'Methiant' denu athrawon cyfrwng Cymraeg medd Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd
Laura Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laura Anne Jones bod Llywodraeth Cymru "wedi bod yn mynd tuag yn ôl o ran y Gymraeg"

Mae methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau cynllun y Gymraeg mewn addysg yn "gondemniad niweidiol", yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Laura Anne Jones bod ffigyrau'r cyfrifiad diweddaraf yn profi bod y llywodraeth "wedi bod yn mynd tuag yn ôl o ran y Gymraeg".

Roedd Llywodraeth Cymru, meddai, wedi "dymuno cyrraedd y targed o 3,100 o athrawon cynradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2021; dim ond 2,871 a gyrhaeddoch".

"Roeddech yn anelu at 600 o athrawon uwchradd oedd yn dysgu Cymraeg fel pwnc, ond dim ond wedi cyrraedd 391 erbyn hynny."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles mai "ychydig iawn o leoedd sydd lle nad oes unrhyw broblem o gwbl" o ran recriwtio athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc, neu'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg".

Nid yw heriau recriwtio, meddai Mr Miles, "yn benodol i'r ardaloedd hynny lle nad oes dwysedd siaradwyr Cymraeg".

"Mae'n ddarlun cymhleth, a dweud y gwir, ar draws Cymru gyfan."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jeremy Miles, mae "ffyrdd arloesol" yn cael eu datblygu i geisio "datrys rhai o'r heriau recriwtio"

Dywedodd Ms Jones ei bod yn croesawu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg ond y dylai fynd ymhellach.

"Mae'n amlwg o ddata'r cyfrifiad diwethaf bod y llywodraeth hon wedi bod yn mynd tuag yn ôl o ran y Gymraeg," meddai.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddwyd y bydd bwrsari a grant newydd yn cael ei gynnig i athrawon yn y gobaith o gynyddu nifer y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg.

Mae bron blwyddyn ers cyhoeddi cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg.

Dywed Llywodraeth Cymru bod cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd y gweinidog ei fod newydd agor ail gylch y grant ar gyfer datblygu capasiti'r gweithlu cyfrwng Cymraeg, ac mae cyfanswm o £800,000 yn y gronfa.

"Mae hyn yn helpu ysgolion i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o'r heriau recriwtio," meddai Mr Miles.

Ymhlith camau eraill, meddai, mae Llywodraeth Cymru wedi newid gofyniad mynediad rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon o radd B i radd C ar gyfer TGAU mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, ac wedi "ariannu 20 lle arall i athrawon cynradd sydd am newid i fod yn athrawon uwchradd drwy'r cynllun pontio".

Ychwanegodd Mr Miles, "rwyf hefyd wedi cytuno i ariannu arweinydd iaith Gymraeg yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i helpu gyda'n cynlluniau ni i gynyddu'r capasiti yn ein gweithlu a chefnogi pob arweinydd i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion."

Denu myfyrwyr yn ôl

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Heledd Fychan: "Wrth i fi fynd o gwmpas ysgolion yr wythnos diwethaf, mi oedd prifathrawon yn dweud wrthyf fi mai un o'r heriau mwyaf y maen nhw'n ei gael ydy recriwtio ar y funud, a bod pobl efallai eisiau gweithio'n fwy hyblyg, ac felly, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn benodol, fod angen i ni fod yn sicrhau bod pethau fel hyn ar gael."

Ychwanegodd: "Tra bod y cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg, a gyhoeddwyd bron i flwyddyn yn ôl, yn gam yn y cyfeiriad cywir, yn sicr, o ran gwireddu targedau presennol y Llywodraeth ar gyfer y gweithlu addysg, fel rydyn ni wedi sôn amryw o weithiau, rydyn ni'n gwybod ein bod ni ddim yn cyrraedd y targed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Jeremy Miles hefyd bod y Brifysgol Agored wedi "ymestyn ei llwybrau addysgu ar sail cyflogaeth, er mwyn cynnwys dylunio a thechnoleg a chyfrifiadureg o fis Medi 2023 ymlaen", a bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu 'Cadw Cyswllt' sy'n hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr yn Lloegr ddychwelyd i Gymru i baratoi i addysgu.

Bydd y bwrsari gwerth £5,000 yn cael ei gynnig i athrawon sydd wedi ennill Statws Athro Cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen.

Fe fydd athrawon yn gymwys ar ôl cwblhau tair blynedd o ddysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y bwrsari newydd ar gael i ddechrau tan Hydref 2028, er mwyn asesu a yw'n llwyddo i annog athrawon i ymuno â'r proffesiwn ac i aros ynddo.