Cyhoeddi tîm newydd Plaid Cymru yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi ei dîm yn Senedd Cymru.
Mae Delyth Jewell wedi'i phenodi'n Ddirprwy'r Senedd, a bydd yn dirprwyo dros faterion seneddol gan gynnwys Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn absenoldeb yr arweinydd.
Mae'r cyn-ddirpwy arweinydd Sian Gwenllian yn "aelod dynodedig arweiniol" o ran y cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.
Mabon ap Gwynfor fydd y llefarydd ar iechyd a gofal, tra bydd Luke Fletcher yn llefarydd yr economi.
Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai ffocws y blaid yn y Senedd yn "gadarn" ar faterion allweddol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, tai a chostau byw.
Mae'r cyn-arweinydd Adam Price yn llefarydd ar gyfiawnder a materion Ewropeaidd.
Dyma'r tîm a benodwyd yn llawn:
Rhun ap Iorwerth - Aelod Dynodedig, cyfansoddiad
Delyth Jewell - Dirprwy Senedd, newid hinsawdd
Llyr Gruffydd - Cadeirydd y Grŵp, materion gwledig
Heledd Fychan - Rheolwr Busnes, addysg, y Gymraeg a diwylliant
Mabon ap Gwynfor - Prif chwip, iechyd, gofal cymdeithasol a thai
Adam Price - Cyfiawnder a materion Ewropeaidd
Peredur Owen Griffiths - Cyllid a llywodraeth leol
Sioned Williams - Cyfiawnder cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol
Luke Fletcher - Economi
Sian Gwenllian - Aelod Dynodedig Arweiniol
Cefin Campbell - Aelod Dynodedig
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023