Abertawe: Teyrnged i ddyn a chyhuddo dyn arall o lofruddio
- Cyhoeddwyd
![Martin Steel](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/BDC7/production/_129838584_martin.jpg)
Fe gafodd corff Martin Steel ei ddarganfod ar 20 Mai
Mae dyn 38 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i heddlu ddod o hyd i gorff dyn yn Abertawe.
Cafwyd hyd i Martin Steel, 48, yn farw mewn eiddo ar Hill View Crescent yn ardal y Clâs am 10:30 fore Sadwrn, 20 Mai.
Dywedodd ei deulu, sydd yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, eu bod "mor drist yn sgil eu colled sydyn".
"Roedd Martin yn fab, tad, tadcu a nai oedd yn cael ei garu'n fawr a fydd yn cael ei golli'n fawr."
![Ceir heddlu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11BB5/production/_129792627_murder.jpg)
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i eiddo ar Hill View Crescent yn ardal y Clâs
Mae Darren Steel, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio, yn parhau yn nalfa'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville: "Yn amlwg, bydd y digwyddiad hwn yn achosi sioc i gymuned y Clâs.
"Mae fy meddyliau'n dal gyda theulu Martin sydd, yn ddealladwy, yn hynod o drist gan yr hyn sydd wedi digwydd.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a llygad dystion am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei ddarparu i'r ymchwiliad hyd yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2023