Geraint Thomas 'nôl yng nghrys pinc y Giro d'Italia
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas wedi ailfeddiannu crys pinc yn y Giro D'italia, wedi iddo orffen yn ail i Joao Almeida ar gymal 16.
Wrth i'r seiclwyr ddechrau'r drydedd wythnos o rasio, dangosodd y Cymro fod dal ganddo obaith gwirioneddol o ennill y Giro.
Mae bellach wedi ymestyn ei fantais o ddwy eiliad dros ei brif wrthwynebydd yn y dosbarthiad cyffredinol, Primoz Roglic, i 29 eiliad.
Almeida ei hun sydd bellach yn ail yn y dosbarthiad cyffredinol, 18 eiliad y tu ôl i Thomas.
"Byddai, mi fyddai wedi bod yn neis ennill y cymal, ond roedd e'n un o rheiny lle'r oedd rhaid cadw seiclo," meddai Thomas ar ddiwedd y cymal.
Ychwanegodd seiclwr Ineos: "Mae'n braf bod nôl mewn pinc ac ennill bach o amser."
Ar y diwrnod gorffwys ddydd Llun, roedd y Cymro wedi cyfaddef fod y rasio eleni wedi bod yn "siomedig" o ganlyniad i ormod o law.
Mae cyfuniad o law trwm a raswyr yn dangos symptomau Covid hefyd wedi tanseilio'r ras.
Cyn dechrau'r wythnos olaf heriol i Rufain, dywedodd Thomas: "Dwi wedi cael fy siomi ychydig. Roeddwn i eisiau profi fy hun yn erbyn y raswyr eraill, ond mae'r amodau hyd yn hyn wedi atal hynny."
Hyd yn hyn mae 44 o'r cystadleuwyr wedi tynnu allan o'r ras, y rhan fwyaf oherwydd symptomau Covid, gan gynnwys ffefryn y ras o Wlad Belg, Remco Evenepoel o dîm Soudal Quick-Step.