Prif hyfforddwr newydd Abertawe'n hyderus am y dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae gan Michael Duff "benderfynolrwydd tawel" i hyfforddi yn yr Uwch Gynghrair ac mae'n credu y gall arwain ei glwb newydd i'r uchelfannau.
Fe chwaraeodd Duff ar bob lefel o'r wythfed haen i'r Bencampwriaeth cyn cyrraedd yr Uwch Gynghrair yn 31 oed.
Ar ôl gweithio gyda phêl-droed ieuenctid ac yna o fewn cynghreiriau, mae Duff yn gobeithio arwain Abertawe'n uwch.
"Mae gen i deimlad da," meddai prif hyfforddwr newydd y clwb, "gobeithio y gallwn wneud i hyn weithio."
Ar ôl ymadawiad Russell Martin i Southampton, mae Duff wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r Elyrch ar ôl gadael Barnsley.
"Ers yn 17 oed, fe ges i fy rhyddhau dri neu bedwar o weithiau am fod yn rhy fach. Ond roedd gen i gymhelliant a thân i gyrraedd y brig ac fe gymeroedd nes yr oeddwn i'n 31 i gyrraedd," dywedodd Duff.
"Wnes i ddim gweiddi, roedd gen i benderfynolrwydd tawel. Mae'r un peth yn yr yrfa [hyfforddi] newydd.
"Ry'ch chi'n edrych ar y sylfeini sydd yma, yr adnoddau a statws y clwb, ro'n i'n teimlo y gallwn i wneud rhywbeth â hynny a symud ymlaen."
Y tymor nesaf fe fydd Abertawe yn gwneud eu chweched ymgais i ddychwelyd i'r Uwch Gynghrair ers 2018.
"Fyddwn i ddim yn cymryd y swydd pe na bawn i'n meddwl [y gallwn gyrraedd yr Uwch Gynghrair]," meddai.
"Rwy'n uchelgeisiol, ond dwi bron ddim yn hoffi siarad am y peth oherwydd rwy'n siarad amdanaf i.
"Dwi angen y chwaraewyr, dwi angen y tîm, dwi angen y clwb i wneud e."
'Gweld y gêm yn wahanol'
Dywedodd Duff fod "sylfaen dda" wedi ei adael iddo gan Russell Martin er mae'n teimlo bod angen cryfhau'r garfan mewn rhai meysydd.
"Mae yna lwythi o bêl-droedwyr da. Byddaf yn ceisio esblygu [y garfan] ychydig o ran ychwanegu rhywfaint o gorfforoldeb ac rwy'n meddwl bod angen ychwanegu rhywfaint o gyflymder.
"Fe wnaeth Russ waith da, chwaraeodd frand hynod ddeniadol o bêl-droed. Rwy'n gweld y gêm ychydig yn wahanol.
"Rwy'n ei gweld ychydig yn fwy ar y droed flaen ac ychydig yn fwy blaengar ar adegau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023