Her gyfreithiol addysg rhyw rhieni yn methu

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarth yn cael gwers addysg rhyw
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwricwlwm ei gyflwyno i bob ysgol gynradd ac i ddisgyblion ieuengaf ysgolion uwchradd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ym Medi

Mae grŵp o rieni wedi methu yn eu her gyfreithiol yn yr Uchel Lys i geisio atal addysg rhyw a pherthnasedd rhag cael ei ddysgu i blant cynradd yng Nghymru.

Cafodd yr adolygiad barnwrol ei gyflwyno gan bum rhiant, oedd yn dweud y gallai plant gael eu haddysgu am bynciau anaddas.

Mae'r cod Addysg Rhyw a Pherthnasedd yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd ers mis Medi.

Cafodd gwrandawiad dau ddiwrnod ei gynnal yng Nghaerdydd fis Tachwedd, a daeth cadarnhad ddydd Iau fod y cais am adolygiad barnwrol wedi'i wrthod.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu penderfyniad y llys, ac mai bwriad y cod yw "diogelu plant a hyrwyddo parch a chydberthnasau iach".

Yn ei ddyfarniad dywedodd Mr Ustus Steyn fod y rheini wedi ceisio dadlau fod "hawl i esgusodi" plant o ddosbarthiadau o'r fath.

"Rwy'n gwrthod y ddadl fod hawl o'r fath yn bodoli," meddai, gan wrthod eu cais.

Ychwanegodd fod dim byd yn y cod na'r canllawiau dysgu sy'n rhoi'r hawl i athrawon hyrwyddo un ffordd o fyw yn fwy na'r llall.

Beth ydy'r cefndir?

Cafodd y cwricwlwm ei gyflwyno i bob ysgol gynradd ac i ddisgyblion ieuengaf ysgolion uwchradd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn ysgol eleni, a'r bwriad yw ei ehangu i ddisgyblion hyd at 16.

Cyn hyn roedd disgyblion ysgolion uwchradd yn cael cynnig gwersi addysg rhyw, ond roedd hawl gan rieni dynnu eu plant o'r gwersi.

Mae disgyblion bellach yn dechrau cael y gwersi pan yn dair oed, a dyw tynnu plentyn o'r wers ddim yn ddewis i rieni.

Ond dywed gweinidogion Llywodraeth Cymru y byddan nhw ond yn dysgu am themâu megis rhannu, caredigrwydd a pharchu eraill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn pwysleisio y bydd plant yn "cael addysg sy'n briodol i'w hoedran a'u lefelau aeddfedrwydd"

Dywed Llywodraeth Cymru y dylai'r maes, i ddisgyblion hyd at 16, gynnwys materion yn ymwneud â hawliau a thegwch; rhyw, rhywedd a rhywioldeb, delwedd cyrff; iechyd a lles rhywiol; a thrais, diogelwch a chefnogaeth.

Nodir hefyd y dylid datblygu dealltwriaeth am hunaniaethau gwahanol, gan gynnwys bywydau pobl LHDTC+.

Ond roedd ymgyrchwyr o dan faner Public Child Protection Wales yn honni y gallai'r plant ieuengaf gael eu haddysgu am bynciau sy'n gwbl anaddas - honiadau "cwbl gamarweiniol" a allai fod yn "niweidiol i addysg pobl ifanc" yn ôl y Gweinidog Addysg Jeremy Miles.

Roedd cyfreithwyr ar ran y rhieni yn honni bod ganddynt "hawliau sylfaenol", ac mai'r hyn a oedd yn y fantol oedd "a yw rhieni yn colli pob rheolaeth addysgol pan yn anfon eu plant i'r ysgol".

Roedden nhw'n dadlau nad yw'r cod a'r canllaw sydd wedi'u rhoi i ysgolion yn rhoi sylw i faterion "traddodiadol" sy'n berthnasol i "fywyd teuluol", ond bod yna "sylw amlwg i themâu LHDTC+".

'Camwybodaeth cwbl waradwyddus'

Wedi'r dyfarniad ddydd Iau dywedodd Mr Miles y bydd pob plentyn yn "cael addysg sy'n briodol i'w hoedran a'u lefelau aeddfedrwydd".

"Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen help ar ein plant i'w hamddiffyn rhag cynnwys a phobl niweidiol ar-lein," meddai'r Gweinidog Addysg.

"Dylai Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb roi hyder i bobl ifanc ddweud 'na' wrth y bwlis, codi llais yn erbyn aflonyddu a deall bod teuluoedd o bob lliw a llun yn bodoli.

"Gall rhieni ddisgwyl bod eu plant yn cael addysg sy'n briodol i'w hoedran a'u lefelau aeddfedrwydd: bydd hyn yn ofyniad cyfreithiol."

Ychwanegodd fod "y gamwybodaeth a ledaenwyd gan rai ymgyrchwyr yn gwbl waradwyddus".

"Mae wedi rhoi rhai ysgolion a'r gweithlu dan bwysau ychwanegol," meddai.

"Hoffwn ddweud wrth ein gweithlu addysg y byddwn yn eich cefnogi, a'n bod yn diolch i chi am eich cyfraniad at fywydau'r plant yr ydym yn addysgu."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y plant ieuengaf ond yn dysgu am themâu megis rhannu, caredigrwydd a pharchu eraill

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes ei bod hithau'n croesawu penderfyniad y llys.

"Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg lawn, yr hawl i iechyd da, a'r hawl i fod yn ddiogel," meddai.

"Mae addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cefnogi'r holl hawliau hyn trwy helpu plant i ddysgu am berthnasau parchus a chydradd mewn ffordd sy'n addas ar gyfer ei oedran, a hefyd i ddysgu am berthnasau sydd ddim yn iachus, yn niweidiol, neu'n gamdriniol.

"Mae'n bwysig bod gwybodaeth glir a hygyrch ar gael ar gyfer rhieni a phlant i fynd i'r afael â chamwybodaeth, a bod athrawon wedi'u cefnogi'n ddigonol er mwyn cyflawni'r gwersi hollbwysig hyn."