Pryder am golli swyddi gyda rheolau hela llymach

  • Cyhoeddwyd
FfesantFfynhonnell y llun, BASC

Gallai rheolau llymach ar ryddhau adar hela fel ffesantod a phetris coesgoch yng Nghymru arwain at golli swyddi mewn cymunedau gwledig, medd rhai busnesau.

Dywedodd un perchennog tafarn ei fod yn poeni y gallai orfod cau am ran o'r flwyddyn maes o law.

Dan gynigion newydd, dim ond o dan drwydded y byddai adar hela yn gallu cael eu rhyddhau i gefn gwlad.

Mae'r RSPB - sy'n cefnogi'r cynlluniau - yn dweud y bydd yn helpu i fynd i'r afael â phryderon am effaith amgylcheddol cyrchoedd hela ar raddfa fawr.

'Dibynnol arnom am eu bywoliaeth'

Dywedodd Jonthan Greatorex, perchennog The Hand ym mhentref Llanarmon Dyffryn Ceiriog, sir Wrecsam, bod ei fusnes yn dibynnu ar ddiwydiant saethu llewyrchus yn lleol.

Mae'r dafarn adnabyddus hyd yn oed wedi cael llyfr coginio wedi'i gyhoeddi, sy'n arddangos ryseitiau helgig.

Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Greatorex: "Mae saethu yn cadw ni i fynd drwy fisoedd y gaeaf"

"Mae rhai yn meddwl am saethu fel pobol gyfoethog yn dod yn eu Range Rovers, yn saethu ffesantod ac yna'n diflannu'n ôl i Lundain," meddai.

"Ond o'n safbwynt ni, mae saethu yn cadw ni i fynd drwy fisoedd y gaeaf - dyna sy'n ein cadw ni'n fyw fel busnes a chyflogwr."

Mae'n poeni y bydd y rheolau newydd yn arwain at ostyngiad yn nifer y cyrchoedd hela sy'n cael eu trefnu.

"Mae gen i 25 o bobl sy'n ddibynnol arnom ni am eu bywoliaeth, ac heb saethu mae'r swyddi hynny wedi mynd am ran fawr o'r flwyddyn," meddai.

'Cam cyntaf gwaharddiad llwyr'

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater yn dod i ben wythnos nesaf, gyda'r cynigion eisoes wedi arwain at ffraeo yn y Senedd.

Cafodd y diwydiant saethu ei gythruddo gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James - a fydd yn penderfynu ar y cynlluniau yn y pen draw - wedi iddi ddweud nad ydi "lladd unrhyw beth at ddibenion chwaraeon neu hamdden" yn rhywbeth "y dylai unrhyw gymdeithas wâr ei gefnogi".

Dywedodd y ciper, Helen Jones, o Chwaraeon Gwledig Cwm Fedw, fod hynny wedi codi ofnau fod y newidiadau yn gam cyntaf tuag at waharddiad llwyr, rhywbeth mae Llywodraeth Cymru yn gwadu.

Mae'n magu adar ac yn cynnal helfeydd ar ei fferm ger Llyn Efyrnwy, Powys ac mae ganddi hefyd fusnes arlwyo sy'n troi'r helgig yn bopeth o byrbrydau tikka ffesant (pheasant tikka bites) i wyau Sgotyn (scotch eggs).

Gan fod y tymor saethu yn rhedeg o fis Medi i fis Tachwedd, mae hi'n honni fod hyn yn helpu i ddod â thwristiaid i gefn gwlad yn ystod misoedd tawelach, gan gadw'r economi leol i redeg.

"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni ddysgu nhw [Llywodraeth Cymru] fod saethu yn rhan fawr o gefn gwlad ac mae llawer o waith cadwraeth yn mynd i mewn i'r hyn rydyn ni'n ei wneud," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Jones fod y sector wedi ei syfrdanu gan sylwadau'r Gweinidog Newid Hinsawdd

Pan ofynnwyd iddo pam y dylai'r diwydiant ddisgwyl cael gweithredu heb reoleiddio dywedodd Steve Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, fod yn rhaid i'r rhai sy'n rhyddhau adar o fewn neu'n agos i safleoedd sensitif ofyn am ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn barod.

Dywedodd fod y sector wedi ei syfrdanu gan sylwadau'r Gweinidog Newid Hinsawdd.

"Mae cymaint o bethau cadarnhaol ac mae bron fel bod hynny i gyd wedi'i wthio i'r naill ochr," meddai.

'Rhyddhau mewn niferoedd dwys'

Dywedodd Deio Gruffydd o RSPB Cymru fod yr elusen yn pryderu am effaith rhyddhau niferoedd mawr o adar hela ar gynefinoedd a bywyd gwyllt, gan gynnwys y risg o ledaenu afiechydon fel ffliw adar.

Mae lle i gredu bod rhwng 800,000 a 2.3 miliwn o adar yn cael eu ryddhau i gefn gwlad Cymru bob blwyddyn - ac "mewn rhai achosion maen nhw'n cael eu ryddhau mewn niferoedd dwys".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Deio Gruffydd fod RSPB Cymru yn gefnogol o gynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru

"Ma' hynny wedyn yn gallu achosi difrod i'r amgylchedd, gan gael effaith ar y cydbwysedd yn y gadwyn fwyd er enghraifft, gan bod 'na fwy o gystadleuaeth i adar brodorol cynhenid," meddai.

"'Dan ni'n gefnogol o be mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei gynnig gan ei fod o'n golygu rheoleiddio mwy cadarn."

Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu gofyn i ddatblygu cynigion ar gyfer rheoleiddio'r broses o ryddhau adar hela gan Lywodraeth Cymru

Mae'n dilyn dadl debyg yn Lloegr, ac achos gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU gan y grŵp ymgyrchu Wild Justice.

Dywedodd Mannon Lewis, uwch-ymgynghorydd CNC mai'r syniad oedd dod â system drwyddedu arbennig ar gyfer rhyddhau adar o fewn neu 500m gerllaw i safleoedd sensitif.

Ffynhonnell y llun, BASC
Disgrifiad o’r llun,

Dan y cynigion newydd, dim ond o dan drwydded y byddai adar hela yn gallu cael eu rhyddhau i gefn gwlad

Byddai'n rhaid i giperiaid wneud cais a thalu am drwydded, a fyddai'n gosod amodau yn seiliedig ar nodweddion y safleoedd gwarchodedig hynny.

Byddai'n rhaid i'r rhai sydd am ryddhau adar mewn mannau eraill hefyd wneud cais am drwydded gyffredinol - er y byddai hyn yn rhad ac am ddim.

"Be' sy'n bwysig i ni gofio ydi pan mae saethfeydd yn cael eu rheoli yn dda, efo canllawiau da, mae 'na werth rhagorol ar gyfer bywyd gwyllt a 'dan ni'n cydnabod hynna" meddai Ms Lewis.

"Be' 'da ni'n edrych arno rŵan ydi ffordd gynaliadwy o ryddhau'r adar yma.

"Achos 'dan ni yn ymwybodol mae'r dystiolaeth yn dangos mewn rhai ardaloedd mae 'na gynnydd aruthrol yn niferoedd yr adar sydd yn cael eu rhyddhau, a tydi hynny ddim yn gynaliadwy.

"Tydi o ddim yn ymgynghoriad i roi'r gorau i saethu neu stopio saethu."