Ailagor Pont Britannia ar ôl gwrthdrawiad angheuol ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
Tagfeydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau Pont Britannia yn dilyn y digwyddiad fore Mawrth, gan adael nifer fawr o gerbydau'n sownd mewn traffig

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar Bont Britannia yn oriau mân y bore.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi galw i'r digwyddiad am tua 03:10 fore Mawrth, yn dilyn gwrthdrawiad i gyfeiriad y dwyrain ar y bont rhwng Ynys Môn a Gwynedd.

Bu farw'r person yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu a'r cwrner wedi cael gwybod.

Roedd y bont ar gau am rai oriau, gan achosi problemau traffig sylweddol yn yr ardal, nes iddi gael ei hailagor tua hanner dydd.

'Digalon'

Dywedodd yr heddlu eu bod bellach yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad, gan apelio ar unrhyw un â lluniau camera cerbyd, "neu a welodd BMW 3 Series llwyd", i gysylltu gyda nhw.

Oherwydd y tagfeydd bu'n rhaid i rai plant gerdded rhan o'r ffordd i'w hysgol fore Mawrth, gan fod bysus yn sownd.

Gyda Phont Britannia ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad, mae'r digwyddiad wedi codi galwadau o'r newydd am drydedd bont dros Afon Menai.

Mae'r A55 bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad ond y disgwyl, yn ôl yr heddlu, ydy y bydd amseroedd teithio yn cymryd yn hirach na'r arfer.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun yma ei dynnu o fws ysgol a oedd yn sownd mewn traffig ar yr A55 ar y ffordd i Ysgol David Hughes

"Mae hwn yn amlwg yn fy nghythruddo i yn ofnadwy," meddai arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

"'Dan ni wedi galw am gefnogaeth y llywodraeth i gael trydedd bont nid oherwydd bod ni eisiau lôn newydd, ond oherwydd nad oes ganddon ni gysylltiad sy'n diogelu'r ynys.

"Bore 'ma, mae 'na bobl ifanc yn cerdded ar ochr lôn er mwyn cyrraedd yr ysgol i sefyll eu harholiadau Lefel A [Safon Uwch].

"Mae hynna'n ddigalon o beth, mae'r hogiau ifanc 'ma yn mynd trwy ddigon o gyfnod anodd yn paratoi ac maen nhw'n rhedeg a rhuthro ar hyd lonydd sydd ddim wedi eu creu i gerdded ar, sydd yn fater diogelwch ynddo'i hun.

"Pan dwi 'di bod yn galw ar y llywodraeth i edrych ar hyn mewn ffordd dra gwahanol i ffyrdd eraill Cymru, dwi'm yn teimlo eu bod nhw'n deall gwir beryg y sefyllfa ac mae rhywun yn gweld y darluniau o'r lorïau yn sefyll.

"Dwi wirioneddol yn gobeithio fod y llywodraeth yn deall bregusrwydd Ynys Môn a dim galw am rywbeth vanity ydi'r drydedd bont - mae'n gwbl hanfodol."

Ategodd yr Aelod o'r Senedd lleol, Rhun ap Iorwerth, ei sylwadau am drydedd bont dros Y Fenai.

"Mae'r digwyddiad yma'n dangos unwaith eto pam fod cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol ar gyfer diogelwch a chysylltedd," meddai.

"Dwi'n clywed am lorïau trymion yn croesi Pont y Borth er gwaetha'r cyfyngiad 7.5 tunnell, ac er gwaetha'r protocol 'stacio'," meddai.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ffordd yr A55 ar gau am gyfnod fore Mawrth

Cyfeiriodd hefyd at drenau'n cael eu canslo oherwydd y trafferthion.

"Dwi hefyd yn clywed am blant ysgol yn poeni, ac yn sownd mewn traffig wrth geisio cyrraedd yr ysgol mewn pryd ar gyfer arholiadau.

"Mae'n sefyllfa y mae'n rhaid ceisio'i hosgoi yn y dyfodol, a dyna pam rwyf yn glir bod angen pont arall.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y croesiad yn wydn, ac mae heddiw'n dangos unwaith eto nad ydy hynny'n wir. Byddaf yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosib."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod rhannau o Bont Britannia wedi gorfod cau dros dro "er budd diogelwch y cyhoedd".

"Rydym wedi gofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru fynd i'r afael â'r mater o wydnwch trafnidiaeth yn y tymor hir.

"Bydd eu canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi'n fuan."

Pynciau cysylltiedig