Cystadlaethau UEFA: Trip i Sweden i'r Seintiau Newydd
- Cyhoeddwyd
Taith i Sweden fydd yn wynebu'r Seintiau Newydd wrth iddynt herio BK Hacken yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Er yn un o'r detholion, bydd y clwb o Groesoswallt yn chwarae un o'r timau cryfaf y gallant wedi'u hwynebu wrth geisio cyrraedd yr ail rownd ragbrofol.
Eisoes wedi cychwyn eu tymor, doedd Hacken ddim wedi'u dethol gan iddynt ennill pencampwriaeth Sweden am y tro cyntaf yn 2022.
Bydd y cymal cyntaf yn Gothenburg ar 11/12 Gorffennaf, gyda'r ail gymal yng Nghroesoswallt ar 18/19 Gorffennaf.
Cyngres Ewropa
Ond llwyddodd gweddill clybiau'r Cymru Premier i dynnu gemau ychydig yn fwy caredig o'r het.
Bydd Penybont, sy'n yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop, yn wynebu Santa Coloma o Andorra yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Ewropa.
Bydd tîm Rhys Griffiths yn chwarae gartref yn y cymal cyntaf ar 13 Gorffennaf, i'w chwarae ar Gae'r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Taith i KF Shkëndija o Ogledd Macedonia fydd gwobr Hwlffordd, wedi iddynt gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers 2004.
Bydd tîm Tony Pennock, a drechodd y Drenewydd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle, yn chwarae eu hail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 20 Gorffennaf.
Yn un o'r detholion yn y gystadleuaeth, bydd Cei Connah yn wynebu KA Akurei o Wlad yr Iâ, gyda thîm Neil Gibson oddi cartref ar gyfer y cymal cyntaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023