Bragdai'n pryderu am effaith cynllun dychwelyd poteli
- Cyhoeddwyd
Mae bragdai'n rhybuddio y gallai cynllun sydd â'i fwriad i gynyddu cyfraddau ailgylchu yng Nghymru fod yn niweidiol i'w diwydiant.
Yn gynharach yr wythnos hon fe ddywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai'n bwrw ymlaen gyda chynlluniau i gyflwyno cynllun dychwelyd poteli, gan gynnwys gwydr.
Mae hynny er gwaethaf oedi i gynlluniau tebyg yn yr Alban.
Mae'r Cynllun Dychwelyd Ernes yn strategaeth i gynyddu cyfraddau ailgylchu trwy godi blaendal am gynwysyddion untro, fel poteli plastig a chaniau alwminiwm, all gael eu had-dalu pan fo'r cynhwysyn yn cael ei ddychwelyd i siop.
'Rhoi bragdai Cymru dan anfantais'
Roedd Cymru a Lloegr yn bwriadu gweithio ar gynllun ar y cyd lle fyddai poteli sy'n cael eu prynu ym Mryste yn gallu cael eu dychwelyd ym Mangor, er enghraifft.
Ond fe benderfynodd Llywodraeth y DU i beidio â chynnwys gwydr yn eu cynllun ar ôl ymgynghoriad.
Mae Simon Buckley, o Fragdy Evan Evans, yn gadeirydd Bragwyr Cymru ac mae'n dweud y gallai bragdai yng Nghymru fod dan anfantais os yw Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen â'u cynllun.
"Mae'n fwy o fiwrocratiaeth. Mae'n fwy o bobl yn gwneud swydd lle nad oes unrhyw elw ariannol," dywedodd.
"A'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw ei fod yn syth yn ein rhoi ni fel bragwyr yma yng Nghymru dan anfantais i'r bragwyr mwy."
Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu peidio cynnwys gwydr yn eu Cynllun Dychwelyd Ernes yn Lloegr, yna fe fydd rheolau Deddf y Farchnad Fewnol yn golygu mai dim ond i nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru neu sy'n cael eu mewnforio'n uniongyrchol y byddai'r cynllun yng Nghymru yn berthnasol.
Mae Mr Buckley'n dweud fod bragwyr hefyd yn poeni am ba mor ymarferol yw'r cynllun.
"Os ydyn ni, yn sydyn, yn mynd i gyflwyno'r hyn sydd, yn ei hanfod, yn ddirwy o 20 ceiniog y botel, yna bydd yn rhaid iddyn nhw ariannu hynny.
"Dy'n ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i weithio, pa mor gyflym y daw'r arian yn ôl i'r system.
"Ond wedyn mae hefyd gennym ni'r sefyllfa hunllefus y gallai rhywun ddod i fy mragdy a mynnu fy mod yn eu had-dalu am, dywedwch 1,000 o boteli ac o'r rheiny mai dim ond 10 efallai yw fy rhai i."
Mae Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ennill pwyntiau gwleidyddol yn erbyn Llywodraeth y DU.
Dywedodd: "Yn amlwg, mae llywodraeth lafur Cymru yn ceisio creu dadl wleidyddol. Wrth gwrs mae'n gwneud synnwyr bod gennym gysondeb ar draws y Deyrnas Unedig i gyd.
"Mae nwyddau'n cael eu cludo a'u masnachu yr holl ffordd ar draws y DU gyfan.
"A thrwy greu'r anghysondeb hwn, mae Llywodraeth Cymru yn edrych i wahaniaethu a chau llawer o fusnesau bach llwyddiannus yng Nghymru."
'Pwysig atal gwastraff'
Ond yn ôl Jo Golley o Cadwch Gymru'n Daclus, mae Llywodraeth Cymru'n gywir i gynnwys gwydr yn y cynllun a dywedodd y bydd neges glir yn helpu'r cyhoedd i gymryd rhan.
Dywedodd: "Mae'n gwbl hanfodol ei bod yn neges glir ac yn un syml i allu ei dilyn - unrhyw bryd y byddwch chi'n prynu diod mewn can plastig untro, alwminiwm neu beth bynnag y gallwch chi ei gymryd yn ôl a bod yna'r arian yn ôl ar hynny.
"Mae'n atal y gwastraff hwnnw, mae'n atal y sbwriel hwnnw, ac mae'n gwneud i bobl ddechrau meddwl yn wahanol. Nid dim ond am boteli diod, ond am yr holl ddeunydd pacio y maent yn ei ddefnyddio."
A fydd camau cyfreithiol?
Ar raglen Politics Wales y BBC yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y byddai'n herio Llywodraeth y DU ar y cynllun.
Yn ôl un arbenigwr cyfansoddiadol, Jess Sargeant, dyw hi ddim yn syndod bod yr Alban a Chymru'n herio Llywodraeth y DU ar y mater oherwydd roedd y ddwy lywodraeth yn anhapus â Deddf y Fasnach Fewnol ers y dechrau.
Y ddadl oedd bod y ddeddf yn tanseilio eu hawdurdod datganoledig.
Dywedodd: "Mae 'na ddau lwybr. Llwybr gwleidyddol i geisio perswadio Llywodraeth y DU i ganiatáu eithriad, neu mae yna lwybr cyfreithiol i herio sail gyfreithiol y ddeddf yn y lle cyntaf."
Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi dweud a fyddan nhw'n bwrw ymlaen a'r llwybr cyfreithiol eto, ond ar ôl i'r Alban oedi eu cynllun ar ôl ymyrraeth Llywodraeth y DU dywedodd Julie James nad yw ei chynlluniau wedi newid.
Tra'n gyfreithiol, fe all Ms James fwrw ymlaen, yn ôl Jess Sargeant, mae'n cwestiynu effeithiolrwydd y cynllun os yw ond yn cael ei weithredu yng Nghymru.
Mae BBC Cymru ar ddeall nad yw Llywodraeth Cymru'n ystyried her gyfreithiol ar hyn o bryd ond maent yn bwriadu parhau a'r cynllun dychwelyd yn cynnwys gwydr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023