Apelio am wybodaeth ar ôl nifer o danau gwyllt
- Cyhoeddwyd
![Porth, Rhondda](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/24ED/production/_129835490_ff4b3dfb-3461-4002-be96-9fb46917a99a.jpg)
Y tân ar fynydd yn Y Porth yn Rhondda Cynon Taf rai dyddiau'n ôl
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn apelio am wybodaeth ynglŷn â nifer o danau gwyllt dros y penwythnos.
Fe wnaeth criwiau ymateb i 24 tân glaswellt a chredir fod 18 ohonyn nhw yn danau a gafodd eu cynnau yn fwriadol.
Roedd rhai o'r mannau hynny'n cynnwys Abertawe, Y Porth, Glyn-nedd a Machynlleth.
Mae diffoddwyr yn poeni y bydd mwy o achosion wrth i'r tywydd boethi dros yr wythnosau a misoedd nesaf.
Yn 2022, fe wnaeth y gwasanaethau tân ledled Cymru ymateb i 3,269 o danau glaswellt.
Roedd hyn yn gynnydd o 62% ar y flwyddyn flaenorol, gyda nifer y tanau glaswellt bwriadol yn cynyddu o 1,542 (47%) i 2,263.
Rhybudd am farbeciws tafladwy
Mae Aled Griffiths yn rheolwr gorsaf gyda Gwasanaeth Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywed bod y broblem yn cynyddu wrth i fwy o dwristiaid ymweld â Chymru.
![Aled Griffiths](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D8ED/production/_129833555_cb3b9b12-fe81-4f3f-9068-213ed43221d8.jpg)
'Rhaid glynu at y canllawiau,' medd Aled Griffiths
"Roedd hi'n broblem fawr flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig yn yr haf poeth gafon ni.
"Gethon ni 500% yn fwy o alwadau tân ym mis Awst yn unig, i gymharu â'r flwyddyn cyn hynny."
Yn ôl Mr Griffiths un o'r achosion mwyaf oedd barbeciws tafladwy.
"Ni'n erfyn ar bobl os maen nhw'n defnyddio nhw, ddim i adael nhw a defnyddio nhw mewn ffordd lle dydyn nhw ddim yn creu dinistr a niwed i fywyd gwyllt.
![tan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0CC2/production/_123866230_psx_20220323_220337.jpg)
Y fflamau yn rhuo ar lethrau Mynydd Mawr ger Y Fron yn 2022
Ychwanegodd: "Yn anffodus os mae pobl yn cynnau tân - mae yna lot o danwydd ar y bryniau ar y foment. Felly'n amlwg os mae pobl yn mynd i gynnau tanau, mae'n mynd i fod yn broblem.
"Ni'n rhybuddio pobl os mae yna danau mawr pa fath o action i gymryd. Cau ffenestri ac yn y blaen achos mae'r mwg sy'n dod o'r tanau yma'n achosi trwbl i'n cymunedau ni.
"Ni'n erfyn ar bobl os maen nhw'n gweld pobl yn dechrau tân yn fwriadol i reportio nhw i'r heddlu ar rif Crimestoppers."
Yn ogystal â thwristiaeth, mae tirfeddianwyr yn llosgi ar dir preifat yn gallu achosi problemau i'r gwasanaeth tân ac achub.
![Tân Abertawe](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/135D1/production/_123831397_swansea-fire-jordan-webber1.jpg)
Yn 2022, fe wnaeth y gwasanaethau tân ledled Cymru ymateb i 3,269 o danau glaswellt - roedd hyn yn gynnydd o 62% ar y flwyddyn flaenorol
Yn ôl Aled Griffiths mae angen i dirfeddianwyr sicrhau eu bod yn glynu at y canllawiau diogelwch cywir.
"Yn gyntaf oll i 'neud hynny tu fewn i'r ffenest swyddogol," ychwanegodd.
Does dim caniatâd i losgi ar dir preifat, heblaw rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth ar ucheldir neu rhwng 1 Tachwedd a 15 Mawrth ymhobman arall. Mae Mr Griffiths yn pwysleisio bod yna ganllawiau i'w dilyn wrth wneud hynny.
"Mae'n rhaid gadael y gwasanaeth tân i wybod eu bod nhw'n llosgi a hefyd llosgi mewn ffordd lle dyw'r tân ffili mynd mas o control."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022