Mwy o alw am gymorth i blant sydd â chyflyrau prin
- Cyhoeddwyd
Nerys Davies o Lanrwst yn trafod y gofal mae ei mab Bedwyr yn ei gael yn hosbis plant Tŷ Gobaith
Mae nifer y plant yng Nghymru sy'n byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu eu bywydau wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, medd elusennau.
Yn ôl adroddiad gan hosbisau Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, mae data 2009-2019 yn awgrymu bod 'na gynnydd o bron i chwarter, gyda dros 3,000 o fabanod a phlant yng Nghymru yn byw gyda chyflyrau o'r fath yn 2019.
Yn ôl Andy Goldsmith, prif weithredwr Tŷ Gobaith, mae'r data yn darogan y bydd y galw am ofal arbenigol yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod fod "hosbisau plant yn wynebu heriau cynyddol".
'Ar gael dydd a nos'
Mae Nerys Davies o Lanrwst yn fam i Bedwyr, bachgen wyth oed sy'n byw gyda'r cyflwr prin Coffin-Siris.
"Mae Tŷ Gobaith yn rhoi hwb mawr i ni. Ni'n gwybod bod o'n saff yno.
"Cyn heddiw dwi wedi ffonio nhw ben bore yn beichio crio yn poeni. Mae'r cyngor 'na ar gael i rywun dydd a nos."
![Bedwyr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2098/production/_130144380_66618fb8-9b5c-4429-a45b-2b4236a15115.jpg)
Mae Bedwyr yn byw gyda chyflwr prin Coffin-Siris
Mae Bedwyr yn mwynhau treulio amser yn yr ardd yn chwarae ar y trampolîn gyda'i frawd mawr, Gethin, 14.
"Dyw Bedwyr ddim yn rhoi llawer o emosiynau allan felly, mae gweld o'n cael hwyl efo'i frawd yn rhoi boddhad mawr," meddai Nerys.
Er yr hwyl, mae cyflwr meddyliol a chorfforol Bedwyr yn golygu bod bywyd o ddydd i ddydd yn gallu bod yn heriol iawn i'r teulu.
Mae gan Bedwyr wendid yn ei ysgyfaint, ac mae'n byw gydag epilepsi hefyd.
"Mae o'n gallu mynd i'r ysgol yn y bore ac erbyn y pnawn, mae o yn Ysbyty Gwynedd yn hynod wael."
![Teulu Bedwyr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2480/production/_130144390_mediaitem130144388.jpg)
Dywed Nerys Davies fod Tŷ Gobaith wedi cynnig ysbaid "anhygoel" i'r teulu dros y blynyddoedd
Mae Bedwyr a'i deulu wedi defnyddio gwasanaethau Tŷ Gobaith dros y blynyddoedd - gofal sydd wedi cynnig ysbaid "anhygoel", yn ôl Nerys.
"Mae o fatha bod mewn cartref. Mae pawb mor gyfeillgar yna.
"Mae Bedwyr yn cael hwyl dros ben yn cael profiadau newydd yna.
"Mae Tŷ Gobaith yn rhoi hwb mawr i ni."
![Bedwyr a'i frawd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/114F9/production/_130150907_da8314db-a637-4814-aca6-a26120ce1323.jpg)
Mae Bedwyr yn mwynhau treulio amser yn chwarae gyda'i frawd mawr, Gethin
Fel Bedwyr, mae anghenion arbenigol a chyflyrau sy'n cyfyngu byw yn rhan o realiti cannoedd o deuluoedd ar draws Cymru.
Yn ôl adroddiad Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan, sydd wedi'i gwblhau gan academyddion prifysgolion Efrog a Choleg y Brenin yn Llundain, mae un ymhob 172 plentyn yn byw gyda chyflwr sy'n cyfyngu ar eu bywyd.
"Mae'r tueddiadau a nodir yn yr adroddiad arloesol hwn yn rhagweld y bydd y galw am y gwasanaethau a ddarperir gan Dŷ Hafan a Thŷ Gobaith yn cynyddu'n sylweddol," meddai prif weithredwr Tŷ Gobaith Andy Goldsmith.
"Mae hefyd yn dangos y bydd angen i'r math o wasanaethau y maent yn eu darparu addasu i gadw i fyny â'r amodau cynyddol gymhleth y mae plant yn byw gyda nhw ar hyn o bryd."
'Wynebu heriau cynyddol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni eisiau i bobl gael mynediad at y gofal a chefnogaeth diwedd-oes gorau posib.
"Dyna pam ry'n ni'n parhau i ddarparu dros £10m y flwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol yng Nghymru.
"Ry'n ni'n gwybod fod hosbisau plant yn wynebu heriau cynyddol, yn delio gyda chynnydd mewn prisiau ynni a chostau rhedeg, ynghyd â galw cynyddol am eu gwasanaethau.
"Mae'r adroddiad sydd wedi'i lansio heddiw yn gyfraniad gwerthfawr i'n dealltwriaeth o gymhlethdodau gofal lliniarol a diwedd-oes i blant, a bydd yn helpu i egluro ble mae angen mwy o fuddsoddiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020