Enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Llyr Evans o Ynys Môn sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 a Lara Rees o Abertawe sydd wedi ennill y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.
Mae Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc, gwerth £2000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a'i deulu, yn cael ei chyflwyno am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng Bl.10 ac o dan 25 oed.
Cyflwynir y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol yn y categori oedran blwyddyn 10 ac o dan 19 oed, ac fe'i rhoddir eleni gan Merched y Wawr Rhanbarth Caerfyrddin.
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc
Daeth naw cais i law Rhys Padarn Jones ac Alis Gwyther, beirniaid y gystadleuaeth eleni.
Yn ogystal ag astudio'r darnau celf, fe gafodd y beirniaid y cyfle hefyd i gael sgwrs anffurfiol gyda phob cystadleuydd yn unigol gan holi "yn benodol am yr hyn sy'n eu hysbrydoli yng nghyd-destun eu gwaith celf a'u gobeithion am y dyfodol yn y maes".
Cyflwynodd Llyr gasgliad o bortreadau sy'n cyfuno elfennau o'r byd ffasiwn a dogfen gan ddefnyddio prosesau analog a digidol i'r gystadleuaeth eleni
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth yn Ysgol Syr Thomas Jones wedi anogaeth gan ei athrawes Mrs Mandy Roberts, ac yn ei eiriau ei hun "hi ydi'r rheswm rwy'n tynnu lluniau heddiw".
Wedi astudio celf yng Ngholeg Menai, aeth ymlaen i Lundain i astudio Cyfathrebu Ffasiwn ac Hyrwyddo yn 'Central Saint Martins'.
Wrth drafod y gwaith buddugol, dywedodd y beirniaid: "Roedd yn amlwg o'r dechrau mai pobl a phersonoliaethau oedd deunydd crai Llyr.
"Soniodd sut i rai o'r bobl yn y lluniau fod yn aelodau o'i deulu neu'n ffrindiau iddo, tra bo eraill yn ddieithriaid llwyr y mae e'n cyfarfod ar hap yn Llundain ac yn gofyn iddynt os byddai modd iddo dynnu ffotograff ohonynt.
"Roeddem ni wir yn hoffi'r ffordd i Llyr gyfuno'r traddodiadol Cymreig gyda'r elfen fwy ffantasiol/ecsentrig.
"Dyma berson sydd wedi llwyr ymroi ei hun i ddatblygu ei sgiliau a'i brofiad o fewn y byd ffotograffiaeth.
"Cawsom y teimlad ei fod yn ysu i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa ac roedd clywed pa mor benderfynol y mae i lwyddo'n heintus.
"Roedd ei glywed yn siarad, ynghyd â'r dystiolaeth iddo arddangos ar ffurf ei ffotograffau, wir yn ein gwneud ni fel beirniaid yn gyffrous iawn i weld beth allai gyflawni yn y dyfodol."
Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg
Aeth Lara i Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac mae nawr yn astudio mathemateg, technoleg cerddoriaeth a chelfyddyd gain yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Ym mis Medi bydd hi'n dechrau gradd mewn Dylunio Perfformiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ble mae'n gobeithio ehangu ei sgiliau a phrofiadau artistig.
Dywedodd Lara: "Yn ystod cyfnodau clo Covid-19 fe wnes i ddarganfod fy nghariad at gelf, yn enwedig paentio.
"Rwy'n hoffi defnyddio fy nghelf i fynegi syniadau ac emosiynau - sydd yn aml yn anodd rhoi mewn geiriau - trwy gyfryngau gweledol, gyda'r gobaith y gall pobl eraill gysylltu gyda hyn yn eu ffordd eu hunain.
"Mae'n anrhydedd lwyr i ennill Y Fedal Gelf ac mae'n hyfryd bod mewn lle sy'n dathlu'r celfyddydau creadigol a'r diwylliant Cymreig - dau beth sy'n agos iawn at fy nghalon.
"Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos fy ngwaith, ac er bod y gwaith celf hwn yn ddarn personol iawn i mi, gobeithio y gall pobl ddod o hyd i'w hystyr eu hunain ynddo."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023