Cynghorydd Gwynedd wedi ei bygwth dros gynllun addysg rhyw
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Fe all rhannau o'r stori hon beri pryder i rai darllenwyr.
Mae cynghorydd o Wynedd wedi cael ei bygwth dros ei chefnogaeth i god Addysg Rhyw a Pherthnasedd newydd Cymru.
Yn ôl Beca Brown, sy'n gyfrifol am bortffolio addysg Cyngor Gwynedd, bydd y gwersi'n cadw plant yn ddiogel, ac mae'n dweud fod "y rhan fwyaf o rieni" yn cytuno.
Ond mae wedi cael ei cham-drin ar-lein, a'i galw yn "paedo lover" gan rai gwrthwynebwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r cynllun fel rhan o'r cwricwlwm newydd, ac yn dweud ei fod yn "hollbwysig i helpu pobl ifanc feithrin perthnasau iach".
Ond mae rhai yn cwestiynu'r penderfyniad i wahardd rhieni rhag cael tynnu eu plant o'r gwersi, ac mae grŵp wedi ennill yr hawl i gynnal adolygiad barnwrol ar y mater.
Fe hawliodd yr ymateb yng Ngwynedd y penawdau ym mis Awst, pan gafodd yr heddlu eu galw i gyfarfod yn siambr y cyngor.
Mae 'na "ymateb pegynnol" wedi bod i'r cynllun, yn ôl y Cynghorydd Brown.
"Mae 'na lawer iawn o ymateb cyhoeddus gwael, ond wedyn llawer iawn o ymateb preifat cefnogol," meddai.
"'Da ni 'di cael ein galw, rhai ohono ni [gynghorwyr], yn bedoffiliaid. Dwi 'di cael fy ngalw'n peado lover, 'di cael bygythiad, rhywun wedi dweud 'mod i wedi rhoi rhaff ynghylch fy gwddw fy hun wrth gefnogi yr addysg rhyw yma. Rhywun arall wedi dweud mod i'n haeddu'r death penalty."
Ychwanegodd: "Mae'r heddlu wedi bod yma yn siarad 'efo fi am fesurau diogelwch - be' fedra' i wneud i ddiogelu fy hun, be' fedra' i wneud i ddiogelu fy nghartre'.
"Doedd hynny ddim yn rhywbeth ro'n i'n ei ddisgwyl pan o'n i'n ymgymryd â'r portffolio addysg yn y cyngor."
'Rhywioli' disgyblion
Mae'r cod addysg - sy'n rhan o'r cwricwlwm i Gymru gyfan - yn cyflwyno plant i wahanol fath o berthnasau, i ddatblygiad y corff, i rywedd a rhywioldeb, ac i ddiogelwch mewn perthynas.
Mae gwrthwynebwyr yn honni bod y cod yn "rhywioli" disgyblion ifanc ac yn dadlau bod angen "gadael i blant fod yn blant".
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu honiadau gan rai ymgyrchwyr y bydd gweithredoedd rhyw penodol yn cael eu dysgu i blant - gan alw'r honiadau hynny'n gamwybodaeth.
Er hyn, mae'r penderfyniad i wahardd rhieni rhag tynnu eu plant o'r dosbarthiadau yn achos pryder difrifol i rai. Bydd adolygiad barnwrol ar 15 Tachwedd yn yr Uchel Lys ynglŷn â hyn.
Yn ôl y Canon Aled Edwards, pennaeth Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, mae angen canllaw clir i roi cyfle i rieni ac ysgolion drafod.
"Y cwestiwn gwleidyddol, creiddiol, ydy oeddech chi'n fwy tebygol o gadw cymunedau traddodiadol, ceidwadol oddi fewn i ysgolion trwy ganiatáu iddyn nhw eithrio weithiau, nag i wahardd unrhyw fath o eithrio.
"Yn fanno mae 'na gwestiwn o ran doethineb y broses. Ac os ydach chi'n mynnu eich bod chi'n gorfodi'r plant i fynychu'r dosbarthiadau yma, ac os ydy'r rhieni yn anniddig, sut wedyn ydach chi'n cael proses sy'n deall yr anniddigrwydd hwnnw ac yn ei feddwl o drwodd?"
'Hawl i bob plentyn'
Cwestiynu pam fyddai unrhyw un eisiau tynnu'u plant allan mae Beca Brown - sy'n dweud fod pryderon y nifer fechan o rieni sy'n poeni wedi cael eu lleddfu gan drafodaethau gyda'u hysgol.
"Dwi'n teimlo bod o'n gwbl, gwbl addas nad ydy rhieni yn cael tynnu eu plant allan o'r addysg yma," meddai.
"Yn un peth fydda' fo ddim yn ymarferol achos ma' natur y cwricwlwm newydd yng Nghymru rŵan yn golygu fod y pynciau yma'n cael eu ddysgu ar draws y meysydd dysgu, dydy o ddim yn un wers awr ar b'nawn Iau.
"Ond yn bwysicach na hynny, mae gan bob un plentyn yr hawl i addysg sydd yn mynd i'w gadw fo, hi neu nhw yn ddiogel, sydd yn mynd i'w cefnogi nhw i wneud dewisiadau doeth, iach, sydd yn mynd i'w cadw nhw yn hapus yn eu perthnasau, boed efo cyfoedion neu maes o law, pan maen nhw'n dewis rhywun i setlo lawr efo nhw pan maen nhw'n hŷn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn hanfodol i helpu pobl ifanc greu perthynas iach ag eraill a pharchu ei gilydd.
"Dim ond pynciau sy'n briodol i'w hoedran a'u datblygiad y bydd y dysgwyr yn edrych arnyn nhw.
"Bydd plant iau, er enghraifft, yn dysgu sut i drin eraill gyda charedigrwydd ac empathi. Wrth iddyn nhw dyfu, fe fyddan nhw'n dysgu am bynciau fel diogelwch ar-lein, cydsyniad ac iechyd rhywiol - a bydd pob elfen yn cael ei thrin mewn ffordd sensitif.
"Mae'n destun balchder i ni bod cyrff uchel eu parch fel yr NSPCC, y Comisiynydd Plant, Cymorth i Ferched Cymru ac arbenigwyr cymwys ym maes diogelu plant yn cefnogi ein cwricwlwm newydd a'r camau diwygio ehangach.
"Mae cam-drin yn gwbl annerbyniol. Rydyn ni mewn cysylltiad agos ag awdurdodau lleol ac ysgolion er mwyn eu cefnogi i gyflwyno'r cwricwlwm newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022
- Cyhoeddwyd26 Awst 2022