Carcharu gyrrwr meddw am ladd cwpl priod yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd
Michael SaltmarshFfynhonnell y llun, Gwent Police
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Saltmarsh wedi'i ddedfrydu i 11 mlynedd a phedwar mis yn y carchar ar ôl iddo ladd pâr priod

Mae gyrrwr fan wedi cael ei ddedfrydu i 11 mlynedd a phedwar mis yn y carchar ar ôl lladd pâr priod mewn gwrthdrawiad tra'n feddw.

Cafodd Wendy Gay, 67, a David Gay, 58, o Gaerffili eu taro gan fan Michael Saltmarsh wrth iddynt groesi'r ffordd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Saltmarsh, 48 o Gaerffili, dros y lefel alcohol cyfreithlon a'i fod yn gyrru dros y terfyn cyflymder hefyd pan darodd y pâr.

Fe wnaeth ei bartner alw'r heddlu ar ôl darganfod bag ar foned ei fan.

Dywedodd Andrew Davies o'r erlyniad fod Mr a Mrs Gay wedi cael eu taro ar ôl i'r diffynnydd yrru drwy golau coch.

Saltmarsh ddim wedi stopio

Cafodd datganiad gan lygad-dyst ei ddarllen yn y llys. Roedd Christine Crothers yn teithio ar heol Nantgarw ar 17 Mawrth pan welodd y fan yn gyrru trwy olau coch.

Yn ôl Ms Crothers roedd hi'n dywyll ac yn glawio'n drwm. Roedd y cwpl hanner ffordd ar draws y groesfan pan gawson nhw eu taro gan fan Saltmarsh.

Mae wedi cael ei amcangyfrif bod y fan yn teithio rhwng 37 a 52mya mewn ardal terfyn cyflymder o 30mya. Clywodd y llys na wnaeth y diffynnydd stopio ar ôl taro'r ddau.

Cafodd Mrs Gay ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle tra bu farw Mr Gay yn yr ysbyty dridiau'n ddiweddarach.

Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn agos at dafarn The Station Inn ar Ffordd Nantgarw

Clywodd y llys bod Saltmarsh wedi derbyn galwad gan ei bartner cyn y gwrthdrawiad, a gofynnodd a oedd wedi bod yn yfed.

Dywedodd: "Ie, dwi wedi bod yn y dafarn."

Roedd gan Saltmarsh eisoes ddwy euogfarn am yrru dan ddylanwad alcohol yn 2001 a 2006.

Pan gyrhaeddodd Saltmarsh adref dywedodd wrth ei bartner ei fod yn credu ei fod wedi taro rhywbeth.

Aeth hi allan i edrych ar y fan, darganfod bag ar y boned a gweld bod y ffenest flaen wedi'i difrodi, cyn galw'r heddlu.

'Yn y dafarn am dros bedwar awr'

Fe blediodd Saltmarsh yn euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, methu stopio ar ôl gwrthdrawiad a gyrru dan ddylanwad alcohol.

Clywodd y llys bod ganddo 46 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl - y terfyn cyfreithiol yw 35.

Dywedodd mab Mrs Gay, Adam Lawrence mewn datganiad: "Roedden i mewn sioc pan glywais y newyddion am farwolaeth Mam a David. Roedd Mam yno i mi bob tro.

"Roedd David a Mam wedi bod gyda'i gilydd am 15 mlynedd... roedd ganddyn nhw gymaint i fyw amdano. Maen nhw wedi cael eu bywydau wedi'u dwyn oddi arnynt gan weithredoedd diofal y gyrrwr hwn."

Wrth ddedfrydu Saltmarsh dywedodd y Barnwr Paul Hobson: "Doeddet ti ddim mewn unrhyw gyflwr i fod tu ôl i'r olwyn.

Yn dy eiriau dy hun rwyt yn dweud dy fod wedi cael pedwar neu bum peint. Roeddet ti yn y dafarn am dros bedwar awr.

"Mae'n amlwg y byddet ti dros y terfyn ond wnest ti'r penderfyniad i yrru mewn amodau gwael. Roedd yn hunanol ac yn anghyfrifol."

Pynciau cysylltiedig