Y dysgwr Cymraeg o Wlad Belg a'i gariad at yr iaith
- Cyhoeddwyd
"Des i ar wyliau i Gymru am y tro cyntaf a welais i bod y Gymraeg yn cael ei ysgrifennu ym mhob man, bron popeth yn ddwyieithog a phan o'n i yng Nghaernarfon glywais i grŵp o blant yn siarad Cymraeg ar y stryd. Y foment hon meddyliais i - os mae'n bosib i blant ddysgu'r iaith hon dylai fod yn bosib i fi hefyd."
I un gŵr o wlad Belg, dyma oedd yr ysbardun i gychwyn ar daith a chariad newydd at iaith a gwlad dros 300 o filltiroedd o'i gartref.
Wedi clywed am y Gymraeg am y tro cyntaf mewn gwersi Iseldireg yn yr ysgol, dechreuodd diddordeb Tom Peeters o Attenrode, ger Brwsel, yn yr iaith. Ond nid nes iddo ddarganfod Beibl Cymraeg mewn siop lyfrau ac yna ymweld â Chymru wnaeth y diddordeb gydio go iawn.
'Stori hir'
Mae Tom yn esbonio: "Mae hi'n stori hir gyda llawer o hap a dipyn bach o ddamwain - y tro cyntaf clywais i sôn am yr iaith Gymraeg oedd pan o'n i yn yr ysgol yn y flwyddyn olaf yn gwersi Iseldireg.
"O'n i'n dysgu am yr holl ieithoedd Indoewropeaidd a siarad am yr ieithoedd Celtaidd ond roedd y bennod am yr ieithoedd Celtaidd ddim mor bositif.
"Oedd gan bob pennod (yn y werslyfr) deitl - teitl yr ieithoedd Germanaidd oedd Lleisiau y Gogledd, a theitl y bennod am yr ieithoedd Celtaidd oedd Cysgod o'r Gorffennol.
"Felly o'n i'n dysgu mai erbyn hyn dim ond hen bobl yng nghefn gwlad Iwerddon neu Lydaw sydd yn siarad iaith Geltaidd.
"Felly roedd ieithoedd Celtaidd i fi yn rhywbeth o'r gorffennol. Cwpl o flynyddoedd wedyn pan o'n i yn Llundain mewn siop lyfrau welais i Feibl yn Gymraeg. Ond roedd y sillafiad mor rhyfedd i fi, sut i ynganu dwy l ar ddechrau gair neu dwy d ar ddiwedd gair?
"Ond roedd gyda fi dipyn bach o ddiddordeb yn yr iaith mor rhyfedd hon a phan o'n i adre es i ar Wikipedia i ddysgu mwy am y Gymraeg ond meddyliais i, mae hynny mor anodd fuaswn i byth yn dysgu iaith mor anodd â hyn."
Dod i Gymru
Cwpl o flynyddoedd wedi hynny daeth Tom ar wyliau i Gymru a chlywed plant yn siarad yr iaith yng Nghaernarfon, profiad wnaeth ei ysgogi i gychwyn dysgu'r iaith ei hun ar Duolingo yn 2017.
Meddai: "Mae'r gwersi Cymraeg ar Duolingo yn wych ond does dim digon o ddisgyblaeth gyda fi i ddal ati felly 'nes i un wers yr wythnos hon, dwy wers yr wythnos nesa'...ond dim llawer o progress.
"Ond pan ddechreuodd y pandemig welais i hysbyseb ar Facebook o'r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg yn cynnig gwersi ar zoom.
"Tanysgrifiais i i wers lefel mynediad ac roedd hynny wir yn berffaith i fi - ni'n cwrdd bob nos Fercher ar zoom am ddwy awr a hanner. Dwi wedi bod yn neud hynny am dair blynedd."
Mae Tom, sy'n gweithio i gwmni argraffu a chyhoeddi talebau bwyd, bellach yn dysgu ar lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Y Fro ac yn dod i Gymru am arholiad Cymraeg ym mis Mehefin 2023.
Felly pam dysgu Cymraeg pan mae'n byw yng Ngwlad Belg?
Meddai: "Achos dwi dipyn bach mewn cariad gyda Cymru am sawl rheswm. Yn gyntaf, y wlad ei hun - mae'r wlad yn berffaith, mae broydd yng Nghymru sy'n debyg iawn i fy ngwlad fy hun ond ar yr ochr arall mae broydd yng Nghymru sy'n debyg iawn i'r Eidal a Groeg. Ac mae'r wlad mor brydferth.
"Wedyn yr iaith ei hun - dwi'n cytuno â J. R. R. Tolkien fod y Gymraeg yn brydferth, dwi'n hoffi sŵn yr iaith, dwi'n hoffi neu dwi'n trio hoffi llenyddiaeth y Gymraeg.
"Dwi'n trio darllen nofelau yn Gymraeg - mae cyfres o lyfrau sy' wedi cael eu ysgrifennu i ddysgwyr, cyfres Amdani. Y llyfrau sy'n berffaith i mi ar hyn o bryd ydy llyfrau i blant. Fi wedi darllen cyfres am fachgen sy'n dwli ar trainers...Brenin y Trainers.
"Y bobl hefyd a dyna y bwysigaf wrth gwrs. Mae'r bobl yng Nghymru mor hyfryd a chroesawgar."
Pandemig
Onibai am y cyfnod clo, mae Tom yn dweud na fyddai fyth wedi dysgu Cymraeg: "Roedd e'n anodd i bobl eraill yn fy nosbarth ond i fi buaswn i byth wedi cael y cynnig i ddysgu Cymraeg fuasai locdown ddim wedi digwydd.
"Allen i byth dweud diolch i'r pandemig, collais i rai pobl yn fy neulu ond oherwydd y pandemig ges i'r cyfle i ddysgu Cymraeg go iawn."
Ac ers i'r cyfnod clo orffen mae Tom wedi cael cyfle i ymweld â Chymru ac yn trio dod yma unwaith y flwyddyn: "Dwi ddim yn gallu gyrru ar y chwith felly rhaid i fi fynd ar y tren neu bws. Yn y gogledd ro'n i'n dwli ar Gastell Conwy a Chaernarfon a'r traethau yn Llandudno. Yn y de, Caerdydd ei hun, dinas bywiog iawn. Hefyd dwi'n hoffi mynd gyda'r nos i weld y machlud ger Castell Caerffili."
Mae Tom yn teimlo ei fod yn cael croeso ac yn cael ei dderbyn yma ac yn mwynhau y cyfle i ymarfer ei iaith, fel mae'n esbonio: "Yr unig broblem i fi yw yr hyder i siarad Cymraeg. Dwi ddim yn teimlo'n rhugl eto. Fy ofn mwya' ydy dechrau sgwrs gyda rhywun yn Gymraeg a wedyn clywed gair dwi ddim yn ei adnabod a rhewi a mynd nôl i Saesneg.
"Mae dysgu Cymraeg wedi neud siaradwr Iseldireg gwell o fi - cyn dysgu Cymraeg o'n i arfer, os oedd dysgwr Iseldireg yn siarad â fi gyda acen rhyfedd, fy ymateb naturiol oedd 'o wel na'i siarad Saesneg neu Ffrangeg i neud pethe'n hawsach iddo fe neu hi.
"Nawr wrth ddysgu Cymraeg dysgais i, 'na, dylwn i fynd ymlaen i siarad Iseldireg achos dyma beth mae'r person yma isie. Mae'n trio siarad fy iaith felly allwn i ddim siarad iaith arall iddo fe neu hi."
A hoffai Tom symud i Gymru rhyw ddydd?
Meddai: "Hoffwn i ond ddim yn y dyfodol agos - taswn i'n breuddwydio taswn i'n cael swydd mewn cwpl o flynyddoedd fel athro Cymraeg neu rhywbeth ond ar hyn o bryd fy nghynlluniau ydy falle symud ar ôl i fi ymddeol mewn 20 neu 30 mlynedd!
"Hoffwn i ddim bod yn wleidyddol ond dylai pawb yng Nghymru o leia' drio dysgu dipyn o Gymraeg."