Pum munud gyda Bardd y Mis: Cris Dafis
- Cyhoeddwyd
Bardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Mehefin ydi Cris Dafis.
Yn diwtor iaith gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn Uwch Gyfieithydd gyda Chyngor Caerdydd ac yn golofnydd wythnosol i gylchgrawn Golwg, mae Cris wedi bod yn barddoni yn 'dawel fach' ers cyhoeddi cyfrol o farddorniaeth yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Cafodd ei gyfrol, Mudo, ei chyhoeddi yn 2019.
Cymru Fyw fu'n ei holi.
Cawsoch eich magu yn Llanelli, aethoch chi i'r brifysgol yn Aber, rydych chi nawr yn byw yng Nghaerdydd - ydych chi'n teimlo fod lle rydych chi wedi byw wedi cael effaith ar eich ysgrifennu?
Fy mhrofiadau yn y gwahanol leoedd sydd wedi dylanwadu'n bennaf dwi'n meddwl, yn hytrach na'r lleoedd eu hunain.
Dim ond fel plentyn a pherson ifanc y bues i'n byw'n llawn amser yn Llanelli - ac felly dylanwad plentyndod sydd o'r cyfnod hwnnw. Ro'n i'n blentyn hynod sensitif a mewnblyg; dwi'n dal i gofio (a gwrido wrth feddwl) bod yn blentyn bach yn nhŷ cymydog a gwlychu 'nhrowsus am 'mod i'n rhy boenus o swil i ddweud bod angen y tŷ bach arna i.
Fel myfyriwr y bues i'n byw yn Aberystwyth, lle ro'n i'n gobeithio y byddwn yn bwrw fy swildod - ond dal i gael trafferth wnes i gyda chyfathrebu'n hyderus. Efallai y bydd hyn yn synnu rhai sy'n meddwl 'mod i'n gegog ac yn barod iawn i rannu fy marn; ond y gwir yw mai persona cwbl ffug yw hwnnw sy'n cuddio'r person hynod ansicr a mewnblyg sydd wedi byw y tu fewn i fi erioed. Dyma mewn gwirionedd yw'r prif beth sy'n fy ngyrru at yr ychydig farddoni dwi'n ei wneud. Dyna'r unig ffordd y galla i roi llais i'r gwir berson hwnnw.
Mae mynegi teimladau ac emosiwn yn anodd iawn i fi. Mae Twitter a Facebook hefyd wedi bod yn ddefnyddiol yn fy ngalluogi i fod yn fwy gonest.
Caerdydd - dyw e ddim yn gartref i fi. Byw yma ydw i. A dydw i ddim yn credu mai yma y bydda i'n gorffen fy nyddiau. Mae pethau da iawn, a phethau gwael iawn, wedi digwydd yn ystod fy nghyfnod yng Nghaerdydd. Rywsut, mae wedi fy nysgu i fod yn fwy gwrthrychol, yn fwy ar wahân i fywyd y dorf, yn fwy ar yr ymylon. A dydw i ddim yn siŵr ai peth da yw hynny...
Beth sydd yn eich ysbrydoli chi i farddoni?
Diben barddoniaeth - a phob celfyddyd mewn gwirionedd - yw helpu pobl i roi trefn ar deimladau ac emosiynau yn fy marn i. Helpu'r sawl sy'n creu. A'r sawl sy'n darllen/gwylio. Felly gall unrhyw beth fod yn destun cerdd, yn ysbrydoliaeth - cyhyd â'i fod yn cyffwrdd rywsut ag emosiwn a theimlad. A gan fod gan bopeth gyswllt mewn rhyw ffordd ag emosiwn, gall popeth ac unrhyw beth fod yn destun cerdd.
Ers colli fy nghymar Alex mewn damwain ar y môr yn 2005, colled a galar - a'r hyn sy'n digwydd wedi colled a galar - yw'r brif peth dwi'n teimlo y galla i rannu ag eraill drwy'r ychydig farddoniaeth dwi'n ei hysgrifennu. A hynny ar ffurf unrhyw fath o golled - nid drwy farwolaeth yn unig. Colli perthynas. Colli swydd. Colli cyfle. Mae elfen o golled ynghlwm wrth bob newid, ac felly wrth fywyd yn gyffredinol.
Rydych chi wedi sôn yn y gorffennol fod ysgrifennu yn fath o gatharsis i chi - sut felly?
Dwi wedi cael pyliau o iselder erioed, a dwi'n dueddol iawn o or-feddwl pethau a gadael i broblemau bach dyfu'n rhai mawr iawn yn y meddwl - gan orlenwi'r meddwl weithiau, ar draul popeth arall. I fi, mae'r ddisgyblaeth o orfod dweud pethau'n gryno - a'u hysgrifennu mewn hyn a hyn o eiriau - yn helpu i dorri problem yn ôl i'w gwir a phriod faint. Felly dwi ddim yn siŵr ai catharsis yw'r gair cywir mewn gwirionedd; i fi, mae ysgrifennu'n ffordd o ddod â phersbectif iachach yn ôl i fywyd.
Efallai fod pobl sydd wedi arfer darllen eich colofn yn Golwg ddim yn sylweddoli eich bod chi'n barddoni. Pa fath o ysgrifennu sydd yn dod hawsaf i chi?
Dwi'n fwy cyfforddus o lawer gyda'r label "colofnydd" na "bardd" rhaid cyfaddef. Mae ysgrifennu colofn amserol wythnosol yn waith llawer mwy anodd nag y byddai unrhyw un sydd heb roi cynnig arni'n ei ddychmygu. Ac mae'r meddwl yn gallu bod yn wag iawn ambell wythnos.
Ond mae ysgrifennu barddoniaeth yn dod â heriau gwahanol iawn. Fydd pobl yn ei hystyried yn farddoniaeth dda? Fydd pobl yn ei hystyried yn farddoniaeth o gwbl?
Y pwnc yw'r peth pwysicaf mewn colofn, mae'r dweud yn bwysicach mewn cerdd dwi'n tybio.
Efallai y byddwn yn fy nisgrifio fy hun fel tiwtor a chyfieithydd, sydd hefyd yn ysgrifennu colofn wythnosol i Golwg ac yn potshan nawr ac yn y man â barddoniaeth. Gweithio gyda geiriau ydw i ymhob agwedd ar fy mywyd gwaith - ac mae hynny'n dod â phleserau a heriau amrywiol a gwahanol.
Rydych chi'n diwtor Cymraeg - beth yw'r heriau sydd yn ein hwynebu fel Cymry wrth geisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg?
Diffyg trosglwyddo'r iaith o genhedlaeth i genhedlaeth. Ar y cyfan, efallai fod gen i fwy o ffydd mewn dysgwyr a'r siaradwyr newydd na rhai o'r "hen" siaradwyr. Yr hyn sydd wir yn dân ar fy nghroen yw'r ffordd ry'n ni'n eilun-addoli rhai enwogion sy'n pregethu cymaint yw eu dyled i'r Gymraeg ond sydd heb drosglwyddo'r iaith i'w plant. Wedi dweud hynny, does gen i ddim plant, felly dwi heb drosglwyddo'r iaith i genhedlaeth newydd - heblaw am drwy waith tiwtora...
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Liz Newman, bardd sy'n cyhoeddi ei gwaith ar y we yn bennaf, ac yn ei rannu drwy lwyfannau fel Facebook. Byddai rhai'n eu hystyried yn llai o "fardd" o'r herwydd o bosibl.
Thema ganolog ei gwaith yw colled, galar, a bywyd wedi galar. Mae hi'n llwyddo fel neb arall i grisialu cymaint dwi wedi ei deimlo ers colli Alex, a'r hyn mae pobl eraill wedi ac yn ei deimlo. Mae ganddi ffordd ddihafal o drafod holl boen colled, ond y tyfu a'r datblygu sydd hefyd yn bosibl yn ei sgil. Mae cymuned o ddilynwyr wedi tyfu o'i chwmpas hi, i gyd yn cael cysur mawr o'i geiriau. Byddwn wrth fy modd petawn i'n gallu dod â chysur fel hynny i fywydau pobl.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Y darn Today gan Liz Newman. Ar ôl marwolaeth Alex, roedd 'na flynyddoedd lle nad o'n i'n gallu cofio'r dyddiau da - neu'n gwrthod eu cofio, am ei fod yn rhy boenus. Mae'r gerdd hon yn dangos sut mae hynny'n newid gydag amser, ac atgofion yn raddol yn troi'n gysur yn hytrach nag yn boen...
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Mae gen i ysgrif yn Curiadau: Blodeugerdd o Lenyddiaeth LHDTC+ fydd yn cael ei gyhoeddi gan Barddas tua diwedd mis Gorffennaf, dan olygyddiaeth ysbrydoledig Gareth Evans Jones. Parhau i ddoethinebu'n wythnosol yn Golwg...
Hefyd o ddiddordeb: