Pennaeth Starling Bank, y Gymraes Anne Boden, i adael
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes sy'n brif weithredwr un o fanciau ar-lein amlycaf Prydain, Starling Bank wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y cwmni wedi naw mlynedd yn y rôl.
Dywedodd Anne Boden, sy'n 63 oed ac yn wreiddiol o ardal Bonymaen yn Abertawe, mai dyma'r amser iawn iddi gamu o'r neilltu wrth i'r cwmni gyhoeddi cynnydd mawr yn ei elw cyn treth.
Bydd yn rhoi'r gorau i'w swydd ar 30 Mehefin, ond yn parhau fel aelod o'r bwrdd yn ogystal â pharhau i fod yn berchen ar ran o'r cwmni.
Yn ôl Starling Bank, maen nhw eisoes wedi dechrau chwilio am brif weithredwr newydd.
'Cywilydd bod yn fancwr'
Pan sefydlwyd y banc yn 2014, roedd yn un o'r ychydig fanciau newydd a heriodd y diwydiant bancio ym Mhrydain.
Heb ganghennau ar y stryd fawr, drwy ap y byddai Starling yn cynnig eu gwasanaeth.
Yn raddol, tyfodd y banc drwy ddenu cwsmeriaid personol ac yna chyfrifon busnes a morgeisi.
Hyd at ddiwedd Mawrth 2023 gwnaeth y cwmni elw cyn treth o £195m, sef chwe gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.
Mewn cyfweliad arbennig gyda BBC Cymru, dywedodd Ms Boden: "Mae'n deimlad gwefreiddiol.
"Pan rwy'n edrych yn ôl ar sut y dechreuais i Starling, wnes i fyth feddwl y byddwn yn cyrraedd y pwynt yma.
"Mae Starling yn fwy nag un person yn unig, mae'n fwy na sefydliad sy'n cael ei arwain gan y sylfaenydd.
"Mae'n ddarn o seilwaith sy'n bwysig i'r Deyrnas Unedig. Rydyn ni'n darparu rôl bwysig o fewn cymdeithas.
"Doedd pobl byth yn credu y gallai Cymraes bum troedfedd, yng nghanol ei 50au, wneud rhywbeth nad oedd erioed wedi'i wneud o'r blaen.
"Roeddwn i'n teimlo cywilydd i fod yn fancwr, roedd gen i gywilydd i fod yn rhan o'r holl drefn honno oedd wedi siomi'r wlad.
"Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol. Roeddwn i eisiau dod o hyd i fanc a oedd yn un da iawn ac yn deg gyda chwsmeriaid.
"Doedd pobl byth yn credu y gallwn wneud hynny, ac i fod yn broffidiol hefyd."
O ganlyniad i'w llwyddiant fel menyw ym myd cyllid, mae Anne Boden yn cadeirio tasglu Llywodraeth y DU sy'n ceisio hybu nifer y merched sy'n dechrau busnesau sy'n tyfu'n gyflym.
"Pan fydd menywod yn cael y buddsoddiad, pan fydd menywod yn cael y cyfle, gallant arwain cwmnïau gwych ac arwain y cwmnïau hynny i lwyddiant," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020