Lansio map yn dathlu enwau Cymraeg a Gaeleg yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Map lleoedd Cymraeg slow waysFfynhonnell y llun, Slow Ways
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r map o lwybrau cerdded hygyrch yn cynnwys enwau lleoedd Cymraeg a Gaeleg yr Alban

Mae map o lwybrau cerdded yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wedi ei lansio gan ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg a Gaeleg yr Alban.

Mudiad Slow Ways sydd tu ôl i'r prosiect, sydd â'r nod o gydnabod yr hanes sydd wrth wraidd pob enw.

Fe gafodd y mudiad ei sefydlu yn ystod y cyfnod clo yn 2020 i dynnu sylw at lwybrau hygyrch.

Mae bellach yn rhwydwaith o 2,500 o gymunedau sy'n cyfrannu i adnabod llwybrau cerdded rhwng pentrefi a threfi.

Disgrifiad,

Dywedodd Hannah Engelkamp ei bod yn bwysig sicrhau "teimlad o berthyn" drwy'r mapiau

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd swyddog diwylliant y mudiad fod y prosiect wedi bod yn "her wych".

"Dechreuodd hwn yn ystod y cyfnod clo ac oedd hwnna'n eitha' da i ni mewn ffordd achos oedd amser 'da lot o bobl, a oedd pobl wedi dechre' meddwl am y pwysigrwydd o fod tu fas," dywedodd Hannah Engelkamp.

"I ddechre' naethon ni wneud galwad i bobl helpu i ddrafftio'r llwybrau i gyd.

"Nawr y broses yw gofyn i bobl gerdded y llwybrau 'ma i'w gwirio nhw."

Dywedodd Ms Engelkamp fod defnyddio enwau cynhenid ardaloedd lleol yn her ond yn bleser.

"'Dyn ni ddim yn creu rhywbeth o'r newydd - 'dyn ni'n rhoi 'nôl beth oedd yna o'r blaen.

"Mae'r teimlad yna o berthyn dros y wlad yn hollbwysig."

Pynciau cysylltiedig