'Angen buddsoddi' i hyfforddi criwiau ffilm a theledu

  • Cyhoeddwyd
Criw Teledu

Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau ar gyfer criwiau ffilm a theledu er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn gynaliadwy, yn ôl cynhyrchydd blaenllaw.

Jane Tranter yw prif swyddog gweithredol Bad Wolf, cwmni sydd newydd ddechrau ffilmio un o ddramâu mwyaf Prydain yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ms Tranter, oedd hefyd yn gyfrifol am ddod â'r gwaith o gynhyrchu cyfres Doctor Who i Gaerdydd yn 2005, fod yn rhaid i strategaeth y llywodraeth symud "i'r cam nesaf".

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi a datblygu diwydiannau creadigol Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys ariannu mentrau i ddatblygu lefelau sgiliau pobl o fewn y diwydiant.

Disgrifiad,

Mae'r cynhyrchydd teledu, Hannah Thomas wedi gweld "twf aruthrol" yn y diwydiant teledu yng Nghymru dros y blynyddoedd

Sefydlodd Ms Tranter stiwdio Bad Wolf yn 2015 gyda'i phartner busnes Julie Gardner.

Mae eu stiwdio yn Sblot, Caerdydd wedi cynhyrchu cyfres A Discovery of Witches ar gyfer Sky, ac mae'r gwaith o ffilmio addasiad teledu o lyfrau Philip Pullman, His Dark Materials ar y gweill.

Datblygu sgiliau

"Dwi'n credu bod yr hyn mae'r llywodraeth wedi ei wneud gyda'r diwydiannau creadigol yn wych," meddai Ms Tranter.

"Mae wedi bod fel cicio'r drws led y pen gyda phâr o fŵts mawr llawn hoelion.

"Mae cael y cynyrchiadau yma, annog pobl i ddod i weld sut brofiad yw ffilmio yng Nghymru wedi bod yn rhagorol. Ond mae'n amser nawr i symud ymlaen at gam nesaf y strategaeth."

Ychwanegodd bod angen i'r llywodraeth fuddsoddi arian o fewn y diwydiant ar lawr gwlad.

Disgrifiad o’r llun,

Jane Tranter yw prif swyddog gweithredol Bad Wolf, cwmni sydd newydd ddechrau ffilmio un o ddramâu mwyaf Prydain yng Nghaerdydd

Mae pwyslais Ms Tranter ar ddatblygu sgiliau yn cael ei ategu gan Hannah Thomas, cynhyrchydd yn Severn Screen, cwmni o Gaerdydd oedd yn gyfrifol am y ddrama Craith sydd wedi ei darlledu ar S4C a BBC Four.

"Mae'r sector yn aeddfedu ac mae hyder pobl yng Nghymru wedi tyfu dros ddegawd a mwy," meddai.

"Yn sicr mae eisiau mwy o bobl i ddysgu mwy o sgiliau.

"Mae'r criw sydd gyda ni'n barod yn ffantastig, er enghraifft naethon ni greu ffilm wreiddiol ar gyfer Netflix y llynedd ac mi oedd y criw'r un mor dda ag unrhyw griw y basa chi'n cael yn America neu ar draws y byd.

"Felly mae'r sgiliau sydd gan bobl yng Nghymru yn wych ac mae'n bwysig ein bod ni'n tyfu ar hynny os mae'r diwydiant yn mynd i barhau i ddatblygu a thyfu - mae'n angenrheidiol bod ni'n cael pobl newydd yn dod fewn i'r diwydiant."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Craith/Hidden yn un o sawl drama gafodd ei darlledu ar S4C a'r BBC yn 2018

Cymru Greadigol

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y galw am griw a thimau cynhyrchu Cymru bellach yn uchel iawn ac yn parhau i godi.

"Er mwyn cwrdd â'r galw hwn, ry'n ni sefydlu Cymru Greadigol, asiantaeth lywodraethol fydd yn hybu twf pellach yn ein sector diwydiannau creadigol," meddai Mr Skates.

"Bydd yn adolygu a gwella'r ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru ar bob lefel."

Mae sawl cyd-gynhyrchiad yn Gymraeg a Saesneg gan S4C a BBC Cymru wedi cael eu darlledu ar sianeli rhwydwaith.

Disgrifiad,

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies ei fod am weld Cymru fel un o'r cenhedloedd mwyaf creadigol yn Ewrop

Dros yr wythnosau diwethaf mae gwylwyr ledled y DU wedi bod yn gwylio Un Bore Mercher/Keeping Faith a Craith/Hidden, ar ôl i gynulleidfaoedd yng Nghymru eu gweld yn gynharach eleni.

Yn ogystal â llwyddiant cyfresi blaenorol fel Y Gwyll/Hinterland, mae adolygiadau disglair iawn o fewn y wasg Brydeinig wedi sefydlu'r syniad bod Cymru'n gartref y ddrama dywyll neu'r ddrama noir.

'Oes aur'

Yn ôl Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, roedd dewis Caerdydd fel y lleoliad i adfywio cyfres Doctor Who yn 2005 wedi cyfrannu at lwyddiant cyfredol y diwydiant teledu.

"Dwi'n meddwl bod hwn yn oes aur. Os 'dach chi'n edrych ar yr arlwy drama ar hyn o bryd Hidden, Keeping Faith, Requiem... does 'na 'run cyfnod yn hanes datblygiad y cyfryngau yng Nghymru lle mae 'na gymaint o brosiectau mawr ac uchelgeisiol yn digwydd."

Dywedodd ei fod am weld Cymru fel un o'r cenhedloedd mwyaf creadigol yn Ewrop ac ychwanegodd bod yn rhaid sicrhau bod y sgiliau a'r talentau ar gael yma.

"Dwi ishe gweld Cymru ar y sgrin. Dwi'n meddwl bod gyda ni actorion gwych, sgwenwyr gwych a dwi ishe gweld eu hymdrechion nhw o ran adlewyrchu Cymru gyfoes yn cael eu mwynhau ymhob cwr o'r byd," meddai.