Arian: £9bn mewn hen arian y DU heb eu cyfnewid
- Cyhoeddwyd
Nid yw bron i £9biliwn mewn hen arian papur wedi eu cyfnewid, er bod arian papur £20 a £50 wedi peidio â bod yn gyfreithiol ers mis Hydref y llynedd.
Mae arian papur wedi'u disodli gan arian plastig gyda chyfres o nodweddion diogelwch.
Dywedodd Banc Lloegr y gallai'r arian papur gael eu cyfnewid neu eu rhoi yn eich banc o hyd.
Mae hefyd £87m o hen ddarnau arian £1 heb eu dychwelyd, yn ôl y Bathdy Brenhinol.
Datgelwyd manylion yr arian sy'n dal mewn cylchrediad neu'n cuddio mewn cartrefi mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru.
Dywedodd Banc Lloegr fod 445 miliwn o ddarnau o arian papur yn parhau mewn cylchrediad:
111 miliwn o bapurau £5
65 miliwn o bapurau £10
198 miliwn o bapurau £20
70 miliwn o bapurau £50
Tynnwyd y nodiadau papur £5 yn ôl ym mis Mai 2017, a'r papur £10 ym mis Mawrth 2018, ac ers hynny nid ydynt wedi bod yn ddull talu cyfreithiol.
Yn ogystal â'r arian papur, dywedodd y Bathdy Brenhinol nad oedd tua 87 miliwn o hen ddarnau arian £1 wedi'u dychwelyd.
Fodd bynnag, mae tua 18 miliwn wedi'u dychwelyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
O'r 1.6 biliwn sydd wedi'u dychwelyd, roedd tua 1.8 miliwn yn ffug.
Disodlwyd y darn arian crwn £1 gan y fersiwn 12 ochr ym mis Hydref 2017, er mwyn mynd i'r afael â ffugio.
Mae'r hen ddarn £1 yn dal i gael ei dderbyn gan Swyddfa'r Post ond ni ellir ei wario mewn siopau.
Yn ôl y Bathdy Brenhinol, sy'n eiddo i Drysorlys y DU, mae tua 138 miliwn o hen ddarnau £1 wedi'u toddi i wneud rhai o'r rhai newydd yn ei ganolfan yn Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf.
Daeth y £50 polymer - gyda phortread Alan Turing - i gylchrediad ar 23 Mehefin 2021, sy'n golygu bod casgliad cyfan y Banc wedi'i wneud o blastig erbyn hyn.
'Am byth'
Er nad yw'r arian papur bellach yn gyfreithiol, byddant bob amser yn cael eu cyfnewid gan Fanc Lloegr.
Eglurodd llefarydd fod "pob papur banc dilys Banc Lloegr sydd wedi ei dynnu allan o gylchrediad yn cadw eu hwynebwerth am byth".
Dywedodd Banc Lloegr mai'r ffordd symlaf a chyflymaf o gyfnewid arian papur "fel arfer fydd eu hadneuo gyda'ch banc".
"Gallwch gyfnewid arian papur mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post. Y gwerth mwyaf y gallwch ei gyfnewid yn Swyddfa'r Post yw £300."
Gellir mynd â hen arian papur i Fanc Lloegr yn Llundain yn bersonol hefyd ond mae'r banc yn rhybuddio am "amseroedd aros hir".
Gostyngodd y defnydd o arian parod yn sydyn yn ystod y pandemig, wrth i gyfnodau clo leihau opsiynau gwario.
Cyflymodd hyn duedd ar i lawr o ran defnyddio arian parod.
Fodd bynnag, roedd arian parod yn dal i gyfrif am 15% o'r holl daliadau yn 2022, yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael gan y corff bancio UK Finance, sy'n golygu mai dyma'r ail ffordd fwyaf poblogaidd o dalu ar ôl cardiau debyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd18 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023