Capiau i gyn-chwaraewyr hoci Cymru ar ôl degawdau o aros

  • Cyhoeddwyd
Menywod hoci
Disgrifiad o’r llun,

Wedi degawdau o aros mae'r rheiny a gynrychiolodd Gymru yn y 60au a'r 70au wedi cael eu capiau rhyngwladol

Ar ôl degawdau o aros, mae aelodau tîm hoci menywod Cymru o'r 60au a'r 70au wedi cael eu capiau rhyngwladol o'r diwedd.

Yn y 60au a'r 70au fe fydden nhw yn cwrdd â'i gilydd ar gae hoci ac yn chware dros eu gwlad, ond nawr mae cyn-aelodau tîm hoci menywod Cymru yn cwrdd mewn tafarn yn ardal Llanelli pob chwe wythnos i hel atgofion a chofio'r "dyddiau da".

Pan es i draw i gwrdd â nhw yn Nhafarn Morlais, Llangennech, roedden nhw'n cynnal cinio arbennig i ddathlu'r ffaith eu bod nhw, ar ôl degawdau o ddisgwyl, wedi cael eu capiau am chwarae dros eu gwlad.

Fe gawson nhw eu hanrhydeddu fel rhan o gynllun ymchwil treftadaeth gan Hoci Cymru i gasglu gwybodaeth am bob chwaraewr sydd wedi cynrychioli Cymru, a chyflwyno cap i bob un ohonyn nhw.

Yn ôl Hoci Cymru doedd dim capiau yn cael eu rhoi i ddynion a menywod oedd yn chware dros Gymru tan ddechrau'r 2000au.

Ond yn ystod seremoni arbennig ym mis Awst y llynedd fe gafodd capiau eu cyflwyno i 100 o ddynion a menywod oedd wedi cynrychioli eu gwlad.

Disgrifiad,

Wrth edrych nôl mae Beti yn falch iawn o'r hyn gafodd ei gyflawni, ond ar y pryd "jyst gêm o hoci oedd e"

I bobl fel Beti Wyn Williams, 80 o Glydach yng Nghwm Tawe, roedd hynny'n foment fawr.

Fe chwaraeodd hi gyntaf i Gymru yn 1966 mewn gemau yn erbyn Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a'r Iseldiroedd.

Mae'n sôn gyda balchder am chwarae yng Nghwpan y Byd yn 1967 yn Yr Almaen, a dod yn ail i Loegr.

Mae menywod y tîm yn sôn am y cyfnod fel y "dyddiau aur".

Wrth edrych nôl mae Beti yn amlwg yn falch iawn o'r hyn gafodd ei gyflawni.

Ond ar y pryd, meddai: "Jyst gêm o hoci oedd e. O'n ni ddim wir yn meddwl am y peth."

Disgrifiad o’r llun,

Y criw yn hel atgofion a chofio'r "dyddiau da"

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera, mae Beti yn cofio rhes o luniau ar y wal tu fas i ystafell y prifathro.

"Bydden ni'n sôn amdanyn nhw fel The Rogues Gallery a'r traddodiad yn fanna oedd bod unrhyw un oedd wedi cynrychioli Cymru yn cael ei llun ar y wal.

"Roedd llun o fi lan fanna gyda lot o fois oedd wedi chware rygbi a chriced i Gymru.

"Fi oedd yr unig fenyw lan ar y wal. Mae'r llun yna gyda fi o hyd."

Disgrifiad o’r llun,

I Marian Williams roedd gweld ei "merched" yn cael eu capiau yn foment fawr

Marian Williams, 92 o Lanelli, oedd yn gyfrifol am hyfforddi'r tîm.

"Roedd y tîm yma yn un llwyddiannus iawn am eu bod nhw yn gweithio yn ardderchog gyda'i gilydd," eglura.

"Roedden nhw yn ffrindiau hefyd ac mae'r cyfeillgarwch yna wedi parhau."

I Marian roedd gweld ei "merched" yn cael eu capiau yn foment fawr.

"Roedd hi'n bryd iddyn nhw gael e. Roedd dynion mewn campau eraill yn cael capiau a jerseys ac yn y blaen, a dim cap i'r merched.

"Cofiwch, pan oedd y merched yma yn chwarae doedden nhw ddim yn cael arian na expenses na dim, ac roedd rhaid codi'r arian i dalu am bopeth."

'Wedi cael eu cydnabod o'r diwedd'

Wrth i'r tîm gasglu eu capiau, doedd dim cap i Marian yr hyfforddwr, ond dyw hynny ddim yn ofid iddi.

"Fe ges i presentation yn y noson wobrwyo, a ma' hwnnw lan ar y wal.

"Na, dim cap i'r coach, ond i'r rheiny oedd wedi gneud shwd gymaint dros Gymru maen nhw wedi cael eu cydnabod o'r diwedd."

Disgrifiad o’r llun,

"Roedd e'n torri eich calon braidd bod rhai wedi mynd heibio heb gael eu capiau," medd Eirianwen Thomas

Eirianwen Thomas, 88, yn wreiddiol o Fryneglwys oedd y capten.

"Mae cymaint o atgofion gen i. Mae'r gêm gynta' i fi yn aros yn y cof, ym 1954 a finne yn 18 oed mewn pwll o ddŵr yn y glaw yn Iwerddon.

"18 oedd yr oed cynta' allech chi chware dros Gymru yn y dyddie hynny.

"Roeddwn i yn y coleg ym Mangor a doeddwn i ddim yn sylweddoli be' oedd yn digwydd yn iawn.

"Nes i ofyn i'r principal os fydden i'n cael amser mas o'r coleg i fynd i Iwerddon i gynrychioli Cymru. 'Mor belled â bo' chi yn gwneud eich gwaith' medde fe wrtha i."

Ond ynghanol y llawenydd wrth dderbyn cap o'r diwedd, roedd yna dristwch hefyd.

"Roedd e'n torri eich calon braidd bod rhai wedi mynd heibio heb gael eu capiau, ac mae hynny yn ddigalon."

Disgrifiad o’r llun,

Margaret Edwards: "Dwi'n meddwl y byddai'r teulu, a Dad yn arbennig, yn prowd iawn o weld fi yn cael cap o'r diwedd"

Mae'r aberth y gwnaeth teuluoedd wrth sicrhau bod y merched yn cael teithio i bedwar ban byd i gynrychioli eu gwlad yn fyw yng nghof nifer ohonynt.

Dywed Margaret Edwards, 78 o Aberystwyth: "Roedd cefnogaeth y teulu yn bwysig i fi pan yn chwarae, gyda Dad a Mam a fy chwaer yn gwylio.

"Ond hefyd fi oedd yr unig un o Aberystwyth oedd yn chware ar y pryd, felly ro'n i hefyd yn teimlo mod i'n cynrychioli Aberystwyth.

"Dwi'n meddwl y byddai'r teulu, a Dad yn arbennig, yn prowd iawn o weld fi yn cael cap o'r diwedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r menywod wedi penderfynu eu bod am "gael cas perffaith" i'w capiau newydd

Roedd y tîm yn llwyddiannus ar y cae, ond roedd ganddyn nhw hefyd enw da am greu adloniant oddi ar y cae, yn ôl Janet Hopkin, 80.

"Bydden ni yn cael amser da ar y teithiau a bydden ni'n chware yn galed, ond ro'n ni'n cael amser da pan o'n ni ddim yn chware," meddai.

Ar y funud mae cap Janet yn "eistedd ar ben jwg yn y parlwr" ond mae hi a gweddill yr aelodau wedi cytuno bod yn rhaid nawr arddangos y capiau maen nhw wedi aros mor hir amdanyn nhw, mewn lle anrhydeddus.

Maen nhw wedi penderfynu eu bod am "gael cas perffaith".

"Ry'n ni wedi ffeindio bocs frame fydd yn 'neud y tro yn berffaith, a bydd y capiau yn cael pride of place gan bob un ohonom ni."