Deallusrwydd artiffisial: Yr iaith Gymraeg 'ar ei hôl hi'

  • Cyhoeddwyd
Ai Cymraeg

Yn ôl uwch ddarlithydd cyfrifiadureg, mae angen buddsoddiad sylweddol a pholisi llywodraethol er mwyn datblygu technoleg deallusrwydd artiffisial drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Dr Neil Mac Parthalain o Brifysgol Aberystwyth mae'r "Gymraeg, o ran yr iaith ei hun a thechnoleg, ru'n ni'n dueddol o fod y tu ôl iddi".

"Ni'n dueddol o eistedd 'nôl ac aros i weld sut mae pethau yn datblygu cyn bydd y dechnoleg yn cael ei datblygu a'r Gymraeg yn cael ei chrybwyll a'n dod i'r fei," meddai

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi hir gydnabod yr angen i fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial i'r Gymraeg".

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

"I ni, bobl cyfrifiadureg, mae deallusrwydd artiffisial yn hen beth," medd Dr Neil Mac Parthalain

Mae Dr Neil Mac Parthalain yn uwch ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth

"Mae sawl cwrs gyda ni ers sawl blwyddyn a ry'n ni wastad yn adnewyddu a newid cynnwys y cyrsiau," meddai.

"Ond i ni, bobl cyfrifiadureg, mae deallusrwydd artiffisial yn hen beth.

"Mae pobl yn dueddol o feddwl ei fod yn rhywbeth newydd, ac mae 'na lot o sôn yn y cyfryngau yn ddiweddar am ddeallusrwydd artiffisial, ond mae e wedi bod yn cael ei ddefnyddio ganddon ni heb i ni wybod ers sbel go lew.

"Hyd yn oed os feddyliau rhywun 'nôl rhyw 20 mlynedd yn ôl i'r hen ffonau symudol Nokia a predictive text, sail hwnna yw deallusrwydd artiffisial."

'Tuedd o eistedd 'nôl ac aros'

O ran perthynas y Gymraeg a deallusrwydd artiffisial ychwanegodd: "Rydan ni mewn lle da o ran y Gymraeg a deallusrwydd artiffisial yma ym Mhrifysgol Aberystwyth am ein bod ni'n cynnig mwyafrif ein cyrsiau - yn enwedig ym maes deallusrwydd artiffisial - trwy gyfrwng y Gymraeg.

"O ran y Gymraeg, o ran yr iaith ei hun a thechnoleg, ry'n ni'n dueddol o fod y tu ôl iddi.

"Ni'n dueddol o eistedd 'nôl ac aros i weld sut mae pethau yn datblygu cyn bydd y dechnoleg yn cael ei datblygu ar y Gymraeg yn cael ei chrybwyll a'n dod i'r fei.

"Yr heriau ar gyfer y dyfodol yw buddsoddiad a pholisi llywodraethol - maen nhw'n hollbwysig er mwyn datblygu technoleg deallusrwydd artiffisial drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Ar hyn o bryd mae iaith y dechnoleg o ran deallusrwydd artiffisial yn bennaf yn seiliedig ar y Saesneg, a does dim rheswm pam na allwn ni ddatblygu'r un peth i'r Gymraeg.

"Yr unig her yw eu bod nhw angen amser i'w datblygu a buddsoddiad mawr."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bosib ers blynyddoedd i ddefnyddio AI i gyfieithu rhwng Saesneg a Chymraeg," medd Dewi Jones

Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, sy'n gyfrifol am gyflawni gwaith ymchwil a datblygu meddalwedd ar gyfer dibenion siaradwyr Cymraeg.

"Efallai bod pobl yn adnabod pecynnau fel Cysill, ap geiriaduron neu ddefnyddio Geiriadur yr Academi ar-lein - mae'r rhain i gyd yn gynnyrch meddalwedd gan yr uned," meddai prif ddatblygwr meddalwedd Canolfan Bedwyr, Dewi Jones.

"Mae'n bosib ers blynyddoedd i ddefnyddio AI i gyfieithu rhwng Saesneg a Chymraeg, a rhai ieithoedd eraill hefyd.

"O ganlyniad i'r cydrannau sylfaenol yma rydan ni wedi creu ap cynorthwyydd llafar Gymraeg tebyg i Alexa wedi ei enwi'n Macsen.

"Mae modd ei ddefnyddio ar eich ffonau symudol Android, Apple neu ar-lein o wefan macsen.techiaith.cymru ac mae modd i chi ofyn ar lafar iddo beth yw'r newyddion, beth yw'r tywydd neu iddo fo chwarae cerddoriaeth gan fand Cymraeg i chi ar Spotify."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd lawrlwytho cynorthwyydd llafar Cymraeg o'r enw Macsen, sy'n debyg i Alexa

Ychwanegodd Mr Jones: "Mae'r Gymraeg yn rhan o'r chwyldro y mae technegau fel ChatGPT a GPT-4 gan OpenAI yn ei achosi ar y foment.

"Mae gallu'r rhain i fedru ateb cwestiynau a rhesymu a sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg wedi ymddangos o nunlle heb i unrhyw un ei ragweld na chynllunio o flaen llaw.

"Ond mae hyn o ddiolch i ddegawdau o waith cyhoeddi ar y we gan y cyfryngau, y sector gwirfoddol, ysgolion, prifysgolion a'r sector cyhoeddus.

"[Nhw] sydd wedi sicrhau bod yna ddigonedd o ddata Cymraeg da i gwmnïau fel OpenAI, Google a Microsoft i fedru defnyddio ar gyfer creu AI ieithyddol, ond does neb yn gwybod eto pa mor dda mae'r AIs yma'n gweithio ar gyfer ei ddefnyddio drwy gyfrwng y Gymraeg."

Beth nesaf i AI Cymraeg?

"Mae'r cwestiwn o ran yr heriau, bygythiadau a chyfleoedd sydd ar gael yn cael ei hymchwilio gennym ni ar hyn o bryd dros yr haf er mwyn paratoi adroddiad gydag argymhellion erbyn yr Hydref i Lywodraeth Cymru," meddai Mr Jones.

"Mae'r dechnoleg yn newydd iawn a'n datblygu'n sydyn ond mae rhai dealltwriaethau yn sefydlu a'r tirlun yn dechrau siapio rhwng y gweithgareddau, y cwmnïau mawr, ymchwil prifysgolion a'r arloesedd sy'n digwydd yn y gymuned cod agored, sydd hefyd yn tarfu ar y farchnad.

"Mae 'na gymunedau ieithyddol eraill yn yr un cwch â ni felly fe fydd yn rhaid i ni fynd i'r afael a deall yr AIs presennol yn well.

"Ond mae'r darnau gennym ni yma yng Nghymru fel cymorth gan y llywodraeth, myfyrwyr talentog, cwmnïau brwdfrydig, cysylltiadau gydag ieithoedd eraill a data i'n galluogi ni i berchnogi'r AIs ac i greu technolegau gwell ein hunain hefyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi hir gydnabod yr angen i fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial i'r Gymraeg.

"Dyna pam gwnaethon ni'n siŵr ei fod yn un o dair prif thema ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg a gyhoeddon ni yn 2018.

"Cyn hir, byddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliad ar y cynllun nesaf a bydd deallusrwydd artiffisial yn ganolog i hyn.

"Ry'n ni wedi buddsoddi dros £2m mewn technoleg a'r Gymraeg yn ystod bywyd y cynllun yma."