Bannau Brycheiniog: Ceidwadwyr yn gwrthod enwebu aelod

  • Cyhoeddwyd
Bannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y parc cenedlaethol ei ail-frandio gyda'i enw uniaith Gymraeg, Bannau Brycheiniog, fis diwethaf

Mae cynghorwyr Ceidwadol wedi gwrthod ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ôl i'r corff ollwng fersiwn Saesneg eu henw.

Ddydd Iau, yn ystod cyfarfod llawn o Gyngor Powys, fe gyflwynwyd enwebiadau i aelodau o'r cyngor i eistedd ar yr yr awdurdod.

Mae Cyngor Powys yn cael enwebu chwe aelod tra bod cynghorau Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen yn cael un yr un.

Mae chwe aelod arall yn cael eu dewis gan Lywodraeth Cymru.

Clywodd cynghorwyr fod sedd wag i'w lenwi gan y grŵp Ceidwadol, yn dilyn penderfyniad Iain McIntosh i ymddiswyddo yn gynharach yn y mis oherwydd yr ail-frandio a honiadau o "ragfarn wleidyddol adain chwith".

Disgrifiad o’r llun,

Aled Davies: "Dyw cydbwysedd gwleidyddol yr awdurdod ddim yn iawn"

Ond yn ystod y cyfarfod ddydd Iau dywedodd arweinydd grŵp Ceidwadol Cyngor Powys, Aled Davies: "Ni fydd neb yn cael ei benodi i'r parc cenedlaethol."

Disgrifiodd fideo yn cynnwys yr actor Michael Sheen yn cyhoeddi'r penderfyniad enwi fel un "ofnadwy".

Ychwanegodd Mr Davies: "Dyw cydbwysedd gwleidyddol yr awdurdod ddim yn iawn, dwi'n ofni bod angen datrys hyn yn gyflym iawn."

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y parc wedi cynhyrchu ffilm fer yn egluro'r newidiadau, gyda'r actor Michael Sheen yn cyflwyno

Dywedodd cyn-gadeirydd awdurdod y parc a'r dirprwy gadeirydd presennol, y cynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol Gareth Ratcliffe: "Mae'r parc cenedlaethol yn wleidyddol gytbwys drwy'r awdurdod hwn a'r cynghorau eraill sydd wedi'u gosod mewn statud.

"Mae'r sylwadau nad yw'n wleidyddol gytbwys yn anghywir."

Dywedodd cadeirydd y cyngor, Beverley Baynham, y byddai'n nodi'r sylwadau ond "ddim yn cynnal dadl" ar y mater.