Costau byw: Pryder am ddyfodol clybiau ieuenctid

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Aimee yn un o'r rhai sy'n mwynhau cael mynd i Ieuenctid Maerdy

Mae grwpiau ieuenctid yn diflannu oherwydd pwysau'r argyfwng costau byw, yn ôl corff sy'n cynrychioli bron i 150 o fudiadau o'r fath yng Nghymru.

Mae dau glwb gwirfoddol wedi cau yn ddiweddar, ac mae dyfodol nifer o glybiau eraill yn y fantol, meddai Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

Dyna hefyd bryder gwasanaeth Ieuenctid Maerdy yn Nyffryn Aman, sydd wedi gorfod torri'n ôl ar weithgareddau ac oriau staff oherwydd y cynnydd mewn costau a chystadleuaeth am grantiau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cefnogaeth ar gael i elusennau trwy Gynllun y Trydydd Sector.

'Gwasanaeth yn gwegian'

Cynnig cymorth a chyfeillgarwch yw hanfod Ieuenctid Maerdy, gafodd ei sefydlu yn 2015.

Yn ôl eu harweinydd ieuenctid, Heledd Owen, mae'n wasanaeth gwerthfawr. Gydag arian yn brin o fewn y gymuned mae'r angen yn fawr.

Maen nhw bellach yn darparu pethau sylfaenol fel bwyd a dillad sy'n rhoi mwy o bwysau ariannol ar wasanaeth sydd eisoes yn gwegian.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heledd Owen ei bod yn wynebu heriau wrth geisio cadw prisiau yn isel

"Mae'n anodd weithiau achos s'dim arian gyda ni i brynu lot o fwyd iddyn nhw," meddai.

"Ond ma' lot ohonyn nhw'n dod yma heb fwyta drwy'r dydd, ma' nhw'n starfo ishe bwyd, a ni yn 'neud beth ni'n gallu i 'neud yn siŵr bo' nhw ddim yn gadel 'ma ishe bwyd."

Mae cadw cost mynychu'r clwb yn isel yn flaenoriaeth i'r clwb yn Nhairgwaith, meddai Ms Owen.

"Ma' fe'n sialens, achos dim ond 50c yw e i fynychu'r clwb, a so ni'n codi 'na ar pob un ohonyn nhw.

"Y fantais o fyw mewn cymuned fel hyn yw ni'n gwbod pa rai sydd â'r 50c a pa rai sy' ddim.

"Felly os ma' nhw'n dod mewn a ni'n gwbod bod arian yn dynn ar y teulu, ma' nhw just yn cael nod bach a ma' nhw'n dod mewn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Aimee, sy'n 11 oed, fod clybiau'n rhoi cyfle i bobl ifanc gwrdd a chymryd rhan mewn gweithgareddau

Mae Aimee, 11, yn un o'r 100 o blant sy'n aelodau. Mae'n dod i'r clwb ers mis Hydref ac yn mwynhau cael y cyfle i ddod i rywle o fewn y gymuned.

"Ti'n gallu 'neud fel ffrindiau a stwff fel yna, a ti'n gallu neud activities a stwff gyda hwnna, fel dod 'mlaen gyda pobl.

"Achos ma' rhai pobl just o fewn tŷ nhw a ddim really'n neud stwff, so ma' dod fan hyn, mae'n neud rhywbeth…"

Mae gan y Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) 145 aelod ar draws Cymru.

Wrth gasglu tystiolaeth ganddyn nhw'n ddiweddar, daeth yn amlwg bod mwy o bobl ifanc oedd yn mynychu eu gwasanaethau yn llwglyd.

Fel yn achos Ieuenctid Maerdy, mae'r grwpiau hyn hefyd yn gorfod cynyddu eu darpariaeth bwyd, sydd hefyd yn golygu cost ychwanegol.

Yn ôl Branwen Niclas o'r cyngor mae yna bryder gwirioneddol bod yna fygythiad i fudiadau ieuenctid yng Nghymru.

"Mae yna enghreifftiau lle mae biliau ynni wedi mynd lan o £150 y mis i £600 y mis," meddai.

"Maen nhw'n gweld bod pobl ifanc yn dod mewn i'r clybiau yn llwglyd, ddim gyda cotiau gaeaf, ddim gyda esgidiau addas.

"Rydyn ni'n cael adborth gan fudiadau sy'n dweud nad darparu gwasanaeth ieuenctid maen nhw erbyn hyn ond maen nhw'n gweithredu fel rhyw fath o wasanaeth argyfwng rheng-flaen lle maen nhw'n gorfod darparu bwyd, darparu gwres a darparu cyfleon hollol basic i bobl ifanc."

Her costau byw

Yn ôl ymchwil gan Blant mewn Angen y llynedd, dywedodd 61% o wasanaethau ieuenctid ar draws Prydain wnaeth gais am grantiau eu bod nhw wedi darparu adnoddau fel bwyd, dillad a chynnyrch ymolchi i blant a phobl ifanc fel rhan o'u hymateb i'r argyfwng costau byw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cefnogi elusennau trwy ein cynllun trydydd sector sy'n darparu arian ychwanegol i helpu mudiadau ddelio â phwysau chwyddiant."

Mae disgwyl i adolygiad gafodd ei gomisiynu ganddyn nhw, ar sut mae mudiadau ieuenctid yn cael eu hariannu, gyhoeddi eu hadroddiad cyntaf yn ystod yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clybiau fel yr un yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc

Er yn ffyddiog y bydd y clwb yn dal yma mewn chwe mis, mae Heledd Owen yn cydnabod bod sicrhau cyllid yn heriol.

Mae Ieuenctid Maerdy yn derbyn grantiau o ffynonellau fel y cyngor a'r heddlu, ond mae cyllid hirdymor yn anos i'w gael. 

"Ni byth yn gwbod o un mis i'r llall, os byddwn ni dal yn gallu cynnig beth y'n ni'n cynnig. Mis nesa' neu mewn chwe mis, so ni'n gwbod," meddai Ms Owen.

"Mae'n anodd iawn. Ma' lot o bobl yn trio am y grants 'ma, a withe ma' lle bach fel Canolfan Maerdy, Tairgwaith, Cymru gyfan withe yn cael hi'n galed yn erbyn cwmnïau mwy o seis i gael y grants, i gael sylw."

'Torri'n ôl'

Merch leol yw Megan Escott a doedd dim byd fel Ieuenctid Maerdy ar gael iddi hi pan yn iau.

Mae hi bellach yn un o weithwyr ieuenctid y clwb. Mae'n falch iawn o fod yn gweithio i'r gwasanaeth sy'n cael "effaith anferthol" ar fywydau'r plant. 

"Pan ni ddim ar agor, ma' nhw ar y stryd yn neud pethe ma' nhw ddim yn fod 'neud felly pan ma' nhw fan hyn ma' nhw mas o drwbl." 

Ond mae'r ansicrwydd ariannol a chynnydd mewn costau wedi golygu torri'n ôl ar eu gweithgareddau, ac ar oriau staff fel Megan.

Mae diffyg arian hefyd yn effeithio'n fawr ar yr hyn maen nhw'n gallu ei gynnig i'r plant a'r bobl ifanc.

"Ni ddim yn cael y finance i neud e' trwy'r amser. Ni'n 'neud pethe fel camping a pethe fel yna, ond ma' rhaid i ni gael arian i 'neud e'.

"Ni ddim yn hoffi gofyn i'r plant, pobl ifanc am arian, so ni'n trial neud e' ble bo' nhw ddim yn gorfod talu, felly mae e ambell waith yn gallu bod yn anodd."