Gwreiddiau Cymreig seren Wimbledon, Cameron Norrie
- Cyhoeddwyd
Ar yr adeg yma o'r flwyddyn mae cefnogwyr tennis yn eu helfen, gyda phencampwriaeth Wimbledon yn cael ei chynnal yn ne-orllewin Llundain.
Wrth i ni fynd mewn i rownd yr wyth olaf mae 'na ongl Gymreig i'r cystadlu - gan fod chwaraewr rhif un yn netholion Prydain, a'r 12fed yn netholion y byd, yn fab i Gymraes.
Cafodd Cameron Norrie ei eni yn Ne Affrica a'i fagu yn Seland Newydd ond mae ei fam, Helen, o Gymru a'i dad, David, yn Albanwr.
Siaradodd BBC Cymru Fyw gyda Bronwen Norrie, chwaer Cam, fel mae'n cael ei adnabod, am eu cysylltiadau Cymreig a'r gobeithion i'r dyfodol.
"Mae teulu ein mam, Helen, yn dod o Gaerdydd", meddai Bronwen. "Roedd rhieni fy mam (Glyn a Joan Williams) yn byw yng Nghaerdydd tan ganol eu 30au.
"Roedd fy nhaid yn gweithio i'r Western Mail yng Nghaerdydd, ond fe ymfudodd ef, fy nain a gweddill y teulu i Dde Affrica."
Er i'r teulu Williams adael am Dde Affrica (ac yna Seland Newydd), mae gan Cameron a Bronwen deulu yn dal i fod yng Nghymru.
"Mae fy hen ewythr, Ralph Williams, yn dal i fyw yng Nghymru ac rydyn ni'n mynd i'w weld pan ni'n gallu."
Pwysigrwydd chwaraeon
"Mae chwaraeon yn hynod o bwysig i ni fel teulu - rydyn ni i gyd wrth ein bodd yn gwylio a chwarae chwaraeon.
"Mae fy mam yn rhedeg bron bob dydd, ac mae fy nhad yn beicio ac yn chwarae tennis."
Mae Bronwen hefyd yn chwarae sawl camp: "Roeddwn i'n rhedeg ac yn arfer chwarae llawer o bêl-rwyd a thennis wrth dyfu i fyny."
Dewis tennis
Roedd Cam yn rhagori mewn sawl camp wahanol yn ystod ei blentyndod yn Seland Newydd, ond roedd rhaid gwneud penderfyniad a dewis un.
"Chwaraeodd Cam lawer o wahanol chwaraeon wrth dyfu fyny - criced, pêl-droed, athletau a thennis", esbonia Bronwen.
"Ond roedd yn rhaid iddo ddewis yr un gamp yr oedd yn ei hoffi fwyaf pan ddechreuodd fynd ychydig yn hŷn gan nad oedd ganddo ddigon o amser i wneud yr holl chwaraeon ac ar lefel uchel - felly dewisodd tennis."
Yn 2011, ac yntau'n 16, fe symudodd Cam i Lundain gyda'i deulu, ac ers hynny mae wedi cynrychioli Prydain yn rhyngwladol.
Er mai tennis yw'r gamp mae yn ei chwarae, mae Cam yn hoff o sawl math o chwaraeon - yn gefnogwr brwd o'r Crysau Duon, y South Sydney Rabbitohs (rygbi'r gynghrair) a Chlwb Pêl-droed Newcastle United.
Ydy cefndir cymysg Cam yn ei gwneud hi'n anodd i ddewis tîm i'w gefnogi pan fo tîm rygbi Cymru'n wynebu'r Seland Newydd?
"Er ein bod ni'n ymwybodol o'n hetifeddiaeth Gymreig, allai ddim dweud bod 'na benderfyniad anodd i'w wneud i Cam rhwng Cymru a'r Crysau Duon mewn gwirionedd," meddai Bronwen.
Bywyd athletwr rhyngwladol
Mae'r amserlen ar gyfer chwaraewr tennis proffesiynol yn gallu bod yn hynod o brysur, gyda lot o deithio ac aros mewn gwestai.
"Yr anfanteision ydy bod rhaid iddo wneud rhai aberthau ac nid yw'n cael gweld ei anwyliaid mor aml ag y dymuna. Ond y manteision yw ei fod yn cael cystadlu, teithio'r byd a gwneud swydd y mae'n ei garu bob dydd gyda thîm gwych y tu ôl iddo," meddai Bronwen.
Hefyd o ddiddordeb: