Bae Colwyn a'r Barri yn 'hwb aruthrol i gynghrair Cymru'
- Cyhoeddwyd
Bydd ychwanegiad y ddau glwb sy'n denu'r torfeydd gorau ym mhêl-droed Cymru i brif haen y pyramid yn "hwb aruthrol" i'r uwch gynghrair.
Dyna farn un o brif leisiau'r bêl gron yng Nghymru wedi i Fae Colwyn a'r Barri sicrhau eu lle yn y Cymru Premier ar gyfer y tymor nesaf.
Er i Wrecsam hawlio llawer o'r sylw diweddar, bydd Bae Colwyn hefyd yn camu i fyny wrth gymryd eu lle ym mhrif adran Cymru.
Daw hyn yn sgil penderfyniad y clwb yn 2019 i symud i'r pyramid Cymreig yn dilyn 35 mlynedd o chwarae yn is-adrannau Lloegr.
Wedi ennill eu cynghreiriau rhanbarthol y tymor hwn, sef y Cymru North a'r Cymru South, bydd Bae Colwyn a'r Barri yn cymryd lle Airbus a'r Fflint.
Fe ddenodd Bae Colwyn dorf cyfartalog o 720 o gefnogwyr i'w gemau cartref y tymor hwn, gyda chyfartaledd o 575 yn gwylio'r Barri.
Roedd hynny'n uwch na'r clwb mwyaf poblogaidd yn yr uwch gynghrair, gyda 478 yn gwylio gemau Caernarfon.
Mewn cymhariaeth, mae rhai gemau yng nghynghreiriau domestig y merched wedi denu torfeydd o filoedd wrth i glybiau Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe chwarae'n achlysurol ym mhrif stadiwm timau'r dynion.
'Gwendid cynhenid y brif haen'
Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd y sylwebydd Nic Parry y bydd croesawu Bae Colwyn i'r brif haen am y tro cyntaf yn "hwb aruthrol".
Ond ychwanegodd ei fod yn parhau yn siomedig gyda thorfeydd cyffredinol timau'r gynghrair.
Er yn wynebu'r sialens unigryw o rai o glybiau mwyaf y wlad yn chwarae ym mhyramid Lloegr, yn nhymor 2022/23 roedd cyfartaledd o 305 yn mynychu gemau yn y Cymru Premier - sy'n parhau i fod ymysg yr isaf yn Ewrop.
"Mae'n rhaid i ni sylweddoli a chyfadde' fod gwendid cynhenid ym mhrif haen pêl-droed Cymru, a hynny ydy'r torfeydd gwaradwyddus o isel," meddai Nic Parry, un o brif sylwebwyr rhaglen Sgorio.
"Mae'r ffigyrau yn echrydus mewn gwirionedd, 460 tua'r entrychion lawr at cwta 200 yn y gwaelodion, a hynny yn ein prif gynghrair cenedlaethol sy'n cael digon o sylw fel arall.
"Mae [Bae Colwyn a'r Barri] am fod yn hwb aruthrol, nid yn unig fod nhw'n cael torfeydd da ond fod nhw am gynyddu'r diddordeb ymysg clybiau eraill.
"Dwi'n meddwl, oherwydd eu presenoldeb nhw, fydd y torfeydd cyfartalog yn codi."
Drwy godi i'r brif adran bydd yn golygu mwy o deithio i'r ddau glwb, ac hefyd llai o gemau 'darbi'.
Ond mae Nic Parry yn credu y byddan nhw'n gweld buddion hefyd, er ei fod yn ffafrio arbrofi chwarae dros yr haf.
"Mae'n bosib gallan nhw weld torfeydd is ar rai penwythnosau, ond mae 'na bres mawr i'w wneud o Ewrop," meddai.
"Mae 'na bryder nad ydy pob un clwb yn yr uwch gynghrair yn 'glybiau mawr', mae angen enwau mawr i ychwanegu at hygrededd prif gynghrair Cymru ac mae Bae Colwyn a'r Barri yn ddau o'r enwau mawr.
"Pe bai Merthyr yn dod yn eu holau hefyd, er enghraifft, Bangor, Y Rhyl, dyna'r enwau 'dach chi eisiau eu gweld yn uwch gynghrair Cymru."
'Ein torfeydd wedi treblu'
Roedd Bae Colwyn yn un o bedwar clwb i wrthod gorchymyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ymuno â'r uwch gynghrair newydd yn 1992.
Bu'n rhaid i'r Gwylanod chwarae eu gemau cartref yn Northwich ac yna Ellesmere Port am gyfnod cyn ennill achos llys yn erbyn y gymdeithas.
Sioc oedd o i rai, felly, pan gyhoeddodd Bae Colwyn eu bod am ailymuno â'r pyramid Cymreig yn 2019.
Dywedodd Dilwyn Roberts, ysgrifennydd a chyfarwyddwr CPD Bae Colwyn, fod yr ymateb ers symud i'r pyramid Cymreig "wedi bod yn hollol bositif".
"Pan gymron ni'n penderfyniad i ddod yn ôl [i Gymru] mi oedd 'na rhyw split yn y clwb... ond i fod yn onest mae'r torfeydd wedi mwy na threblu, mae'r dref tu cefn i ni ac mae'r chwaraewyr wedi bod yn wych.
"Mae'r bwrdd cyfarwyddwyr yn hapus iawn hefo'r progress 'dan ni wedi'i wneud."
Dywedodd Mr Roberts wrth BBC Cymru Fyw fod 'na gynllun pum mlynedd mewn lle i sicrhau dyrchafiad i'r brif haen, ond eu bod wedi llwyddo i gyflawni hynny mewn tair.
Mae'r clwb bellach yn llygadu lle yn Ewrop dros y blynyddoedd i ddod.
I sicrhau hynny bydd yn rhaid iddynt ennill Cwpan Cymru neu orffen tuag at frig y tabl.
Ond gyda'r clwb yn adeiladu eisteddle newydd a fydd yn cynnwys 1,000 o seddi, bydd Ffordd Llaneilian yn ateb y trothwy er mwyn cynnal rhai gemau yng nghystadlaethau UEFA.
"Fasa'n hyfryd gweld Bae Colwyn yn chwarae gemau yn Ewrop ac mae'r cyfleusterau bron yn barod," ychwanegodd.
"Mae'n anodd dweud [pam fod y torfeydd wedi codi], mae canlyniadau'n helpu ond dwi'n meddwl fod ni'n cael mwy o bobl iau [drwy'r giât].
"Mae'n braf gweld pobl yn eu 20au a 30au yn dod a dyna'r dyfodol wrth gwrs, 'dan ni yn glwb sydd o fewn y gymuned ac mae hynny'n help mawr.
"Yn Lloegr roeddan ni yn y seithfed haen yn y diwedd, ond oedd y teithio yn ofnadwy a doedd y cefnogwyr ddim yn dod yr un fath.
"Ond ers dod yn ôl mae'n anhygoel beth sydd wedi digwydd i ni.
"'Dan ni'n gobeithio fydd bod yn yr uwch gynghrair yn dod â mwy o bobl leol yma, 'dan ni'n gobeithio o leia' cadw yr un rhifau."
Enw cyfarwydd yn dychwelyd
Symudodd Y Barri i chwarae yng nghynghreiriau Cymru yn yr 1980au cyn dychwelyd i'r pyramid yn Lloegr.
Yn sgil dyfodiad Uwch Gynghrair Cymru yn 1992/93 fe orfodwyd Y Barri i dreulio tymor yn chwarae eu gemau cartref yng Nghaerwrangon cyn dychwelyd i Gymru a sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Cymru yn 1993/94.
Roedd y blynyddoedd a ddilynodd yn gyfnod aur i'r clwb wrth i'r garfan llawn amser, mewn cynghrair led-broffesiynol, gipio'r bencampwriaeth saith gwaith mewn wyth tymor a sicrhau canlyniadau clodwiw yn Ewrop gan gynnwys buddugoliaeth o 3-1 dros Porto.
Ond yn dilyn trafferthion ariannol, gan gynnwys cyfnod byr pan oedd John Fashanu wrth y llyw, bu'n rhaid ail-adeiladu o'r gwaelod cyn sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r brif haen yn 2017.
Er y siom o syrthio o Uwch Gynghrair Cymru yn 2022, enillodd y Barri bencampwriaeth y Cymru South gan sicrhau eu lle yn ôl ymysg goreuon y pyramid Cymreig.
Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw dywedodd un o gefnogwyr pybyr y Barri, Ian Johnson, bod y torfeydd erbyn hyn yn fwy nag yr oeddent yn ystod cyfnod aur y clwb.
"Mae'r clwb yn fwy nawr nac yn y '90au," meddai Ian.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Ar gyfnodau roedd y tîm ar y cae yn llwyddiannus ond efallai roedd angen mwy o waith gyda'r gymuned... yn sicr mae'r gymuned yn teimlo'n rhan o'r clwb.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gan y Barri dîm menywod llwyddiannus sy'n chwarae yn yr uwch gynghrair, ac mae timau vets dros 40, 50 ac yn y blaen, ac adran pêl-droed cerdded a thimau academi.
"Hefyd mae timau yng nghynghrair Barri a'r Fro, felly mae mwy o gyswllt gyda'r gymuned nawr nac erioed yn ein hanes, ac mae hwn yn arwain at mwy o ddiddordeb, torfeydd gwell nawr nac yn y gorffennol a mwy o ddiddordeb gan bobl ar y terasau.
"Mae cysylltiadau gyda'r ysgolion lleol i gadw'r momentwm i fyny ac ni yn defnyddio adnoddau i dargedu rhai gemau penodol i ddenu torfeydd mwy i'r clwb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2023