Lawntiau artiffisial: Gweinidog i ystyried gwaharddiad
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd lawntiau artiffisial yn cael eu gwahardd yng Nghymru, yn ôl gweinidog y llywodraeth.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James bod "adroddiadau pryderus" gan nifer o brifysgolion yn awgrymu y gallai'r "gwenwyndra sy'n dod o wair artiffisial" fod yn "eithaf brawychus" i blant sy'n chwarae arno.
Dywedodd wrth y Senedd ei bod eisiau gweld a oes modd defnyddio'r ddeddf sy'n gwahardd plastigau untro yng Nghymru ar gyfer gwahardd gwair artiffisial.
Mae lawntiau artiffisial wedi dod yn boblogaidd am nad oes angen eu torri.
Ond mae rhai sy'n gweithio yn y diwydiant eisoes yn anhapus gyda'r posibilrwydd, gan ddweud fod lawntiau artiffisial yn gallu para tua 15 mlynedd, ac felly ddim yn ddeunydd untro.
Gerddi naturiol
Roedd Ms James yn ymateb i sylw gan Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Dde-Orllewin Cymru, am ymchwil gan Brifysgol Sheffield, oedd yn dangos bod gerddi naturiol yn chwarae rhan allweddol trwy amsugno glaw a lleihau'r perygl o lifogydd, yn ogystal â chynnig lloches i fywyd gwyllt.
Roedd gwair artiffisial "wedi'i wneud o blastig a defnyddiau synthetig eraill," a oedd yn ymddangos yn hawdd i'w gynnal a chadw, ond oedd angen ei lanhau'n rheolaidd, meddai Ms Williams.
Gyda bywyd o tua wyth i 15 mlynedd, roedd ei waredu mewn ffordd gynaliadwy wedi hynny, yn "gallu bod yn heriol", meddai.
"Ar wahân i leihau manteision gerddi naturiol, mae gan y defnydd o wair artiffisial oblygiadau amgylcheddol eraill, megis amharu ar gynefin pryfed genwair a thrychfilod, tra bod plastigion yn hidlo i'r ddaear yn gallu niweidio bywyd gwyllt."
Dywedodd bod Cyngor Abertawe wedi penderfynu peidio defnyddio gwair artiffisial o hyn ymlaen, ar ôl iddi gwyno am ei ddefnydd mewn gwaith adfywio dinesig.
Roedd hi am ei weld yn cael ei wahardd mewn llefydd oedd dan reolaeth Llywodraeth Cymru, ar wahân i gaeau chwaraeon.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi codi pryderon am gaeau chwarae artiffisial, neu 3G, gan ddweud eu bod yn gallu cynnwys rwber o deiars ceir ymhlith deunyddiau eraill.
Dywedodd Ms James ei bod yn cytuno fod lawntiau artiffisial yn cael effaith andwyol iawn ar gynaladwyedd mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru.
"Mae yna adroddiadau eithaf pryderus gan nifer o brifysgolion sy'n dweud fod y gwenwyndra sy'n dod o wair artiffisial yn eithaf brawychus, os yw plant yn chwarae arno," meddai.
Dywedodd bod angen ymgyrch gyhoeddusrwydd i egluro i bobl nad oedd o'n ateb tymor byr, er ei fod yn ymddangos felly, am fod chwyn yn gallu tyfu drwyddo, ac am ei fod yn anodd i'w lanhau os oedd anifail wedi bod arno.
"Byddwn yn edrych ar ein holl ganllawiau ac yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn unrhyw le sy'n cael ei reoli gan arian cyhoeddus," meddai Ms James.
Ychwanegodd ei bod eisiau gweld a allai'r llywodraeth ddefnyddio'r bil newydd ar ddefnyddiau plastig untro i wneud gwaharddiad o wair artiffisial yn bosib ledled Cymru.
Gwaharddiad yn 'eithafol'
Mae Carol Hustwitt o gwmni Gorgeous Grass ar Ynys Môn wedi bod yn rhan o'r diwydiant ers 20 mlynedd.
"Mae'n eithafol," meddai am y posibilrwydd o waharddiad.
"Pe bai hynny'n dod i rym fydda gen i ddim busnes.
"Mae'r term 'defnydd untro' yn hollol hurt. Sut allwch chi ddweud fod lawnt artiffisial yn 'ddefnydd untro'?
"Mae disgwyl iddo bara o leiaf 15 mlynedd, felly dwi ddim yn gweld sut fedr [Julie James] ddefnyddio'r term yna."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012