Treth dwristiaeth: Rhybudd y gallai niweidio busnesau Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Bluestone
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bluestone yn buddsoddi £30m er mwyn agor 80 o dai gwyliau moethus, bwyty a fferm solar 11 hectar

Mae prif weithredwr pentref gwyliau Bluestone yn Sir Benfro wedi rhybuddio y gallai'r dreth arfaethedig i dwristiaid niweidio busnesau Cymreig.

Fe wnaeth William McNamara ei sylwadau wrth i'r atyniad pum seren ger Arberth agor 80 o gabanau gwyliau moethus a bwyty treftadaeth, yn dilyn buddsoddiad o £30m.

Ychwanegodd na ddylai'r dreth fod yn rhwystro ymwelwyr rhag dod i Gymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai'r dreth "wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gynhyrchu refeniw newydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau a seilwaith lleol".

'Bydd yn effeithio ar ein busnes'

Pan ofynnwyd i Mr McNamara am y dreth, dywedodd: "Fe fydd yn effeithio ar ein busnes, oherwydd dyw e ddim ar draws Prydain i gyd.

"Mae hyn yn berthnasol i Gymru, a thwristiaid fydd yn gorfod talu'r dreth.

"Beth 'dyn ni ddim eisiau gweld yw rhwystr i ymweld â Chymru am fod treth twristiaeth yma, felly mae'n mynd i fod yn fater o gydbwysedd."

Mae Llywodraeth Cymru'n argymell rhoi'r pŵer i gynghorau gasglu treth twristiaeth.

Fe fydd yr arian yn cael ei wario gan gynghorau lleol ar wella isadeiledd a gwasanaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae William McNamara yn rhagweld y bydd y dadlau am y dreth "yn parhau am beth amser"

Mae Bluestone yn buddsoddi £30m er mwyn agor 80 o dai gwyliau moethus, bwyty a fferm solar 11 hectar.

Mae'r pentref gwyliau eisoes yn cyflogi 800 o bobl ac mae'r busnes yn gwario £7m ar gyflenwyr ar draws Cymru - gyda 65% o'r cyfanswm hwnnw yn cael ei wario yn Sir Benfro.

Daw 53% o'u hymwelwyr o Gymru, a 44% o Loegr. Erbyn hyn, mae yna 424 o unedau gwyliau ar y safle 500 erw.

'Sut fydd yn cael ei defnyddio?'

Pan ofynnwyd i Mr McNamara, a oedd potensial i'r dreth ar dwristiaeth wneud niwed i fusnesau yng Nghymru, dywedodd: "Oes, wrth gwrs, heb amheuaeth.

"Os ydy pobl yn medru dewis i beidio talu treth yn Lloegr, a thalu un yng Nghymru, yna mae'n rhaid bod yna resymau da pam maen nhw'n fodlon talu fe yng Nghymru.

"Mae hynny'n ymwneud â sut y byd y dreth yn cael ei defnyddio.

"Rwy'n meddwl taw'r ddadl fawr nawr fydd beth yw lefel y dreth, sut mae'n cael ei chasglu, a sut y bydd yn cael ei gwario.

"Rwy'n rhagweld y bydd y ddadl yn parhau am beth amser."

Mae Bluestone yn denu 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a'r gobaith yw y bydd y buddsoddiad o £30m yn denu 50,000 yn rhagor o ymwelwyr yn flynyddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llywodraeth mai awdurdodau lleol fydd yn penderfynu a ydynt am gyflwyno'r dreth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, gyda refeniw yn cael ei ddefnyddio er budd cymunedau, twristiaid a busnesau lleol.

"Byddai ein cynlluniau'n caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu a ydynt am gyflwyno ardoll, yn seiliedig ar anghenion eu hardaloedd.

"Gallai'r ardoll wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gynhyrchu refeniw newydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau a seilwaith lleol.

"Ein bwriad yw meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd rhwng preswylwyr ac ymwelwyr, i ddiogelu, a buddsoddi mewn ardaloedd lleol ac annog dull mwy cynaliadwy ar gyfer twristiaeth."

'Dwli ar y diwydiant a'r bobl'

Mae perchnogion cystadleuwyr Bluestone, Center Parcs, wedi rhoi'r busnes ar werth, gydag adroddiadau eu bod yn gobeithio cael £4-5bn amdano.

Ond mae William McNamara yn dweud nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn gwerthu Bluestone.

"Rwy'n dwli ar y diwydiant a'r bobl. Dwi wrth fy modd yn gweld y gwesteion yn mwynhau yma," meddai.

"Mae gyda ni deulu o 800 o staff ac maen nhw yn bwysig iawn i fi. Dwi wrth fy modd yn dod i'r gwaith bob dydd.

"Dyw Bluestone ddim ar werth, ond wedi dweud hynny, mae'n rhaid ystyried unrhyw gynnig am arian dwl!

"Mae arweinwyr y diwydiant ar werth am £4-5bn. Gawn ni weld beth fydd yn digwydd."

Fe gadarnhaodd Mr McNamara bod penderfyniad dadleuol y llynedd i gyfyngu defnydd o atyniad Blue Lagoon i ymwelwyr Bluestone yn unig bellach yn cael ei adolygu.

Roedd yr atyniad dŵr yn arfer bod ar agor i'r cyhoedd cyn y pandemig.

Gwlad Groeg

Mae treth dwristiaeth yn cael ei ddefnyddio'n barod mewn nifer o wledydd eraill, gan gynnwys Gwlad Groeg.

Dywedodd Menna Michoudis, sy'n byw ar Ynys Skiathos, wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fod y dreth wedi bodoli ar yr ynys ers 2018.

"Rhaid i fi ddweud, dydy o heb effeithio pobl mewn unrhyw ffordd gyda'u penderfyniadau i fynd ar wyliau i Skiathos," meddai.

"Mae'r swm maen nhw'n ei dalu ddim yn anferthol, ac maen nhw [y twristiaid] yn ymdopi gyda fo'n dda."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Porthladd Skiathos - mae'r ynys ychydig oddi ar arfordir tir mawr Groeg, ac yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid

Eglurodd Menna Michoudis bod pris y dreth yn Skiathos yn amrywio yn ddibynnol ar y llety mae rhywun yn aros ynddo.

I aros mewn llety hunan arlwyo, mae'r gost yn 50 cent (sydd tua 42 ceiniog) y diwrnod am y llety cyfan, nid am bob person.

Ond i aros mewn gwesty pum seren, y dreth ddyddiol yw €4, felly byddai wythnos yn costio €28 (£24.35).

"Dydy o ddim yn bris sydd am stopio pobl ddod," meddai Menna.

"Mae'r arian sydd yn cael ei hel yn cael ei roi mewn i'r gymuned lleol... mae'n help mawr."

"Mae'n mynd tuag at drwsio ffyrdd, gwneud y lle yn fwy prydferth. Mae ychydig o'r pres yn mynd at y system iechyd sydd wrth gwrs, gyda mwy o dwristiaid, yn rhoi mwy o bwysau ar y system iechyd.

"Dwi 'di gweld tipyn o newidiadau dros y blynyddoedd diwethaf ers i'r pres extra 'ma ddechrau dod i mewn."

Pynciau cysylltiedig