Ffilmio cyfres boblogaidd yn 'hwb i ogledd Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Emma D'Arcy a Matt SmithFfynhonnell y llun, HBO
Disgrifiad o’r llun,

Mae House of The Dragon wedi'i gosod 200 mlynedd cyn digwyddiadau Game of Thrones

Ble well na Chymru i ffilmio rhaglen gyda dreigiau ynddi?

Mae 'na sibrydion fod y cynhyrchiad House of The Dragon, sy'n gysylltiedig â rhaglen enwog Game of Thrones, wedi bod yn ffilmio yng ngogledd Cymru ar gyfer yr ail gyfres.

Does dim cyhoeddiad swyddogol gan gwmni HBO eu bod nhw'n ffilmio yn y gogledd, gyda manylion y cynhyrchiad yn cwbl gyfrinachol.

Ond mae pobl sy'n byw ar draws Gwynedd a Môn wedi sylwi ar fwrlwm a phrysurdeb gwahanol i'r arfer dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd yna gliw arall cyn hynny hefyd, pan gyhoeddwyd hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn am extras i fod yn rhan o brosiect dan yr enw 'Red Gun'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stroma Pallett ac Annette Jones yn credu bod ffilmio'r gyfres gerllaw yn hwb i ardal Biwmares

Mae un o'r lleoliadau ffilmio, mae'n debyg, ym Mhenmon ger Biwmares, gyda'r trigolion ar y cyfan yn gyffrous am y peth.

Dywedodd Stroma Pallett: "Mae pobl yn teithio a dilyn y lleoliadau ffilmio ar y rhaglenni enwog yma, felly dwi'n meddwl bydd mwy o bobl yn dod i'r dref wedi hwn, sy'n beth da.

"Ac mae'n gyfle da i ddangos harddwch Biwmares ac Ynys Môn i bobl."

Ychwanegodd Annette Jones: "Mae'n bositif i ogledd Cymru yn gyffredinol ac mae'n helpu i ddod â phobl i fyny yma.

"Er, mae'n debyg nad oes angen mwy o dwristiaeth ar Fiwmares na sydd ganddon ni'n barod oherwydd mae'n hollol brysur yn yr haf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r lleoliadau ffilmio, mae'n debyg, ym Mhenmon ger Biwmares

Disgrifiad o’r llun,

Ac mae triogolion wedi sylwi ar ffilmio'n digwydd yn Chwarel Trefor yng Ngwynedd yn ddiweddar

Mae House of The Dragon, sydd wedi ennill Golden Globe, wedi'i gosod 200 mlynedd cyn digwyddiadau Game of Thrones, ac mae'r cast yn cynnwys y Cymro, Rhys Ifans.

Rhywbeth tebyg i Seland Newydd?

Gyda dilyniant cryf yn barod felly, mae'r economegydd Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor yn rhagweld buddion i Gymru yn dilyn ymweliad y cwmni.

"Pan mae cyfresi fel hyn yn cael eu dangos ar deledu maen nhw'n denu diddordeb pobl, a be' 'da ni'n tueddu gweld yw cynnydd yn nifer y twristiaid sy'n ymweld â'r ardal," meddai.

"Dwi'n meddwl am Seland Newydd a Lord of the Rings, gafodd ei ffilmio yna rhwng 2000 a 2006. Mi gynyddodd eu sector twristiaeth nhw 40% oherwydd y gyfres yna.

"Felly gallwn ni weld rhywbeth tebyg yn digwydd yma yn Sir Fôn ac ar draws Cymru hyd yn oed.

"Mae hefyd angen rhywle i staff y cwmni fwyta, aros ac yn y blaen wrth iddyn nhw ffilmio, sy'n rhoi cyfle i fusnesau lleol elwa."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Edward Jones bod ffilmio cyfresi yn rhywle penodol yn arwain at "gynnydd yn nifer y twristiaid sy'n ymweld â'r ardal"

Mae Ysgol Gynradd Santes Dwynwen ym mhentref Niwbwrch wedi elwa yn barod.

Dywedodd dirprwy bennaeth yr ysgol, Iwan Jones: "Maen nhw 'di bod yn ffilmio tafliad carreg lawr y lôn ar draeth ac Ynys Llanddwyn.

"Maen nhw wedi bod yn hael iawn ac wedi rhoi £1,000 i'r ysgol - 'da ni'n hynod o ddiolchgar am hynny.

"Mi eith yr arian ar bethau fel talu am dripiau, prynu adnoddau i'r ysgol a mwy eto.

"Gyda chostau byw fel maen nhw, mae'n rhodd arbennig. Mi fydd yr arian yn cael ei wario yn dda iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iwan Jones fod Ysgol Gynradd Santes Dwynwen yn "hynod o ddiolchgar" am y rhodd gan y cwmni cynhyrchu

Wrth gwrs, nid dyma'r tro cyntaf i gynhyrchiad enwog ddewis ffilmio yng Nghymru.

Fel Lara Croft, daeth un o sêr amlycaf Hollywood - Angelina Jolie - i'r gogledd rai blynyddoedd yn ôl.

Ers hynny mae ffilmiau a chyfresi adnabyddus eraill fel His Dark Materials, Doctor Who a Harry Potter wedi bod yma.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Rhys Bebb yw y bydd cwmnïau cynhyrchu yn "parhau i weld Cymru fel lle deniadol i ddod"

Mae Cynghrair Sgrin Cymru yn gweithio i ddenu'r cynyrchiadau mawr yma, ac mae eu rheolwr addysg a hyfforddiant - Rhys Bebb - yn ymweld ag ysgolion hefyd i drafod y math o gyfleon mae'r maes yn eu cynnig.

Dywedodd: "Ni'n sefydliad sy'n edrych i gefnogi'r diwydiant a pharatoi gweithlu'r dyfodol.

"Ni'n gweithio gyda chwmnïoedd sy'n cynhyrchu rhaglenni teledu, ysgolion a mudiadau addysg i sicrhau bod 'na gyfleoedd a dealltwriaeth o'r diwydiant gyda phlant ifanc Cymru.

"Mae cymaint o gwmnïau yn dod i Gymru i ffilmio a 'dyn ni, ar y cyd gyda sefydliadau eraill, yma i gefnogi'r diwydiant a pharhau i weld Cymru fel lle deniadol i ddod."

Pynciau cysylltiedig