Comisiynydd y Gymraeg: Cau swyddfeydd a gweithio o bencadlys y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Parc Cathays 2Ffynhonnell y llun, ANDREW MOLYNEUX
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays yn weithle newydd i staff Comisiynydd y Gymraeg yng Nghaerdydd

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cau dwy swyddfa yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, gan ddefnyddio desgiau poeth - hot desks - yn eu lle, gan gynnwys o fewn prif adeilad Llywodraeth Cymru.

Swyddfa'r comisiynydd yw'r corff cyhoeddus cyntaf i gytuno i brydlesu gofod o fewn pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd - o fis Rhagfyr ymlaen - gan ddefnyddio gofod i'w rhannu gyda chyrff sector cyhoeddus eraill.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, bod patrymau gwaith wedi newid ers y pandemig gan "effeithio ar ein swyddfeydd ac ar ein cyllidebau".

Ymatebodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, bod defnyddio adeilad y llywodraeth yn "ergyd olaf i unrhyw syniad bod y cyrff hyn yn cynnig unrhyw fath o graffu ar Lywodraeth Cymru".

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi prydlesu lle yn ei hadeiladau eraill i "bartneriaid yn y sector cyhoeddus" yn cynnwys:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru yn swyddfa Aberystwyth;

  • Cymorth Cyfreithiol yn swyddfa Merthyr Tudful;

  • Comisiwn y Senedd a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn swyddfa Cyffordd Llandudno.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies fod "comisiynwyr yn cael eu penodi i ddwyn y llywodraeth Lafur i gyfrif"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cael hyblygrwydd swyddfa, gweithio o bell a hybrid yn gallu cynyddu cynhyrchiant, gwella cydbwysedd bywyd a gwaith, a sicrhau buddion lleihau carbon.

"Rydym yn arwain trwy esiampl yn Llywodraeth Cymru ac yn anelu at wneud y defnydd mwyaf effeithlon o ofod yn ein hadeiladau trwy ei gynnig i gyrff cyhoeddus eraill.

"Rydym yn parhau i drafod opsiynau posibl gyda phartneriaid, gan adeiladu ar y trefniadau presennol yn ein swyddfeydd yn Aberystwyth a Chyffordd Llandudno."

Mae trefniadau prydlesu yn fasnachol sensitif, ychwanegodd.

'Cyllidebau'

Meddai Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: "Ers cyfnod y pandemig, mae patrymau gwaith wedi newid ac rydym wedi ystyried sut mae hynny yn effeithio ar ein swyddfeydd ac ar ein cyllidebau.

"Rydym eisoes wedi penderfynu cau ein swyddfa yng Nghaerfyrddin wrth i'r les ddirwyn i ben gan gynnig gofodau desgiau poeth i'r staff oedd yno mewn lleoliadau hwylus.

"Rydym yn awr wedi cytuno i ddirwyn ein les ar ein swyddfa yng Nghaerdydd i ben a llogi gofod desgiau poeth mewn rhan bwrpasol o adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Efa Gruffudd Jones: "Ers cyfnod y pandemig, mae patrymau gwaith wedi newid"

Ychwanegodd: "Mae ein prif swyddfa yng Nghaernarfon yn parhau ar agor ac rydym mewn trafodaethau am ein swyddfa yn Rhuthun gyda'r staff a'r landlord."

Craffu?

Dywedodd Andrew RT Davies fod "y datblygiad hwn yn gweithredu fel yr ergyd olaf i unrhyw syniad bod y cyrff hyn yn cynnig unrhyw fath o graffu ar Lywodraeth Cymru.

"Mae comisiynwyr yn cael eu penodi i ddwyn y llywodraeth Lafur i gyfrif ond yn lle hynny gallant gadw eu coffi iddynt yn y ffreutur."

Ychwanegodd Mr Davies: "Mae'r penderfyniad i fabwysiadu desgiau poeth yn ganlyniad uniongyrchol i anallu Llafur i ddod â gweithwyr Llywodraeth Cymru yn ôl i'r swyddfa."

Ychydig dros 10% o staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio yn y swyddfa bob dydd.

Nod y llywodraeth yw i 30% o weithlu Cymru fod yn gweithio o'r cartref neu'n agos i'w cartrefi erbyn 2026.

'Esiampl'

Fel rhan o'i strategaeth, mae'r llywodraeth yn gobeithio "bod yn esiampl" ar gyfer gweithio o bell gyda "dim mwy na 50%" o'i gweithlu yn un o'i swyddfeydd ar y tro.

Ers dod i rym yn 2012, bwriad rôl y Comisiynydd, sydd â 45 o staff, yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gosod safonau ar sefydliadau a hybu statws swyddogol yr iaith.

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth hirdymor, sef Cymraeg 2050, gyda'r uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.