Gadael y gegin er mwyn newid byd

  • Cyhoeddwyd
Gerwyn Llŷr WilliamsFfynhonnell y llun, Gerwyn Llŷr Williams

Enillydd gwobr Prentis y Flwyddyn Cwmni Hyfforddiant Cambrian eleni yw Gerwyn Llŷr Williams o Lanrwst, sydd yn gweithio fel rheolwr tîm i gwmni ailgylchu Bryson Recycling.

Ond tan ychydig flynyddoedd yn ôl, coginio a gweithio mewn cegin oedd bywyd Gerwyn; roedd wedi bod yn coginio ers ei fod yn ifanc ac yn rhedeg ei fwyty ei hun.

Yma mae o'n egluro pam ei fod o penderfynu newid byd a throi ei gefn ar y gegin.

Linebreak

Gyrfa fel cogydd

O'n i'n coginio yn yr ysgol ac efo Mam a ballu, a 'nes i 'neud Coginio fel TGAU. Roedd 'na gwrs coginio da yng Ngholeg Llandrillo; cwrs tair blynedd lle ti'n gwneud bach o'r ddwy ochr - front of house a gweini, a choginio - cyn canolbwyntio ar un; es i i'r cyfeiriad coginio.

Wedyn es i weithio mewn llefydd ym Metws y Coed, Harlech, Llandudno ac ym mwyty Bryn Williams yn Llundain.

Ychydig flynyddoedd wedyn, roedd y bistro o'n i'n arfer gweithio ynddo ym Metws y Coed yn chwilio am rywun i'w gymryd o drosodd.

Gerwyn a Connie tu allan i'r Bistro a Gerwyn yn gwneud arddangosfaFfynhonnell y llun, Gerwyn Llŷr Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gerwyn a Connie tu allan i'r Bistro, a Gerwyn yn cynnal arddangosiad coginio yn y Sioe Fawr

Ti'n ei 'neud o i bobl eraill, a mae o'n dod i ryw bwynt lle ti'n dechrau meddwl 'swn i'n gallu gneud hwnna bach yn wahanol' neu 'ella 'sa hwnna'n gweithio'. Mi o'n i'n 'nabod y lle yn dda iawn, o weithio 'na cynt, o'n i'n 'nabod lot yn yr ardal o'dd yn gallu dod i weithio efo fi, ac yn 'nabod suppliers lleol. Ac mae'r twristiaid yn Betws am gyfnod hir o'r flwyddyn. O'n i'n gorfod mynd amdani.

Beth 'nes i oedd prynu les y busnes, ac yn hwnna o'n i'n cael pob dim, y branding, y wefan... Wedyn cychwyn newid pethau, a rhoi fy stamp fy hun arno fo. O'n i tua 28 - ges i fy mharti penblwydd yn 30 yna!

Diwedd cyfnod

Diwrnod ola' fi yno oedd nos Calan 2019.

Fues i'n meddwl lot am y peth. Yn y flwyddyn ola', oedd teulu ym mlaen fy meddwl - o'n i a Connie am briodi a gobeithio cael plant rhyw ddiwrnod. Ond o'n i'n gweithio chwech diwrnod allan o saith yn ystod cyfnod prysuraf yr haf. Do'n i a Connie methu mynd am wyliau ganol haf, achos o'n i'n gwybod mai dyna pryd mae'r arian.

Dyna'r broblem efo cael dy fusnes dy hun, ti'n gorfod rhoi lot mewn iddo fo. Alli di'm deud 'dwi'm isho gweithio heddiw' a jest cau'r lle.

Connie a Gerwyn gyda gwobr Cogydd y Flwyddyn 2019Ffynhonnell y llun, The Food Awards Wales
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gerwyn wobr Cogydd y Flwyddyn yn The Food Awards Wales yn 2019

Pan oedd y stôfs 'di diffodd, a phawb arall 'di mynd adra, 'swn i'n gallu bod yna am awr, ddwyawr arall. Roedd dyddiau i ffwrdd o'n i'n eu cael yn ystod y gaeaf yn cael eu llenwi gan waith papur, ar y cyfrifiadur, gwaith ar yr adeilad ei hun... roedd 'na wastad rywbeth i'w wneud ar yr adeilad yn ystod y gaeaf.

Do'n i ddim yn stopio pan o'n i'n stopio coginio.

Cynllun newydd

Pan oedd pawb yn clywed mod i'n rhoi'r gorau i'r Bistro, o'ddan nhw'n gofyn beth oedd y cynllun. Ond 'do'n i ddim yn poeni o gwbl am 'chydig - o'n i rhy flinedig.

'Nes seinio fyny i asiantaeth gwaith, a ges i swydd 2-3 diwrnod yr wythnos - a wedyn contract llawn amser - mewn canolfan ailgylchu, gan gael yr holl hyfforddiant oedd ei angen.

Pan 'naeth Covid hitio ac o'dd y seit wedi cau am rhyw 3-4 mis, o'n i'n meddwl mod i wedi colli fy swydd, ond fues i'n delifro biniau gwastraff gardd i'r cwmni.

Ar ôl y cyfnod clo, o'dd gan y rheolwr gynlluniau i mi. Dwi wedi arfer efo gwaith papur a bod yn hyblyg, a dwi'n gallu gweithio dan bach o stress hefyd!

Ges i fy ngwneud y rheolwr. Dwi'n gwneud cyrsiau efo Cwmni Hyfforddiant Cambrian; Prentisiaeth mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, a rŵan Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau. Dwi'n gorfod dangos tystiolaeth o wahanol sefyllfaoedd a dangos trosglwyddo prosesau a systemau newydd a ballu.

Enillwyr yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol Cwmni Hyfforddiant CambrianFfynhonnell y llun, Cwmni Hyfforddiant Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Bryson Recycling dair gwobr yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian; Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, Andrew Bennet oedd Prentis Eithriadol y Flwyddyn a Gerwyn Llŷr Williams enillodd wobr Prentis y Flwyddyn

Ond mae o'n fwy na jest ailgylchu. 'Dan ni'n gweithio lot efo cymunedau, busnesau a phobl leol hefyd. 'Dan ni'n pasio pethau sy'n ddigon da i gael eu hailddefnyddio 'mlaen i elusennau sydd gan siop ar y safle i'w gwerthu. Mae o'n fullfillingiawn.

Newid byd er gwell

Mae fy oriau i reit hyblyg, a dwi'n gorfod gweithio un penwythnos y mis a dyna ni, sydd ddim yn ddrwg, o orfod gweithio pob penwythnos a methu pob un achlysur pan o'n i'n gogydd... Dwi'n meddwl fod fy ngwraig i reit hapus!

Pan ti'n gweithio mewn cegin, ti jest methu mynd adra a mynd i dy wely yn syth bin. Ti wedi bod yn gweithio 'wrach am 12 awr, a ti angen cymryd awr o leia i jyst switsho ffwrdd.

O'dd 'na nosweithiau faswn i'n gwylio'r teledu tan 4/5 o'r gloch bora, chos o'dd 'na gymaint o stwff yn mynd drwy'n meddwl; poeni am ambell i beth, colli cwsg am bethau...

O'n i'n deud bob dim wrth fy rhieni a Connie, ond do'n i ddim yn licio'i ddangos o o bobl eraill. Mae o yn effeithio ar dy iechyd meddwl, heb os.

Gerwyn a Connie, gyda'u mab bach Seth, ar ddiwrnod eu priodasFfynhonnell y llun, Gerwyn Llŷr Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gerwyn a Connie, gyda'u mab bach Seth, ar ddiwrnod eu priodas

Dwi ddim yn difaru o gwbl. Dwi'n falch o be 'nes i efo'r bwyty a 'nes i gyfarfod ffrindiau da.

Dwi dal i goginio; dwi'n gweithio mewn cegin rŵan, dwy noson yr wythnos, ac achos bod hi ddim yn swydd llawn amser i mi rŵan, dwi'n mwynhau coginio mwy adra!

Dwi'n gwybod mod i wedi gneud y dewis iawn.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig