Faint ydych chi'n ei wybod am y gêm padel?
- Cyhoeddwyd
Dros benwythnos gŵyl y banc 27-29 Mai cafodd Pencampwriaeth Agored Padel Cymru ei chynnal yn y ganolfan genedlaethol yng Nghwmbrân.
Teithiodd pobl o ledled Cymru a thu hwnt i Went i gystadlu yn y gamp sy'n cael ei disgrifio fel y gêm sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop.
Ond beth yw padel? David Cornwell yw cyfarwyddwr Padel Cymru ac fe siaradodd gyda BBC Cymru Fyw am y gamp.
"Mae padel yn gamp sy'n hynod boblogaidd yn yr America Ladin a Sbaen ac mae ar gynnydd mewn ardaloedd eraill o Ewrop hefyd - dim gymaint yn y Deyrnas Unedig, a llai fyth yng Nghymru," meddai.
Mae 165 cwrt drwy Brydain, a hynny mewn 72 clwb neu ganolfan.
Ond mae gan Sbaen bellach dros 40,000 o gyrtiau; mae 4,600 yn Yr Eidal, 2,800 yn Sweden, 1,150 yn Ffrainc a 650 yn Yr Iseldiroedd.
Mae 'na lawer o enwogion ar y cyfandir sy'n hoff o padel, ac yn ôl y sôn mae Zinadine Zidane wedi gwirioni'n llwyr â'r gamp.
Sut mae chwarae padel?
"Mae'n gêm hanner ffordd rhwng tennis a sboncen," esbonia David Cornwell.
"Mae'r gêm yn cael ei chwarae dros rwyd fel tennis a mae'r sgorio hefyd fel tennis, ond mae 'na waliau gwydr ac mae posib bownsio'r bêl oddi arnyn nhw, yn debyg i sboncen.
"Mae'r chwaraewyr tennis wedi arfer chwarae gyda rhwyd, ond dim gyda waliau, ble mae chwaraewyr sboncen wedi arfer gyda'r waliau, ond ddim wedi arfer gyda'r rhwyd.
"O ran gweithgaredd cardio, mae'n gyflymach na tennis ond yn arafach na sboncen," meddai David.
"Mae padel yn cael ei chwarae mewn parau bron iawn bob amser. Mae 'na 'chydig o arbrofi wedi bod mewn cael gemau a chyrtiau un-ar-un, ond dydi rheiny ddim wedi llwyddo mewn gwirionedd."
Hanes y gêm
"Os ydych chi wedi bod ar wyliau i Sbaen mae siawns da eich bod wedi gweld cyrtiau padel, ond efallai doeddech chi ddim yn siŵr beth oedden nhw ar y pryd.
"Hwn yw'r ail gamp mwyaf poblogaidd i'w chwarae yn Sbaen, ar ôl pêl-droed wrth gwrs, ac maent yn gwerthu dwywaith gymaint o racedi padel bob blwyddyn na racedi tennis. Felly os oeddech yn meddwl bod Sbaen yn wlad tennis... na, mae tennis yn gamp leiafrifol i'w gymharu."
"Mae lot o drafod ynghylch o ble mae padel yn dod - roedd y math yma yn cael ei chwarae ar cruise liners yn y 19eg ganrif.
"Ond mae gêm fodern padel ry'n ni'n 'nabod heddiw yn deillio o Fecsico o ddiwedd y 1960au. Yn ôl y stori roedd 'na filiwnydd a oedd â dim digon o arian ar gyfer cwrt tennis, felly 'nath o gwrt llai a rhoi weiren ieir o'i gwmpas."
Mae yna dri chwrt padel yng Nghymru, mewn dwy ganolfan; dau gwrt yn y ganolfan genedlaethol yng Nghwbrân, a'r trydydd ym Mhenarth.
"Mae padel yn tyfu yn gyflym iawn ledled y Deyrnas Unedig. Mae Bryste wedi mynd o gael dim un cwrt padel i 25 cwrt mewn blwyddyn."
Pencampwriaethau Agored Cymru
"Dyma oedd y twrnament padel iawn gyntaf yng Nghymru. Roedd 'na un y llynedd a oedd ynghlwm â'r gystadleuaeth tennis genedlaethol, ond eleni roedd padel yn cael digwyddiad unigol ei hun.
"Ar 27 Mai cynhaliwyd y gystadleuaeth 100+, sydd yn rywbeth cyffredin i padel, ond nid i tennis. Gan fod padel yn gêm sy'n cael ei chwarae mewn parau, y syniad ydy bod chwaraewyr i gyd yn gorfod bod o leiaf 45 oed, a bod y ddau aelod o'r tîm efo'i gilydd yn gwneud cyfanswm o o leiaf 100. Er enghraifft os ydych chi'n 45 byddai rhaid i'ch partner chi fod o leiaf 55."
"Ar 28-29 Mai roedd y pencampwriaeth agored dynion yn cael ei chwarae, ac ar 29 Mai roedd pencampwriaeth y merched."
Roedd y cystadleuwyr yn dod o Gymru a thu hwnt, gyda llawer o'r cystadleuwyr yn Gymry sydd bellach yn byw yn Lloegr, Yr Alban neu Iwerddon, ac hefyd ymhellach fel Yr Eidal.
"Roedd hefyd yn dwrnament graddio LTA (Lawn Tennis Association) felly roedd cystadleuwyr yn cael pwyntiau yn sgil eu perfformiadau."
Ym mis Mawrth roedd yna gystadleuaeth y Pedair Gwlad, ble roedd Cymru'n wynebu Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon.
Y dyfodol?
"Dwi'n siarad o safbwynt personol fel rhywun a adeiladodd ac sy'n rhedeg Canolfan Padel Cymru," meddai David. "'Nes i adeiladu'r ganolfan am mod i'n caru'r gamp ac roedd yn brosiect i fi wedi imi ymddeol. Dwi'n meddwl bod padel yn gamp wych, a dwi'n teimlo y dylai mwy o bobl gymryd rhan.
"Mae'n gamp gymdeithasol ac hefyd cynhwysol, gan ei fod yn gêm o sgil yn hytrach na nerth - felly mae dynion a merched yn gallu chwarae efo'i gilydd.
"Mae tua 150 yn chwarae yma yng Nghwmbrân, a'r gobaith ydy y gwneith hynny dyfu, ac mae 'na gynlluniau cyffrous i dyfu padel yng Nghaerdydd. Mae 'na fuddsoddwyr o dramor hefyd yn edrych ar y Deyrnas Unedig fel marchnad ble mae cyfle i dyfu'r gêm."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gyda chyrtiau padel newydd yn dod i Gaerdydd a'r potensial i ledaenu cyfleusterau ledled y wlad, mae'n bosib y bydd padel yn gêm amlwg iawn yn mywyd dydd i ddydd pobl Cymru yn y dyfodol.
Hefyd o ddiddordeb: