Ffrae ceiswyr lloches Strade: 'Gallai rhywun gael ei ladd'

  • Cyhoeddwyd
Dyw hi ddim yn glir eto pwy sydd wedi gosod y clogfeini wrth fynedfa Gwesty'r Strade
Disgrifiad o’r llun,

Dyw hi ddim yn glir eto pwy sydd wedi gosod y clogfeini wrth fynedfa Gwesty'r Strade

Mae pump o glogfeini wedi eu gosod wrth y fynedfa i Westy'r Strade yn Llanelli, adeilad mae'r Swyddfa Gartref am ei defnyddio i gartrefu ceiswyr lloches.

Hyd yn hyn dyw hi ddim yn glir pwy sydd wedi gosod y cerrig ar y fynedfa i'r gwesty yn ardal Ffwrnes y dref.

Yn y cyfamser mae rhybudd bod mudiadau asgell dde o du allan i'r ardal yn ceisio elwa o'r sefyllfa, gydag un ymgyrchydd lleol yn poeni y gallai rhywun "gael ei anafu neu ei ladd".

Dywedodd Robert Lloyd sy'n aelod o Bwyllgor Gweithredu Ffwrnes, sy'n gwrthwynebu bwriad y Swyddfa Gartref: "Roedd hyn yn bryder mawr i ni, dyw ein hymgyrch ddim yn hiliol nac yn nimby mewn unrhyw ffordd.

"Ond rydym yn pryderu yn enwedig am bobl sy'n dod i mewn i'r dref - elfennau asgell dde sydd ychydig yn fygythiol ac yn newid trywydd y drafodaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Robert Lloyd yn poeni am ddylanwad pobl o du allan i'r dre ac 'am ddiogelwch pobl i fod yn onest'

"Rydym yn ceisio gwrthwynebu ar dir synhwyrol ond mae yna elfennau sy'n dod i mewn i'r dref sy'n gwneud i mi boeni am ddiogelwch pobl i fod yn onest â chi.

"Dwi'n poeni y gallai rhywun gael ei anafu neu ei ladd oherwydd mae hyn yn dechrau mynd y tu hwnt i reolaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd hyd at 207 o geiswyr lloches yn aros mewn 77 o ystafelloedd yng Ngwesty'r Strade

Dywed Cyngor Sir Gâr eu bod yn gwybod am y clogfeini, ond nad nhw oedd yn gyfrifol.

Mae'r grŵp lleol, Pwyllgor Gweithredu Ffwrnes, hefyd wedi dweud nad nhw sydd wedi gosod y clogfeini.

Yn ôl rheolwr y gwesty fe wnaeth y staff ei hysbysu am y creigiau tua 11:00 fore Mawrth.

Mae'r aelod seneddol lleol, Nia Griffiths, wedi dweud na ddylai unrhyw brotestiadau arwain at bobl yn cael eu niweidio.

"A plîs peidiwch â'i gwneud yn fwy anodd i staff ar yr amser yma. Maen nhw eisoes dan bwysau mawr ac yn poeni am eu swyddi."

Dywed yr heddlu eu bod wedi cael adroddiadau am y digwyddiad, a bod y frigâd dân wedi eu galw gan fod y weithred wedi "amharu ar y gwesty... ac fe fethodd bws yn cludo gwesteion a chael mynediad i'r safle".

Dywedodd llefarydd ar ran Pwyllgor Gweithredu Ffwrnes nad oeddynt yn gwybod pwy wnaeth osod y cerrig ond "roedd e' o hyd yn debygol y byddai yna weithgareddau annibynnol i geisio amharu ar y cynlluniau".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y Swyddfa Gartef yw defnyddio Gwesty'r Strade o fis Gorffennaf

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu yn y gwesty o 3 Gorffennaf.

Yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin bydd hyd at 207 o bobl, yn deuluoedd, yn aros mewn 77 o ystafelloedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod y system lloches o dan "straen ofnadwy".

Ychwanegodd fod y defnydd o westai yn yr hir dymor yn "annerbyniol".

"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymroi i wneud pob ymdrech posib i leihau'r defnydd o westai ac i leihau'r baich ar y trethdalwr."

Pynciau cysylltiedig