Dadorchuddio cerflun o'r bardd Cranogwen yn Llangrannog

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Cranogwen
Disgrifiad o’r llun,

Dadorchuddiwyd y cerflun hir disgwyliedig o Cranogwen ddydd Sadwrn

Mae cerflun o Sarah Jane Rees, sy'n fwy adnabyddus fel Cranogwen - ei henw barddol - wedi cael ei ddadorchuddio yn Llangrannog.

Dyma'r trydydd cerflun i gael ei ddadorchuddio fel rhan o ymgais i gydnabod cyfraniad menywod i hanes a bywyd Cymru.

Dadorchuddiwyd y cerflun hir disgwyliedig o Cranogwen ddydd Sadwrn, a hynny ddwy flynedd a hanner ers lansio'r ymgyrch gyhoeddus.

Mae'r cerflun yn rhan o genhadaeth sefydliad Monumental Welsh Women, i godi pum cerflun i anrhydeddu pum Cymraes mewn cyfnod o bum mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Ganwyd Sarah Jane Rees, sy'n fwy adnabyddus fel Cranogwen, yn Llangrannog ym 1839

Cranogwen oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr farddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan fynd ymlaen i fod yn un o feirdd mwyaf poblogaidd ei chyfnod.

Hi oedd hefyd y fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod - Y Frythones - gan annog talentau menywod eraill a rhoi llwyfan i sawl un ohonynt.

Ynghyd â rhagori'n llenyddol, roedd Cranogwen yn forwr medrus, yn ymgyrchydd ac yn newyddiadurwr.

Daeth yn bennaeth ysgol yn 21 oed, gan oresgyn y gwrthwynebiad i'r cam o benodi menyw i'r swydd ac yna cychwynnodd ar yrfa fel darlithydd.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y rhifyn cyntaf o'r Frythones a gyhoeddwyd yn Ionawr 1879, a rhifyn o 1883, gydag enw Cranogwen yn amlwg ar y clawr

Ffynhonnell y llun, © Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tocyn i un o ddarlithoedd Cranogwen

Roedd yn arloeswr mewn sawl maes, gan herio'r cyfyngiadau ar fenywod yn ystod oes Fictoria.

Wedi ei geni yn Llangrannog, Ceredigion, penderfynwyd mai dyma'r lle mwyaf addas felly ar gyfer gosod ei cherflun.

Dywedodd Helen Molyneux, sylfaenydd grŵp Monumental Welsh Women: "Bydd y cofnod parhaol hwn o Granogwen yn sefyll yng nghalon ei chymuned hoff sef Llangrannog, a bydd yn ffordd o gofio menyw ryfeddol, dewr ac arloesol, a'i chyflawniadau niferus a oedd wedi torri tir newydd, a bydd hefyd yn ysbrydoliaeth i ni gyd sy'n ei dilyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Molyneux y bydd y cerflun yn "ffordd o gofio menyw ryfeddol, dewr ac arloesol"

Cranogwen yw'r trydydd cerflun a gomisiynwyd gan Monumental Welsh Women o fenyw anffuglennol yng Nghymru.

Mae'r sefydliad nid-er-elw yn cydnabod cyfraniad menywod i hanes a bywyd Cymru.

Eu gobaith yw codi pum cerflun i anrhydeddu pump o fenywod o Gymru mewn pum gwahanol leoliad dros y pum mlynedd nesaf.

Mae dau gerflun eisoes wedi cael eu dadorchuddio cyn Cranogwen, sef Betty Campbell yng Nghaerdydd ym mis Medi 2021 a cherflun o'r awdur Elaine Morgan yn Aberpennar ym mis Mawrth 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Sebastien Boyesen yn mentora Keziah Ferguson wrth greu'r cerflun

Daw cerflun Cranogwen yn dilyn ymgyrch gan Gerflun Cymunedol Cranogwen, is-grŵp Pwyllgor Lles Llangrannog, mewn partneriaeth â Monumental Welsh Women.

Codwyd dros £75,000 fel rhan o'r ymgyrch ar gyfer y cerflun sydd wedi'i leoli yn yr ardd gymunedol newydd gerllaw'r eglwys lle y claddwyd Sarah Jane Rees.

Mae Elin Jones AS wedi bod yn aelod o Bwyllgor Llywio'r Cerflun.

Dywedodd: "Hir yw pob aros a mawr yw'r disgwyl wedi bod ar gyfer y cerflun yma o Grangowen, un wnaeth gyflawni gymaint yn ei hardal leol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a hynny mewn adeg ble nad oedd yn dderbyniol i fenywod wneud y fath bethau."

Disgrifiad o’r llun,

"Mawr yw'r disgwyl wedi bod ar gyfer y cerflun yma o Grangowen," medd Elin Jones AS

Ategodd Anne-Marie Bollen o grŵp Cerflun Cymunedol Cranogwen hynny gan ddweud: "Byddai Cranogwen wedi bod yn falch o'r gymuned yn Llangrannog sydd wedi dod ynghyd mewn ffordd weithredol a chynhwysol yn ystod yr ymgyrch hwn, fel cymuned fach sydd â chalon fawr."

Dathlu Cranogwen

Ynghyd â dadorchuddio'r cerflun, bu nifer o ddigwyddiadau creadigol arall yn Llangrannog ddydd Sadwrn i ddathlu bywyd a llwyddiannau Cranogwen.

Cychwynnwyd y dydd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, gyda'r Athro Mererid Hopwood, sef y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, yn llywio'r seremoni gychwynnol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gorymdaith fywiog a lliwgar o Wersyll yr Urdd Llangrannog i ddadorchuddio'r cerflun yn y pentref

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth dawnswyr Qwerin arwain yr orymdaith i'r cerflun

Am 13:00 clywyd Cân yr Orymdaith gan Gôr Cymunedol cyn i ddawnswyr Qwerin arwain gorymdaith fywiog a lliwgar o'r gwersyll i ddadorchuddio'r cerflun yn y pentref.

Dadorchuddiwyd cerflun Cranogwen am tua 14:00, gyda'r cerflunydd, Sebastien Boyesen, sy'n byw yn Llangrannog, yn bresennol.

Gan adleisio anogaeth Cranogwen ar gyfer talent fenywaidd, bu Mr Boyesen yn mentora Keziah Ferguson, cerflunydd benywaidd, yn ystod y prosiect.

Yn dilyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru, bu nifer o artistiaid hefyd yn perfformio wedi'r dadorchuddio ar draeth Llangrannog, a Cranogwen, yn ei chartref newydd, yn edrych i lawr ar y cyfan.