AS yn gadael Llywodraeth y DU dros bolisi addysg rhyw

  • Cyhoeddwyd
Robin MillarFfynhonnell y llun, Y Blaid Geidwadol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robin Millar wedi bod yn AS Ceidwadol Aberconwy ers 2019

Mae AS Ceidwadol o Gymru wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel cynorthwyydd gweinidogol yn Llywodraeth y DU er mwyn pleidleisio yn erbyn rheoliadau newydd ar addysg rhyw yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd y rheolau yn ei gwneud hi'n orfodol i bob ysgol ôl-gynradd yng Ngogledd Iwerddon addysgu disgyblion am fynediad at erthyliad ac atal beichiogrwydd cynnar.

Dywedodd Robin Millar, Aelod Seneddol Aberconwy, ei fod yn "fater o gydwybod" iddo.

Roedd yn un o 20 o ASau Ceidwadol a bleidleisiodd yn erbyn y mater ddydd Mercher.

Ond pasiwyd y rheoliadau o 373 i 28, gyda saith AS o'r DUP hefyd yn eu gwrthwynebu.

Roedd Mr Millar wedi bod yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i Ysgrifennydd Cymru David TC Davies, ond fe ymddiswyddodd cyn pleidleisio yn erbyn y llywodraeth.

Mae PPS yn gynorthwyydd di-dâl i weinidog, yn gweithredu fel eu llygaid a'u clustiau yn San Steffan, ac mae'r swydd yn cael ei hystyried fel y cam cyntaf tuag at yrfa weinidogol.

Dywedodd Mr Millar: "Ni allwn, mewn cydwybod dda, gynrychioli rhieni ac ar yr un pryd anwybyddu casgliad Pwyllgor Craffu Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi bod angen mwy o amser i ymgynghori â rhieni yng Ngogledd Iwerddon cyn deddfu'r Offeryn Statudol hwn."