Miloedd o blant wedi cymryd rhan yn Ras yr Iaith

  • Cyhoeddwyd
Ras yr IaithFfynhonnell y llun, Ras yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Eleni roedd 11 cymal ar draws Cymru ar yr un pryd i greu un digwyddiad mawr ar draws y wlad

Mae miloedd o blant ar draws Cymru wedi cymryd rhan yn Ras yr Iaith ddydd Iau - achlysur sydd â'r nod o ddangos cefnogaeth i'r Gymraeg.

Eleni roedd 11 cymal ar draws Cymru ar yr un pryd i greu un digwyddiad mawr ar draws y wlad, gan ddechrau am 10:00.

Y lleoliadau oedd Abertawe, Aberystwyth, Caerffili, Cei Connah, Llangefni, Nefyn, Pontypridd, Pont-y-pŵl, Porthcawl, Y Rhyl a Wdig/Abergwaun.

Dywed y trefnwyr mai'r "nod yw codi ymwybyddiaeth o'r iaith, dangos balchder ati a dangos i'r byd fod cefnogaeth i'r Gymraeg ar lawr gwlad".

"Ac mae'r ras i bawb - os ydych chi'n siarad Cymraeg neu beidio."

Mae'r ras wedi'i seilio ar ras y Korrika yng Ngwlad y Basg, sydd wedi ysbrydoli Ar Redadeg, sef ras debyg yn Llydaw.

Digwyddodd Ras yr Iaith yng Nghymru yn 2014, 2016 a 2018 fel ras ar draws Cymru gan basio baton yr iaith ymlaen o gymal i gymal.

Gyda ras rithiol yn 2020 oherwydd cyfyngiadau Covid llwyddodd y Mentrau Iaith a'r rhedwyr i gasglu miloedd o bunnoedd at elusennau'r byrddau iechyd yng Nghymru.