Carcharu gyrrwr ambiwlans am achosi marwolaeth claf

  • Cyhoeddwyd
Emrys RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Emrys Roberts o Fangor ei garcharu ddydd Gwener

Mae gyrrwr ambiwlans o Wynedd wedi cael ei garcharu am ladd claf mewn gwrthdrawiad, ar ôl peidio ei rhoi yn sownd i'w gwely yn gywir, a gyrru ar ochr anghywir y ffordd.

Roedd Emrys Roberts, 61, o Fangor mewn gwrthdrawiad â fan oedd yn dod i'r cyfeiriad arall, a bu farw Janet Winspear, 76.

Yn wreiddiol roedd Roberts wedi pledio'n ddieuog i achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal, cyn iddo newid ei ble cyn yr achos llys.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon i wyth mis dan glo, a'i wahardd rhag gyrru am 16 mis.

Beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw?

Roedd Mrs Winspear, o Dywyn yng Ngwynedd, wedi bod yn gwella o strôc pan gafodd ei chludo o un ysbyty i'r llall gan Roberts yn Ebrill 2021.

Ond ar y daith honno cafodd Roberts ei weld yn gyrru yng nghanol y ffordd, cyn mynd i'r ochr anghywir yn llwyr ar yr A470 ger Dolgellau ble digwyddodd y gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, Erfyl Lloyd Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Janet Winspear o Dywyn yn y gwrthdrawiad ar yr A470 yn Nolgellau yn Ebrill 2021

Dywedodd yr erlynydd James Coutts fod Roberts a chydweithiwr arall wedi rhoi Mrs Winspear yn sownd i'r stretcher roedd hi arno gerfydd ei choesau, ei chlun a'i brest.

Roedd eu hyfforddiant wedi eu dysgu bod angen un harnes arall dros yr ysgwydd, ond ni chafodd hyn ei wneud.

Bu farw o ganlyniad i "drawma difrifol i'r frest" wedi iddi gael ei "thaflu" yn erbyn tu mewn yr ambiwlans yn y gwrthdrawiad.

'Golwg wag ar ei wyneb'

Clywodd y llys gan yrrwr y fan a gafodd ei tharo gan Roberts, a ddywedodd fod y gyrrwr ambiwlans yn "edrych yn syth ymlaen gyda golwg wag ar ei wyneb" pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Mae Roberts yn mynnu nad oes ganddo unrhyw gof o'r digwyddiad.

Dywedodd ei gyfreithiwr Richard Edwards ei fod yn gwneud 37mya mewn ardal 50mya ar y pryd.

Mewn datganiad wedi'r dedfrydu dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens, bod yr achos yn un "ofnadwy".

"Ry'n ni wedi gweithredu ers marwolaeth Mrs Winspear er mwyn sicrhau bod criwiau a chleifion yn parhau'n ddiogel yn ein cerbydau," meddai.

Ychwanegodd nad ydy Roberts yn gweithio i'r gwasanaeth bellach.