Donald Trump: 'Y dyn oedd wedi cymryd dros fy ngyrfa'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r Unol Daleithiau, yn eironig, eisioes wedi'i rhannu, ond tyfodd y twll rhwng y chwith a'r dde yn aruthrol pan oedd Donald Trump yn y Tŷ Gwyn. "
Dyma oedd gychwyn diddordeb y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn y cyn Arlywydd Trump.
Mewn rhaglen newydd ar S4C, Trump: Byd Eithafol mae Maxine, sy'n dod o Gonwy yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Washington DC, yn dilyn rhai o gefnogwyr mwyaf ffyddlon Donald Trump ac yn holi'r dyn ei hun.
Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae Maxine yn rhannu ei argraffiadau o'r gŵr oedd unwaith y dyn fwyaf pwerus yn y byd.
Yn ystod blynyddoedd Trump, roedd newyddiadurwyr yn Washington DC wedi arfer gyda deffro ac edrych ar dudalen Twitter yr Arlywydd cyn gwneud unrhyw beth arall. Cyn yfed coffi a bwyta brecwast roedd yn gyffredin i ymateb mewn rhyw ffordd i'r newyddion nesaf yr oedd Donald Trump wedi'i postio ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe wnes i dechrau mynd i'r ralïau, digwyddiadau a phrotestiadau i ohebu, ac wrth i'r blynyddoedd fynd heibio aeth popeth yn fwy difrifol, a dechreuodd Americanwyr gasáu ei gilydd.
Rhyfel diwylliannol
Roedd 'na rhyfel diwylliannol yn dechrau ar strydoedd y wlad yma. Cefnogwyr Trump ar y dde, a'r rhai ar y chwith a oedd yn gobeithio gweld Commander-in-Chief gwahanol.
Mae'r Unol Daleithiau, yn eironig, eisioes wedi'i rhannu, ond tyfodd y twll rhwng y chwith a'r dde yn aruthrol pan oedd Donald Trump yn y Tŷ Gwyn. Dechreuais gael diddordeb mawr mewn beth oedd yn gyrru pobl yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig y rhai de eithafol.
Roedd 'na ddyddiau yn ffilmio gyda grwpiau militia wrth iddynt saethu gynnau yn y gwyllt, yng nghanol y trais mewn lleoedd fel Portland a Minneapolis, a dilyn y dyn sydd bellach wedi'i erlyn am gynllunio a chyfarwyddo'r ymosodiad ar gapitol yr Unol Daleithiau ar Ionawr 6, 2021.
Ond beth am y dyn ei hun? Y cyn Arlywydd Trump.
Y dyn oedd wedi cymryd dros fy ngyrfa am flynyddoedd. Roeddwn yn ysu i gwrdd ag ef rywsut, felly dechreuais i weithio ar gynllun. Pan ofynnais i S4C a fyddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn ffilm yn cynnwys Donald Trump roedd yn gynnig uchelgeisiol, ond roeddwn i'n obeithiol (ac efallai bach yn wallgof).
Teithiodd tîm Alpha Productions, gyda Iwan England yn arwain, i America o Gymru, a dyma gychwyn ar ein taith. Roedd llawer o gymeriadau ar hyd y daith, a phob un ohonynt wedi buddsoddi popeth yn eu bywyd i'r cyn-Arlywydd.
Dilynwyr Trump
Mae rhai yn teithio am filoedd o filltiroedd i rali ar ôl rali. Mae 'na agwedd gymdeithasol gryf iddo hefyd, mae'r cefnogwyr wedi dod yn debyg i deulu, mae rhai hyd yn oed wedi symud yn agosach at ei gilydd ac wedi agor busnesau gyda'i gilydd. Maen nhw i gyd yn rhannu un gôl - i gael Donald Trump yn ôl yn y Tŷ Gwyn.
Cyrhaeddon ni Pennsylvania a sefyll mewn glaw trwm am ddeuddeg awr. Roeddwn i wedi bod yn ceisio cael mynediad gefn llwyfan, ac roedd pethau'n edrych yn dda, ond wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, a'r cae yn troi'n fath llawn mwd, fe ddechreuon ni golli gobaith.
Er gwaethaf y tywydd, cyrhaeddodd Donald Trump a diddanu'r dorf gyda'r ffefrynnau: 'Crooked Hillary', 'stolen election', 'build a wall' ac yn y blaen, ac fel bob amser, roedd y cefnogwyr wrth eu bodd gyda'r sioe.
Dychwelais adref yn ddigalon, ond hyd yn oed yn fwy penderfynol i fynd ar ôl arweinydd MAGA (Make America Great Again). Cymerodd fisoedd yn fwy, a treuliwyd llawer o amser yn mynychu mwy o ddigwyddiadau gyda chefnogwyr Donald Trump.
Roedd yn bwysig iawn cynnal y perthnasoedd a fyddai'n parhau i'n symud yn agosach at Mar-a-Lago, clwb breifat Trump yn Palm Beach. Yn gynnar ym mis Mawrth daeth yr alwad o'r diwedd. Fe gasglon ni dîm o'r bobl gamera gorau, a fy nghynhyrchydd Angelina, a dal awyren i West Palm Beach, Florida.
Roedd y noson cyn y diwrnod mawr yn un bryderus. A fyddem ni'n gallu mynd i Mar-a-Lago tybed? A fyddent yn canslo?
Roedd y diwrnod wedyn yn ddechrau cynnar gyda gyrru tuag at Mar-a-Lago mewn confoi.
Fe wnaethon ni yrru trwy'r giât, siarad gyda'r tîm diogelwch, ac yn sydyn roeddan ni tu mewn i gompownd Donald Trump. Roedd 'na rhes o gerbydau Gwasanaeth Cudd yn y maes parcio, a swyddogion y gwasanaeth cudd yn sefyll mewn mannau gwahanol gyda gwn neu gi.
Mae Mar-a-Lago yn swreal. Opulent iawn, mawreddog, llawer o binc. Mae enw Trump ar y poteli dŵr, hefyd y tyweli papur yn yr ystafell ymolchi. Yr ystafell lle oedden ni'n paratoi oedd yr union ystafell lle oedd y cyn-Arlywydd yn cuddio nifer o ddogfennau cyfrinachol sydd wedi tanio ymchwiliad a treial troseddol.
Ar ôl i ni osod yr holl gamerâu, mae'n rhaid i'r tîm adael yr ystafell tra bod y gwasanaeth cudd a'r cŵn yn dod i mewn i wneud ysgubiad diogelwch llawn. Pan chi'n cyrraedd y cam hwnnw, rydych chi'n dod yn nes at gwrdd â'r dyn ei hun.
Gwelsom rhywun yn anfon plat arian o fwyd i chwarteri preifat Donald Trump, ychydig gamau o ble'r oeddem ni. Felly dyna oedd ei ginio, a doedd dim llawer mwy i aros tan y cyfarfod.
Arhoson ni, ac aros, ac o'r diwedd gwelsom Donald Trump yn camu i fyny'r llwybr, gyda'i ddiogelwch a'i gynorthwywyr.
Mae'n rhyfedd bod ni wedi rhoi sylw i bob symudiad gan y dyn hwn ers blynyddoedd, i fod yn dyst i'w enwogrwydd byd-eang, i wylio'r wlad yn rhannu, a chymunedau'n torri ar wahân oherwydd cariad a chasineb at yr un person hwn.
Roedd wedi bod wyneb yn wyneb ag arweinydd Gogledd Corea. Ef oedd arweinydd y genedl gyfoethocaf ar y blaned am gyfnod. Ac rŵan yn cerdded i'r ystafell yn bersonol.
Roedd trefnwyr y cyfweliad wedi ein cyfyngu ni i holi am ei uwch gefnogwyr yn unig - ond roedd teimlad nad oedd ots beth oedd y cwestiynau gan fod ei negeseuon yn barod i fynd.
Dyma'r dyn a ysbrydolodd filoedd i ymosod ar Capitol yr UD a cheisio stopio trosglwyddiad heddychlon o rym. Ond doedd ei farn ar etholiad 2020 ddim wedi newid, mae'n credu iddo ennill a bod yna dwyll etholiadol.
Unwaith y dyn mwyaf pwerus yn y byd, fe yw'r unig Arlywydd i gael ei uchelgyhuddo ddwywaith.
Mae yna lawer o fanylion unigryw am stori Donald Trump. Mae pobl yn ei hoffi oherwydd eu bod yn credu nad yw'n wleidydd, nid yw'n siarad fel gwleidydd. A'r diwrnod hwnnw roedd yn bendant yn gyfeillgar, yn garismatig, ac roedd ganddo ychydig o hiwmor.
Mae'n hawdd deall sut mae'n dal sylw llawer o Americanwyr sy'n wirioneddol credu eu bod yn cael eu siomi gan y system.
Golff yng Nghymru?
Dywedodd Donald Trump wrtha'i ei fod wrth ei fodd yn chwarae golff yng Nghymru, dywedais wrtho nad yw'n berchen ar gwrs golff yno. Dywedodd y gallai gael un. Tybed (heb ei ddweud yn uchel) beth fyddai pobl Cymru yn ei feddwl am hynny?
Ac yn gyflym roedd y cyfan drosodd. Roedd y blynyddoedd o erlid, adeiladu perthnasau, yn dilyn y dyn yma sy' wedi effeithio ar America a'r byd mewn cymaint o ffyrdd, wedi cyrraedd ei benllanw.
Gadawsom Mar-a-Lago wedi ein drysu gan y profiad, a mynd yn syth i ddigwyddiad 'Clwb 45' lle'r oedd ei gefnogwyr ffyddlon wedi ymgasglu.
Mae eu hymroddiad angerddol yn parhau er gwaethaf dau arestiad, a Trump yn cael ei siwio am ymosodiad rhywiol. Dywedodd y cefnogwyr y byddan nhw'n pleidleisio drosto hyd yn oed os yw'n mynd i'r carchar.
Mae'n stori wleidyddol ddigynsail, ac mae rhywbeth yn dweud wrthaf bod ni 'mond wedi gweld dechrau stori Donald Trump. Roedd cyfarfod Donald Trump yn brofiad pwysig i fi fel newyddiadurwraig, ond hefyd yn profi i fi gymaint mae'r dyn yma dal yn y ras.