Prynu nawr, talu wedyn: 'Mwy o bobl ifanc mewn dyled'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn mynd i ddyled wrth dalu am nwyddau hanfodol gyda chwmniau 'prynu nawr, talu wedyn', meddai elusen.
Gyda chynlluniau o'r fath mae cwmnïau fel Klarna, Clearpay a Zilch yn galluogi pobl i wneud nifer o daliadau bychan yn hytrach nag un mawr, ond maent yn codi tal ychwanegol am fethu taliad.
Mae rhai elusennau'n rhybuddio fod mwy yn mynd i drafferthion ariannol wrth ddefnyddio'r cynlluniau i dalu am fwyd a nwyddau ymolchi.
Dywedodd Richard Lane o elusen Step Change fod cynlluniau prynu nawr, talu wedyn yn cael eu marchnata'n benodol ar gyfer pobl ifanc.
''Rydym yn hynod o bryderus fod pobl yn cymryd credyd heb ddeall yr hyn maen nhw'n ymrwymo iddo, a beth yw'r goblygiadau os ydynt yn methu talu," meddai.
Dywedodd fod yr elusen wedi gweld "mwy a mwy o bobl ifanc yn dod atom" gyda dyledion prynu nawr, talu wedyn.
"Mae'n gweithio'n dda iawn i lawer, ac mae'n rhywbeth y gallent ddefnyddio i ymestyn y gost o brynu eitemau drud," ychwanegodd Mr Lane.
"Gwyddom fod pobl ifanc yn fwy tebygol o fod mewn gwaith ansefydlog, a'u bod yn llai tebygol o fod ag arian werth gefn i ddisgyn yn ôl arno.
"Maen nhw'n arbennig o fregus i unrhyw sioc ariannol."
'Byddwn yn ei wneud eto'
Mae Mia Herford, 21, sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd wedi defnyddio prynu nawr, talu wedyn un waith, ac yn meddwl ei fod "reit dda" ar y pryd.
"Ond wedyn wnes i sylweddoli nad oeddwn i'n ffan mawr ohono am fy mod wedyn yn gweld y taliadau'n dod allan o fy nghyfrif ar ôl y misoedd nesaf."
Ond nid yw pawb yn poeni amdano, a dywedodd Evie Old y byddai'n eu defnyddio eto.
"Rydw i wedi defnyddio fel Klarna a phethau felly pan dwi'n prynu ychydig o eitemau o ddillad," meddai.
"Nid yw'n arbed arian ond mae'n teimlo fel eich bod oherwydd eich bod yn lledaenu'r gost dros ychydig fisoedd.
"Roedd yn eithaf cadarnhaol, byddwn yn ei wneud [eto], doedd gen i ddim problem gydag e."
Dywedodd Molly Dixon: "Rwy'n credu ei fod wedi'i farchnata i ffasiwn cyflym.
"Mae'n ei gwneud hi'n llawer haws prynu mewn i'r trends."
Dywedodd Talia Lieberman, 22, iddi geisio osgoi prynu ar delerau o'r fath ond ei bod wedi ei ddefnyddio ar gyfer "dillad neu esgidiau" na fyddai hi fel arall yn gallu eu fforddio.
Ychwanegodd nad oedd hi erioed wedi poeni am ad-daliadau.
"I mi roedd yn bositif oherwydd dwi'n meddwl mod i wedi bod yn reit gyfrifol ag e," meddai.
'Pryder dwfn'
Mae elusennau dyled wedi galw ar Lywodraeth y DU i reoleiddio'r farchnad prynu nawr, talu wedyn o dan reolaeth yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol [Financial Conduct Authority].
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn sichrau fod y cynlluniau'n "ddiogel ac wedi'u rheoleiddio i amddiffyn benthycwyr".
Dywed Cyngor Ar Bopeth Cymru fod 8% o'r bobl ddaeth atynt am gymorth ym mis Chwefror eleni wedi defnyddio cynllun prynu nawr, talu wedyn i dalu am fwyd a nwyddau ymolchi.
Roedd "pryder dwfn" ymhlith pobl ifanc ynglŷn â thalu'r biliau ar ddiwedd y mis", meddai cyfarwyddwr CAB Cymru, Simon Hatch.
"Rydym yn gwybod fod pobl ifanc yn aros adref, yn gorfod byw gyda'u rhieni, ac yn gweithio.
"Ond dydy hynny ddim yn golygu eu bod yn ennill digon i gyfrannu at neu dalu eu holl ddyledion.
"A beth rydym yn ei weld ydy bod pobl yn mynd i ddyled er mwyn cynnal eu hanghenion prynu nawr, talu wedyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023