ei merch fach Olwen frech.
"Dyna'r cyfan oedd ar y newyddion oedd Strep A - bod plant yn marw ohono, ac roedd hynny'n amlwg yn fy nychryn," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y peth, ond pan glywais i ar y newyddion roedd yn frawychus meddwl bod Olwen wedi ei gael."
Dywedodd Mrs Edwards wrth y BBC ei bod hi wedi rhoi'r tabledi i'w merch drwy eu hymdoddi mewn llaeth y fron neu sudd afal, ond bod hynny wedi cymryd "amser hir" a'i fod yn "frawychus".
"Ro'n i'n teimlo fel fferyllydd fy hun - roedd yn rhaid i mi dorri'r tabledi i fyny, eu malu ac yna bwydo hynny iddi bedair gwaith y dydd," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gwybod a oeddwn i'n rhoi'r swm cywir iddi."
Y gaeaf diwethaf cafwyd cynnydd mawr mewn heintiau anadlol yng Nghymru a ledled y DU, yn fwyaf nodedig Strep A.
Y gred oedd bod hyn yn gysylltiedig â bod mwy o gyfleoedd i heintiau ledaenu ar ôl tair blynedd o gyfyngiadau Covid.
'Teimlad o banig'
Mae Jonathan Lloyd Jones yn rheoli fferyllfa ym Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn cofio'r pryder a achoswyd gan ymchwydd Strep A yn yr ardal, a'r galw aruthrol am wrthfiotigau.
"Yn bendant roedd 'na deimlad o banig ymhlith nifer o rieni, dwi'n rhiant fy hun, a dwi'n meddwl ei bod hi'n anodd gweld y straeon erchyll yna ar y newyddion," meddai.
Weithiau roedd ciw wrth ei ddrws wrth agor o ryw 30 neu 40 o rieni a phlant.
"Roedd yna lawer iawn o wrthfiotigau allan o stoc, ac roedd adegau pan nad oeddem yn gallu cefnogi pobl oherwydd yn syml, nid oedd unrhyw wrthfiotigau neu ddewisiadau eraill, yn enwedig i blant."
Gall rhai fferyllwyr yng Nghymru, gan gynnwys Mr Jones, roi presgripsiwn ar gyfer ystod o wrthfiotigau heb fod angen meddyg teulu.
Dywedodd eu bod yn dilyn yr un canllawiau ac yn gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan ychwanegu bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn "un o'r argyfyngau iechyd cyhoeddus mawr sy'n ein hwynebu".
Mae Dr Eleri Davies yn bennaeth rhaglen gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n helpu'r gwasanaeth iechyd i ddelio ag ymwrthedd i wrthfiotigau.
Dywedodd fod angen i'r system iechyd ganolbwyntio o'r newydd ar y defnydd o wrthfiotigau, o ystyried y newidiadau ers y pandemig.
"Mae gennym ni ganllawiau rhagnodi ar gyfer Cymru gyfan rydyn ni'n eu hadolygu'n gyson," meddai.
"Yng nghyd-destun yr hyn a ddysgwyd o'r pandemig, a'r cynnydd mewn ymgynghoriadau o bell, rydym yn cymryd hynny i ystyriaeth ac yn adolygu ein canllawiau."
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y defnydd o wrthfiotigau bellach wedi dychwelyd i lefelau mwy disgwyliedig yng Nghymru, a bod y defnydd cyffredinol wedi gostwng yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022