Pedoffilydd wedi ei ladd gan gymar ei chwaer
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd pedoffilydd euogfarnedig ei lofruddio gan gymar ei chwaer mewn ymosodiad "ffyrnig" yn ninas Casnewydd.
Clywodd Llys Y Goron Caerdydd bod Andrew Southwood, 39, o ardal Dyffryn y ddinas, wedi curo Carl Ball i farwolaeth gyda darn o bren yn Heron Way fis Awst y llynedd.
Roedd Ball, 51,wedi treulio 10 mlynedd yn y carchar am dreisio menyw a cham-drin plentyn, ac wedi ei ryddhau ar ddiwedd ei ddedfryd.
Yn ôl erlynwyr nid yw'n hysbys ai ymwybyddiaeth ynghylch record droseddol Ball oedd wrth wraidd yr ymosodiad arno.
Dywedodd Mark Cotter KC ar ran yr erlyniad bod Southwood mewn perthynas â chwaer Mr Ball a bod yna "ddrwgdeimlad" rhwng Mr Ball a'r teulu.
Clywodd y llys bod sawl ymosodiad wedi bod ar Mr Ball yn ei ddyddiau olaf. Ar un achlysur roedd dyn wedi taflu dwrn ato gyda'r bwriad o gyhoeddi lluniau o'r digwyddiad ar-lein.
Ond fe ddywedodd Mr Cotter nad yr ymosodiad "direswm... disynnwyr a llwfr" hwnnw wnaeth achosi'r farwolaeth.
Ychwanegodd bod tystiolaeth DNA a ffôn symudol wedi profi cysylltiad rhwng Southwood a'r ymosodiad marwol.
"O bosib ni wnawn ni fyth wybod yn sicr pam wnaeth e wneud e nag a oedd eraill wedi cymryd rhan yn yr ymosodiad," meddai.
Roedd Southwood wedi gwadu llofruddiaeth ond fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 20 Gorffennaf wedi i reithgor ei gael yn euog, ac mae'r barnwr Mr Ustus Martin Griffiths wedi ei rybuddio taw'r "unig ddedfryd yw dedfryd o garchar am oes".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022