Dysgu Cymraeg yw 'her pennaf' Scott Quinnell

  • Cyhoeddwyd
scott quinnellFfynhonnell y llun, S4c

Er gwaethaf ennill mwy na hanner cant o gapiau i Gymru, mae Scott Quinnell yn taeru taw dysgu Cymraeg a chyflwyno yn yr iaith yw'r her pennaf mae wedi ei wynebu.

Meddai'r cyn-chwaraewr rygbi am y profiad o gyflwyno ei gyfres newydd lle mae'n profi'r gweithgareddau mwyaf gwallgof ac amrywiol sydd gan Gymru i'w cynnig, Cais Quinnell: "Dwi ddim erioed wedi cael her fel hyn o'r blaen - canolbwyntio ar ddysgu rhywbeth newydd tra'n trio dysgu Cymraeg a gwneud hyn i gyd o flaen camera!

"Dwi dal yn dysgu - mae'n anodd ond yn wych i fod yn gwneud rhywbeth newydd bob dydd. Gyda'r rhaglen newydd, Cais Quinnell, dwi'n cael profiadau newydd bob dydd tra'n dysgu Cymraeg ar yr un pryd. Dwi'n dysgu nawr a mae'n rhaid i fi ddysgu bob dydd, bob wythnos ar ôl y rhaglen.

"Dyw e ddim yn hawdd ond dwi'n mwynhau."

Mae Scott yn adnabyddus iawn fel un o'r chwaraewyr amlycaf yn nhîm cenedlaethol Cymru yn yr 1990au. Ond mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin wedi iddo gymryd rhan yn Iaith ar Daith yn 2020 ac oherwydd ei waith cyflwyno ar Sky Sports.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Scott gyda'i frawd, Craig, yn dathlu buddugoliaeth gofiadwy dros Ffrainc ym Mharis, 17 Mawrth 2001

Mae wedi cyflwyno a sylwebu ar deledu ers 20 mlynedd ac hefyd yn gwneud areithiau ar ôl cinio ac areithiau i ysgogi - ond ei gyfres newydd ar S4C yw'r cyntaf iddo gyflwyno yn Gymraeg.

Meddai: "Dwi wedi gweithio i Sky am bron 18 mlynedd, yn hirach na fues i'n chwarae rygbi. Ond mae'n neis cael her newydd ac mae gwneud e yn Gymraeg yn her mawr."

Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr rygbi bu'n chwarae gyda chlwb Llanelli yn 1990 ac yn dilyn dwy flynedd yn chwarae rygbi'r gynghrair dros Wigan (1994-96), a dwy flynedd gyda Richmond (1996-98), daeth yn ôl i dref y sosban i chwarae am saith mlynedd tan ddiwedd ei yrfa.

Fe chwaraeodd hefyd dros dîm rygbi'r gynghrair Cymru yng Nghwpan y Byd 1995 ble gyrhaeddodd Cymru'r rownd gynderfynol.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Ruddy Darter

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Ruddy Darter

Newid byd

Felly mae teithio o amgylch Cymru yn gwneud heriau fel ymweld â sba ar gyfer moch, dysgu iodlan a chael gwers ar sut mae bod yn berfformiwr drag yn dipyn o newid byd. Ydy'r profiad wedi newid sut mae'n teimlo am Gymru?

Meddai: "Na, achos dwi'n neud lot yng Nghymru (erioed) a dwi'n hoffi Cymru a mae'n ffordd neis i bobl edrych ar Gymru.

"Dwi yn neud rhywbeth newydd pob dydd (yn y gyfres) - gobeithio mae pobl sy'n gweld e yn moyn gwneud beth fi'n neud."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Scott yn sgroio dros Y Llewod yn y gêm brawf gyntaf yn erbyn Awstralia ar daith 2001

Cafodd Scott ddiagnosis o dyslexia yn 32 oed ond dyw e ddim wedi effeithio ar ei yrfa: "Dwi ddim wedi gadael iddo, dwi byth wedi bod yn ofnus o wneud camgymeriadau a dwi byth wedi bod yn ofni dysgu. Dwi wastad yn rhoi 110%.

"Brwydrais i fy dyslexia pan o'n i'n 36 oed - dwi'n gallu darllen ac ysgrifennu. Yr unig beth dwi methu gwneud nawr yw sillafu."

Cyngor i ddysgwyr eraill

Meddai Scott, sy' wedi ei fagu yn Llanelli ond heb ddysgu Cymraeg yn yr ysgol: "Just gwnewch e - dwi wedi dysgu mwy yn gwneud y rhaglen yma na dwi erioed wedi gwneud.

"Dwi'n defnyddio Say Something in Welsh felly mae Aran Jones yn helpu fi gyda'r Cymraeg lot. Ti'n trio dysgu tamaid bach bob dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd tad Scott, Derek, Bencampwriaeth y Pum Gwlad ar bum achlysur yn ystod yr 1970au

Beth yw hoff beth Scott am yr iaith Gymraeg?

Meddai: "Cadw fe'n fyw. Achos dwi'n Gymro - dwi'n falch i fod yn Gymro a does dim yn well na siarad gyda dy gydweithwyr a ffrindiau a phwy bynnag sy' eisiau siarad yr iaith.

"Byddwn i'n dweud Cymry eraill ond dyw e ddim just pobl o Gymru - dwi'n gwybod am lawer o bobl sy'n dysgu Cymraeg ar draws y byd.

"Mae'n wych i weld yr iaith yn ffynnu.

"Os chi eisiau dysgu Cymraeg does dim ots pa oed ydy chi, rhowch gynnig arni a pheidiwch bod ofn gwneud camgymeriadau.

"Ugain mlynedd yn ôl pan 'nes i feddwl trio siarad Cymraeg roedd pawb yn esbonio i fi beth o'n i'n neud yn anghywir. Mae'r diwylliant a phopeth wedi newid nawr ac mae'n well gan bobl helpu chi i siarad Cymraeg na trio newid beth chi'n dweud.

"Mae wedi bod yn brofiad positif iawn, yn mynd rownd Cymru yn trio siarad Cymraeg."

Gwyliwch Cais Quinnell ar S4C yn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn chwarae yn erbyn Yr Eidal ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2001

Pynciau cysylltiedig