Porthmadog: Heddwas yn wynebu ymchwiliad troseddol
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad troseddol wedi dechrau i heddwas a gafodd ei weld ar fideo yn ymddangos i daro dyn naw gwaith wrth ei arestio.
Mae'r corff annibynnol sy'n ymchwilio i gwynion yn erbyn yr heddlu wedi cyhoeddi y gallai'r swyddog wynebu camau troseddol yn dilyn digwyddiad ym Mhorthmadog fis yn ôl.
Cafodd fideo a ffilmiwyd gan berson lleol ei rannu ar wefannau cymdeithasol ddechrau Mai.
Mewn diweddariad o'u hymchwiliad cadarnhaodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) eu bod yn cynnal ymchwiliad troseddol i swyddog, a'u bod hefyd wedi cyflwyno rhybudd o gamymddwyn difrifol yn ei erbyn.
Yn y cyfamser mae'r plismon wedi cael ei wahardd o'i waith gan Heddlu Gogledd Cymru tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Mae swyddog arall wedi cael rhybudd camymddwyn yn ymwneud â'r gofal a dderbyniodd y dyn ar ôl cael ei daro'n wael yn dilyn ei arestio.
Nid yw hyn, o angenraid, yn golygu y bydd camau troseddol neu ddisgyblu yn dilyn.
'Pryder cyhoeddus'
Mewn datganiad dywedodd cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: "Mae llawer o ddiddordeb a phryder cyhoeddus wedi bod ynglŷn â'r fideo a rannwyd yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n dangos peth o'r ymadwaith rhwng swyddogion heddlu a'r dyn oedd yn cael ei arestio."
Dywed y datganiad fod dau heddwas wedi cael eu galw yn dilyn adroddiadau o gynnwrf mewn eiddo yn y dref am tua 11:00 ar 10 Mai.
"Tua 11:50 daeth y swyddogion o hyd i ddyn mewn gardd tŷ cyfagos a'i arestio. Mae ffilm yn dangos swyddog yn taro'r dyn sawl gwaith yn ei ben, tra'i fod ar lawr.
"Defnyddiodd yr un swyddog chwistrell tuag at y dyn wrth iddo gael ei roi yng nghefn fan heddlu.
"Ar y ffordd i'r orsaf heddlu, sylwyd fod y dyn yn ymddangos yn wael, a rhoddwyd cymorth cyntaf iddo. Cafodd ei gludo i'r ysbyty cyn cael ei ryddhau a'i ddychwelyd i'r ddalfa."
Â'r datganiad ymlaen i ddweud eu bod wedi casglu lluniau o gamerâu unigol y plismyn, fideo a lluniau ffôn o'r digwyddiad, datganiadau tystion y cynnwys y dyn a anafwyd, ynghyd â lluniau camerâu cylch cyfyng.
"Rydym yn ymchwilio i weld a oedd cyfiawnhad dros y lefel o rym a ddefnyddiwyd, os oedd y gofal a roddwyd yn dilyn yr arest yn addas, ac os wnaeth swyddogion ymddwyn yn unol â'u hyfforddiant, a pholisiau a threfniannau Heddlu Gogledd Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd11 Mai 2023