Gweinidog: 'Dim gwaharddiad lawntiau artiffisial yn fuan'

  • Cyhoeddwyd
Lawnt artiffisialFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am faterion newid hinsawdd yng Nghymru wedi dweud na fydd yn gwahardd lawntiau artiffisial yn fuan, ar ôl awgrymu y gallai hynny fod yn bosib.

Yn hytrach, fe ddywedodd Julie James AS ei bod eisiau addysgu pobl am ba mor niweidiol ydyn nhw i'r amgylchedd.

Yn y Senedd ddydd Mercher, fe ddywedodd fod "adroddiadau pryderus" yn awgrymu y gallai'r "gwenwyndra sy'n dod o wair artiffisial" fod yn "frawychus".

Fe ddywedodd ei bod eisiau gweld a oes modd defnyddio'r ddeddf sy'n gwahardd plastigau untro yng Nghymru ar gyfer gwahardd gwair artiffisial.

Ond dywedodd rhai sy'n gweithio yn y diwydiant eu bod yn anhapus gyda'r posibilrwydd, gan ddweud fod lawntiau artiffisial yn gallu para tua 15 mlynedd, ac felly ddim yn ddeunydd untro.

Fe wnaeth ei sylwadau arwain at un busnes yn dweud y byddai gwaharddiad yn rhoi eu bywoliaeth yn y fantol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie James fod pobl "ddim yn deall yr effaith mae'n ei gael ar yr amgylchedd"

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, dywedodd y Gweinidog Julie James: "Does gen i ddim y grym i wahardd gwair artiffisial bore fory a hyd yn oed os fyddai gen i, fydden i ddim yn gwneud hynny.

"Be' ry'n ni eisiau yw cael pobl i ddeall be' maen nhw'n ei wneud pan maen nhw'n defnyddio cynnyrch fel 'na.

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl fod y bobl sy'n ei hoffi ddim yn deall yr effaith mae'n ei gael ar yr amgylchedd.

"Dwi hefyd yn meddwl eu bod nhw'n credu mai lawnt gyffredin yw'r unig opsiwn i gael gardd heb orfod gwneud llawer o gynnal a chadw."

'Newid ymddygiad'

Fe awgrymodd mai addysgu pobl am opsiynau eraill yw ei chynllun.

"I fod yn deg, fe hoffen i helpu'n gweithgynhyrchwyr symud at gynnyrch sydd ddim mor niweidiol i'r amgylchedd dros gyfnod o amser.

"Ond cyfnod o amser - dwy flynedd, nid 12 - felly dwi wir yn meddwl bod angen i ni gael hyn allan nawr."

Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru'n dechrau ar "ymgyrch i newid ymddygiad" ar hyd Cymru sy'n cyd-fynd â'u cynllun sero net.

"Dwi'n meddwl y gallwn ni helpu pobl i ddeall sut allwch chi gael lle bach, bioamrywiol sy'n gyfeillgar yn amgylcheddol, sy'n gofyn am ychydig bach o gynnal a chadw, heb wthio plastigyddion a thocsinau i'r amgylchedd," meddai.

"Beth fyddwn ni'n gwneud yw dechrau taith gyda'r cyhoedd yng Nghymru, fel ry'n ni wastad yn gwneud, i gael pobl i ddeall."

Gallwch wylio'r cyfweliad llawn ar raglen Politics Wales ar BBC One Wales ddydd Sul am 10:00.