Cwest: Merch 5 oed wedi marw ar ôl tân yn ei chartref
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth merch bump oed fu farw ar ôl tan mewn tŷ yn Sir Benfro wedi cael ei agor a'i ohirio.
Bu farw Alysia Salisbury yn y cartref teuluol, Dolgoed, ym mhentref Pontyglasier ger Crymych fis diwethaf.
Yn ystod gwrandawiad byr yn Neuadd y Dref Llanelli fore Gwener, clywodd y Crwner Paul Bennett adroddiad gan Swyddog y Crwner, PC James Lang.
Dywedodd PC Lang bod yr heddlu wedi cael eu hysbysu gan y gwasanaeth tân am 21:57 ar 27 Mai am dân mewn tŷ ym Mhontyglasier, ac nad oedd modd canfod Alysia.
Cyn y tân, fe welwyd hi am y tro olaf yn 'stafell wely ei chwaer, ar y llawr cyntaf, tua cefn y tŷ.
Cafodd ei chorff ei ddarganfod am 01:05 ar 28 Mai yn y 'stafell wely honno.
Cadarnhaodd meddyg gyda'r ambiwlans awyr ei bod hi wedi marw.
Mae archwiliad post mortem wedi ei gynnal ar y corff ac mae disgwyl adroddiad.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau, ac fe ohiriwyd y cwest tan fis Hydref.
Dywedodd y Crwner dros dro ar gyfer Sir Gâr a Sir Benfro, Paul Bennett, ei fod yn estyn ei gydymdeimlad diffuant i'r teulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Mai 2023