Bardd y Mis: Pum munud gyda Kayley Sydenham
- Cyhoeddwyd
Mae mis Medi am fod yn newid byd i lawer o bobl ifanc wrth iddynt gychwyn ar eu taith fel myfyrwyr prifysgol.
Ac mae hynny'n wir i Fardd y Mis Radio Cymru. Bardd mis Medi yw Kayley Sydenham o Gasnewydd sydd ar fin astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Kayley ydy Prifardd Eisteddfod T 2021 a hi ydy'r disgybl cyntaf erioed o Ysgol Gyfun Gwynllyw i gipio prif wobr yr Urdd. Bu Cymru Fyw'n ei holi:
Mae sawl mis bellach ers i ti ddod yn Brifardd Eisteddfod T. Sut mae'r profiad wedi bod i ti a sut ymateb wyt ti wedi ei gael ers ennill y wobr?
Oedd e'n deimlad swreal a dwi mor werthfawrogol y ges i'r cyfle i gipio'r tlws a chael mynd i Langrannog. Diwrnod bythgofiadwy a joio pob eiliad. Mae'n hyfryd bod pobl yn fy nabod i drwy farddoniaeth, sef fy nghariad cyntaf.
Cerdd am beth sgwennaist ti?
Yn fras, cerdd am iechyd meddwl ydi hi - yn benodol am hunan-niweidio. Y syniad sydd tu ôl iddi yw mae 'na ddwy ffrind agos yn gwylio machlud haul. Mae un ohonynt yn gweld y gorwel fel symbol o obaith a mae'r ffrind arall yn gweld lliwiau coch ac oren y machlud fel perygl.
Y neges tu ôl i'r gerdd ydi bod y ddwy yn edrych tuag at y gorwel gyda safbwynt a phersbectif gwahanol. Mi ydyn ni gyd fel yna, yn medru gweld pethau mewn ffordd wahanol i'n gilydd.
Mi rwyt ti wedi sgwennu am bwnc cymhleth ac anodd. Ai dy fwriad oedd codi ymwybyddiaeth am sut mae hunan-niweidio yn medru effeithio ar bobl ifanc?
Mae hunan-niweidio yn bwnc hollbwysig ac mae angen mwy o ymwybyddiaeth amdano. O ran fy ngherddi i, dim ysbrydoli ydi'r gair cywir ond addysgu; ie, dwi isio codi ymwybyddiaeth am y pwnc ond dwi hefyd isio addysgu pobl shwt deimlad yw hi i bobl sydd yn hunan-niweidio a sy'n mynd trwy gyfnodau anodd.
Er enghraifft, os bydd rhywun sydd ddim yn mynd drwy'r profiad yn darllen fy ngherddi, y gobaith yw y bydd darllen fy ngherddi yn rhoi syniad iddyn nhw am hunan-niweidio er mwyn helpu pobl sydd yn dioddef o hynny. Ond i'r bobl sydd yn mynd drwy brofiadau anodd dwi'n hoff iawn o sgwennu cerddi sy'n cynnig cysur a gobaith ac i roi'r neges - fe ddaw diwrnodau gwell ac i gynnig cymorth iddyn nhw.
Mae barddoniaeth fel ffenestr gelfyddydol a mae'n ffordd i fynegi teimladau. Hefyd mae jest nodi eich teimladau i lawr ar bapur yn gallu bod yn deimlad o ryddhad.
Rwyt ti'n dod o gartref di-Gymraeg. Sut daith ydi dod o gefndir di-Gymraeg a mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg?
Dwi o hyd wedi dweud taw y penderfyniad gorau erioed mae fy rhieni wedi gwneud drosta i oedd rhoi fi mewn addysg gynradd ac uwchradd Gymraeg, sef Ysgol Gymraeg Casnewydd ac Ysgol Gyfun Gwynllyw. Dwi mor ddiolchgar gwnaethon nhw y penderfyniad yna drosta i.
Dwi wedi manteisio gymaint oherwydd y Gymraeg. Faswn i ddim yn y sefyllfa dwi ynddi heddiw heb y Gymraeg.
O ran dod o deulu sy'n siarad Saesneg a tyfu lan efo Saesneg gartref, dwi'm yn ffeindio fe'n anodd i neud y switsh yna rhwng y ddwy iaith - tydi mynd i'r ysgol a siarad Cymraeg bob dydd a wedyn dod gartref a siarad Saesneg heb fod yn broblem. Dwi'n ei ffeindio hi yn haws i ddarllen, siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg na Saesneg, er mai Saesneg ydi fy iaith gynta' mae'n siŵr.
Beth wyt ti'n fwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?
Heblaw am farddoni dwi'n hoff iawn o gelf a dwi'n ceisio plethu barddoniaeth mewn i gelf a throi geiriau mewn i ddelweddau. Dwi wedi manteisio'n fawr o'r cyfnodau clo; wnes i ddechrau ar y gynghanedd llynedd. Hefyd dwi'n mwynhau mynd am dro. Dwi'n hoff o fynd am dro yng nghaeau cefn gwlad yn fwy na'r ddinas.
Oes digon o gyfleoedd a digwyddiadau cyfrwng Cymraeg yn dy ardal di?
Mae 'na rai ar gael ond y peth yw mae angen chwilio amdanyn nhw - dy'n nhw ddim ar flaenau eich bysedd. Os ydyn ni am hyrwyddo'r iaith ymhellach yn yr ardal mae'n rhaid agor mwy o gyfleoedd, yn enwedig rhai sydd o ddiddordeb i bobl ifanc, a'u hysbysebu nhw yn fwy eang.
Pryd ddechreuaist ti farddoni?
Dwi'n cofio ar ddiwedd blwyddyn deg pan ddechreuais i'r cwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg ac astudio barddoniaeth. Yr eiliad honno cwmpais mewn cariad â barddoniaeth a dwi'n cofio'r gerdd gynta' astudion ni sef Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog.
Dwi'n cofio teimlo dwi wir yn mwynhau hon achos do'n i heb gael lot o gyfle i astudio neu sgwennu cerddi'n hun ym mlwyddyn saith, wyth a naw.
Ers hynny penderfynais i ddechrau sgwennu fy hun. Dros amser dwi wedi gweld fy sgiliau a nealltwriaeth i'n ehangu.
Rwyt ti bellach wedi cwblhau cwrs Lefel A Cymraeg ac ar fin mynd i'r brifysgol. Beth wnest ti fwynhau am y cwrs ac oes yna bethau am y cwrs y byddet ti'n eu newid?
Y gwir yw nes i joio pob eiliad ohoni. Mae un peth yn bennaf baswn i'n ei newid a dwi'n credu y bydd lot o bobl yn cytuno gyda fi - mae'n hollbwysig o ran datblygu ein sgiliau ni a hefyd lles pobl ifanc - os edrychwch chi ar y cwrs TGAU a Lefel A Cymraeg s'dim cyfle i sgwennu'n greadigol. 'Dan ni'n astudio'r holl feirdd ac awduron 'ma ond s'dim cyfle i ni ehangu ar ein sgiliau ni ein hunain.
Dyma hefyd lle mae'r gynghanedd yn dod i mewn oherwydd, er enghraifft i fi, roedd angen i fi fynd off a chwilio am adnoddau fy hun ac addysgu fi fy hun. Dyma pam mae angen i ni gynnal gwersi a phrosiectau cynganeddu yn yr ysgol gynradd hyd yn oed. Dyna pam dyw lot o bobl, yn enwedig pobl ifanc, ddim yn parhau i farddoni a chynganeddu.
Mae'n rhaid i ni ddechrau yn gynnar oherwydd dy'n ni ddim yn cael y gwersi yma yn yr ysgol, ac os 'y ni mo'yn i'r diwylliant barhau ac i gynganeddu barhau mae'n rhaid cynnal y gwersi yma o oedran iau.
Pwy yw dy hoff fardd?
Dwi wedi astudio beirdd y chweched ganrif a'r cywyddwyr. Wnes i fwynhau astudio gwaith Dafydd ap Gwilym a sut mae'n ymhyfrydu yn yr haf a'i ddelweddau hyfryd o'r gwyrddni.
O ran beirdd heddiw faswn i'n gweud Llio Maddocks - mae hi'n ysbrydoliaeth i mi wrth iddi sgwennu am brofiadau a phroblemau cymdeithas heddiw, a hefyd mae hi'n ysgrifennu am bethau bach sili. Ond dwi'n hoff o'r ffordd mae hi'n dweud pethau'n blwmp ac yn blaen ac yn sgwennu mewn ffordd mor naturiol. Hefyd dwi'n hoff iawn o waith Myrddin ap Dafydd a sut mae o'n clymu hanes Cymru i mewn i'w gerddi.
Beth yw dy gyngor i bobl ifanc sydd eisiau cychwyn barddoni neu sydd eisiau rhoi cynnig ar gystadlu?
Datblygiad sy'n bwysig, nid perffeithrwydd. Mae hwn yn rywbeth wnaeth gymryd bach o amser i mi dderbyn. Mi fydd hi'n cymryd amser ond fe ddaw yn y diwedd.
Felly ewch amdani, ymarfer, a pharhau i ehangu ar eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o farddoniaeth.
Hefyd o ddiddordeb: