Y pandemig yn parhau i effeithio ar arholiadau disgyblion

  • Cyhoeddwyd
Neuadd arholiad
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail flwyddyn i arholiadau cael eu cynnal yn dilyn y pandemig

"Mae'n teimlo ar yr arwyneb fel fod popeth nol i normal" meddai un pennaeth, ond dydy effeithiau'r pandemig ar arholiadau ddim wedi diflannu'n gyfan gwbl.

Dyma fydd yr ail flwyddyn i arholiadau TGAU a Safon Uwch gael eu cynnal wedi iddynt gael eu canslo yn 2020 a 2021.

Ac mae yna fesurau mewn lle o hyd i adlewyrchu'r tarfu a fu ar ddysgwyr yn ôl y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru.

Yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur maen nhw wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sydd methu ymdopi gyda gwneud eu harholiadau mewn neuadd fawr ers y pandemig, ac mae rhai disgyblion yn teimlo y gall mwy gael ei wneud i'w helpu.

Pandemig 'wir wedi cael effaith'

Yn ôl Laurel Davies, pennaeth Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, ar un olwg mae i'w weld "fel 'sen ni nôl i gyfnod cyn Covid" ond mae yna rhai disgyblion ble mae'r hyn sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf "wir wedi cael effaith arnyn nhw".

Dywedodd Ms Davies fod cael profiad o wneud arholiadau y llynedd wedi bod o fudd i ddisgyblion Safon Uwch, ond mae yna enghreifftiau ymarferol o'r pryder y mae rhai yn dal i'w deimlo.

"Mae 'na unigolion sydd ddim yn gallu ymdopi gyda'r neuadd fawr yma," meddai Ms Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laurel Davies fod angen cymorth ychwanegol ar fwy o blant yn dilyn y pandemig

"A falle cyn Covid ychydig iawn o ddisgyblion fuasai mewn ystafell fach ar eu pen ei hunain neu mewn stafell gyda rhyw griw bach o ddisgyblion, ond mae'r nifer sydd yn chwilio am gefnogaeth fel 'na yn cynyddu."

Ychwanegodd: "Ni 'di gweld cynnydd sylweddol eleni, ac wrth gwrs mae hwnna'n cael effaith ar staffio.

"Ni'n gorfod ffindo pobl i eistedd mewn ystafell gyda dau ddisgybl neu gydag un disgybl."

Mae eraill yn gorfod cael seibiau rheolaidd, meddai, "a hyn i gyd yn gorfod cael ei ddiwallu i sicrhau bod ein disgyblion ni'n cael y cyfle gorau posib i gyrraedd eu potensial".

'Ces i sioc fawr'

Mae Taryn ac Amelia, y ddwy yn 18, wrthi'n adolygu am bapurau Safon Uwch sy'n dechrau yr wythnos nesaf.

Fe gafodd eu harholiadau TGAU eu canslo ond fe gawson nhw brofiad o wneud arholiadau Uwch Gyfrannol llynedd.

"Mae e'n bwysau mawr oherwydd ni'n gorfod cael y graddau yma i fynychu prifysgol," meddai Taryn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Taryn ac Amelia fod arholiadau'n brofiad rhyfedd y llynedd

"Blwyddyn dwetha' oedd y tro cyntaf oedden ni wedi sefyll arholiadau a ches i sioc fawr… roedd e'n tamed bach o brofiad rhyfedd i fi.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl e i fod fel 'na, roedd e'n anodd."

Eleni mae'r bwrdd arholi wedi darparu rhywfaint o wybodaeth am yr arholiadau i ddisgyblion o flaen llaw, er mwyn eu helpu gyda'u hadolygu, ond dydy Amelia ddim yn sicr am fudd hynny.

"Chi jyst wastad yn meddwl gall hwn ddod lan, ma' rhaid adolygu hyn just in case, ag y'ch chi jyst yn gor-feddwl popeth wedyn," meddai.

'Cyfnod o bontio'

Yn ogystal â'r wybodaeth o flaen llaw, bydd graddau ychydig yn fwy hael na chyn y pandemig eleni.

Disgrifiodd Cymwysterau Cymru drefniadau eleni fel y "cam nesaf" ar y daith yn ôl i'r system cyn y pandemig, tra hefyd yn parhau i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr, ysgolion a cholegau. 

"Rydyn ni'n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith hirdymor ar ddysgwyr, ac rydyn ni'n credu mai dyma'r dull tecaf," dywedodd llefarydd.

Ac mae Ms Davies yn dweud ei bod yn croesawu'r "cyfnod o bontio".

Wrthi'n paratoi ar gyfer eu harholiad TGAU ymarfer corff, mae Ellis, Finbar a Dylan yn falch bod yna rhywfaint o gymorth ychwanegol iddyn nhw eleni.

Er hynny, "fe allen nhw 'neud mwy", meddai Dylan, 16.

"Er bod y wybodaeth ymlaen llaw yn help, ma' dal cymaint i'w adolygu... mae'n straen anferthol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan, Finbar ac Ellis yn teimlo fod y cymorth ychwanegol wedi lleddfu ychydig o'r pwysau sydd arnynt

Ym marn Finbar, 16, mae colli amser ysgol yn ystod Covid wedi effeithio ar rai pynciau yn fwy nag eraill - gyda dysgu ieithoedd fel Ffrangeg wedi eu taro gwaethaf.

Ond mae'n teimlo fod cael rhywfaint o wybodaeth am beth allai ddod fyny mewn rhai pynciau "wedi cymeryd y pwyse bant".

Dywedodd Ellis, 16, ei fod yn "genfigennus" o'r rheiny nad oedd wedi gorfod sefyll arholiadau adeg Covid.

Mae'n dweud bod e "ddim yn berson sy'n hoffi arholiadau oherwydd ma' nhw'n sut chi'n gwneud ar un adeg yn ystod y flwyddyn". 

"Ond dyna ni… ar ôl iddyn nhw fynd bydd y pwyse wedi mynd, a bydd hawl ymlacio dros yr haf," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig