Cyhoeddi adolygiad annibynnol i reolaeth GIG Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Eluned Morgan fod y gwasanaeth iechyd yn gweithio, ond fod angen lleddfu'r pwysau arno i'r dyfodol

Dydy'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ei ffurf bresennol, ddim yn addas ar gyfer y dyfodol - dyna mae'r gweinidog iechyd wedi'i rybuddio mewn cynhadledd ddydd Iau.

Dywedodd Eluned Morgan bod cynnydd mewn galw am wasanaethau'n golygu bod dewisiadau anodd ar y gorwel i'r gwasanaeth.

Wrth nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG, dywedodd y bydd yn rhaid i'r gwasanaeth newid ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod ei haraith yn y gynhadledd feddygol ddydd Iau, cyhoeddodd y gweinidog hefyd y bydd adolygiad annibynnol i reolaeth y GIG am a yw'n addas i gyflawni anghenion y dyfodol.

Fe ofynnodd eto i'r cyhoedd am gymorth i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth drwy ofalu am eu hiechyd eu hunain.

Mae disgwyl i nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ganser godi o 20,000 y flwyddyn rhwng 2017 a 2019 i 25,000 y flwyddyn yn y ddau ddegawd nesaf.

Mae hefyd disgwyl y bydd diabetes math 2 yn cynyddu'n gyflym gan gyrraedd 17% o'r boblogaeth erbyn 2035.

Mae datblygiadau mewn triniaeth a gofal ynghyd â phobl yn byw'n hirach yn golygu bod achosion mwy cymhleth i'w trin.

'Mwy o atebolrwydd'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Ms Morgan bod angen edrych ar newid y ffordd mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei rhedeg.

"Dwi isie cael system annibynnol i edrych ar beth fydde'r ffordd orau i sicrhau mwy o atebolrwydd," meddai.

"Dwi'n meddwl bod 'na bobl anhygoel yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac weithiau 'da ni'n ceisio 'neud gormod yn ganolog, ond be' dwi eisiau 'neud yw deall mai fi sydd yn gyfrifol, ond os ydw i'n mynd i gael y cyfrifoldeb yna, mae'n rhaid i fi gael y tools er mwyn gwneud y job yn iawn."

Dywedodd Ms Morgan fod targedau newydd wedi cael ei gosod a buddsoddiadau'n cael eu gwneud.

"Mae gyda ni targedau newydd felly bydd 99% o bobl yn cael eu gweld erbyn diwedd y flwyddyn ariannol - bydden nhw ddim yn aros mwy na dwy flynedd i gael eu gweld."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gweinidog iechyd yn agored i'r syniad o orfodi deintyddion i weithio i'r GIG am gyfnod o'u gyrfa

Ychwanegodd ei bod yn agored i'r syniad o osod cyfyngiadau ar fyfyrwyr Prydeinig er mwyn sicrhau eu bod yn gorfod gweithio ym Mhrydain am gyfnod ar ôl graddio.

"Mae'r trethdalwyr yn rhoi lot o fuddsoddiad mewn i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd a dwi'n meddwl bod e'n deg i ofyn ydyn ni'n cael gwerth ein harian ni o'r buddsoddiad yna?

"Er enghraifft gyda deintyddion, ni'n gwario lot o arian ar ddeintyddion a ma' lot ohonyn nhw'n mynd syth i weithio yn y gwasanaeth preifat."

'Meddwl ynglŷn â beth ma' nhw'n bwyta'

Mae'r gweinidog hefyd wedi pwysleisio rôl y cyhoedd wrth ofalu am y GIG gan annog pobl i ofalu fwy am eu hiechyd.

"Dwi'n yn meddwl bod angen i bobl feddwl ynglŷn â beth ma' nhw'n bwyta. Mae'n ffaith bod 60% o oedolion yng Nghymru yn ordew, ma' hwnna'n cael effaith ar eu hiechyd nhw ac ar y gwasanaeth iechyd," meddai.

"Rhan o'r canlyniad yw bod cynnydd aruthrol wedi bod yn y niferoedd sydd efo diabetes type 2. Ma' hwnna'n arwain at gymhlethdodau a ma'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd delio gyda'r cymhlethdodau yna.

"Os ydy pobl eisiau ni cadw'r ddarpariaeth fel ma' hi mae'n rhaid iddyn nhw ddod ar y trywydd yna gyda ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan eisiau i bobl edrych ar ôl eu hiechyd eu hunain er mwyn diogelu'r GIG

Ychwanegodd: "Beth ni eisiau sicrhau yw bod 'na gyfrifoldeb a draws y llywodraeth yn ymwneud efo iechyd, felly 'da ni'n derbyn bod problemau sy'n ymwneud â thai yn gallu cael effaith ar iechyd, bod tlodi yn cael effaith ar iechyd, bod addysg yn cael effaith ar iechyd.

"Mae 'na ddwy filiwn o gysylltiadau gyda'r gwasanaeth iechyd yn fisol mewn gwlad sydd efo tair miliwn o bobl.

"Ni'n cymryd yn ganiataol bod chi yn cael gofal yn rhad ac am ddim pan y'ch chi angen hi, a dylen ni fod yn barod i frwydro amdani hi."

'Delfryd iwtopia'

Yn ymateb i sylwadau Ms Morgan dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd newydd Plaid Cymru: "Gall y gweinidog na'r llywodraeth ddim gwadu cyfrifoldeb am eu rôl nhw yng ngofal iechyd yng Nghymru.

"Y llywodraeth Lafur sydd wedi gweinyddu a rhedeg iechyd yng Nghymru ers 24 o flynyddoedd."

Ychwanegodd nad yw'n glir sut mae'r llywodraeth yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth gan ddweud: "Mae'n iawn cael rhyw ddelfryd iwtopia o'r hyn ma' nhw isio ei ddatblygu, a dyna mae'r gweinidog yn ei gynnig, ond 'da ni ddim wedi gweld unrhyw gynllun, unrhyw fap i gyrraedd y pwynt yna."

Aeth Mr ap Gwynfor ymlaen i ddweud y byddai angen codi treth er mwyn ariannu dyfodol y GIG.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu diffyg cynllun gan y llywodraeth i gyflawni unrhyw newidiadau

Ychwanegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George fod gan y gweinidog iechyd "ddim byd newydd i'w gynnig o ran datrys problemau hirdymor" GIG Cymru.

"Does gan Lafur ddim cynllun i wrthdroi'r toriad niweidiol i gyllideb GIG Cymru eleni, dim cynllun i gynyddu'r gweithlu.

"Dim cynllun i gael gwared ar oedi annerbyniol o ddwy flynedd am driniaeth, sydd wedi cael eu dileu i bob pwrpas pobman arall yn y DU."

'Braint ond anodd'

Mae nifer o fyfyrwyr meddygol, fel ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gorffen eu cyrsiau ar hyn o bryd ac yn paratoi i ddechrau ar eu gyrfaoedd.

Beth yw eu teimladau am y dyfodol, felly?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Evans yn disgrifio'r cyfle i weithio i'r gwasanaeth fel braint, ond yn brofiad anodd

Yn ôl Ffion Evans sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin "dyw pethau ddim yn edrych yn bositif" gan fod "pawb o dan gymaint o straen".

"Fi'n credu mae llawer o bethau yn achosi'r pwysau. Does dim un ffactor ond nifer o ffactorau gwahanol, a dyna beth sy'n ei wneud yn anodd, achos does dim un quick fix i ddatrys y broblem."

Mae Ffion yn gobeithio arbenigo fel seiciatrydd ac er gwaetha'r pwysau, mae hi'n obeithiol hefyd.

"Fi'n credu mae'n broffesiwn sy'n rewarding iawn so fi'n credu bod e'n denu pobl i fewn a mae'n fraint i wneud y swydd yma ond mae yn anodd hefyd.

"Mae'n beth amazing i gael yr NHS sydd ar gael i bawb, ond mae yn anodd. Beth yw'r dyfodol? A fydd rhywun yn talu tipyn bach o arian am ofal yn y dyfodol a sut bydd hwnna yn datblygu?

"Mae'n fraint i fyw yn rhywle lle mae pawb yn cael yr un lefel o ofal am ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Beetham yn dweud ei bod hi'n gyfnod pryderus i ddechrau gyrfa yn y sector

Myfyriwr arall yw Hannah Beetham o Aberhonddu, ac mae hi'n poeni ychydig am y dyfodol.

"Fi'n credu mae'n gyfnod pryderus i unrhyw un sy'n gadael y brifysgol a dechrau gweithio ar y wards a mae gyda chi gyfrifoldeb dros gleifion.

"Ar ôl y pandemig mae cymaint o straen ar yr NHS yn gyffredinol a mae yn eitha' pryderus achos mae pawb yn poeni am y streics hefyd a beth yw'r peth gorau i wneud."

Yn ôl Hannah mae nifer o feddygon yn symud i weithio dramor.

"Mae yna lot o feddygon sy'n edrych i adael neu fynd dramor lle mae'r ffordd o fyw a'r arian yn well, felly wedyn mae yna straen ychwanegol ar bawb fan hyn.

"Ond y rheswm maen nhw'n gadael yw achos dyw'r arian ddim mor dda a mae'r oriau yn hir. Pe bai'r amodau yn well efallai byddai mwy o bobl yn aros yn y system sydd gyda ni yn y Deyrnas Unedig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenllian Roberts yn gobeithio gweithio ym maes gofal dwys

Un arall o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw Gwenllian Roberts, a'i gobaith hi yn y pendraw yw gweithio ym maes gofal dwys. Mae hi'n edrych 'mlaen at ddechrau ei gyrfa.

"[Mae] bendant yn gyfuniad o gyffro, achos chi wedi bod yn gweithio am saith mlynedd tuag at hwn, ond bendant yn bryderus hefyd achos symud o fod yn fyfyriwr i fod yn feddyg iau.

"Mae'r system yn hollol wahanol i bump neu saith mlynedd yn ôl pan wnaethon ni rhoi ein ceisiadau i fewn. Mae lot wedi newid."

'Gobaith drwy dechnoleg'

Ond mae 'na obaith a ffydd ganddi yn y datblygiadau diweddara'.

"Mae lot o bethau arbenigol ar gael a thrwy technoleg mae pethau yn rhatach ac yn fwy hygyrch i gleifion mewn ffordd," meddai Gwenllian.

"Mae buddsoddi mewn unrhyw beth am gymryd arian a amser. Mae angen mwy o arian ar y system i weithio fel mae o.

"Yn amlwg mae llefydd mwy gwledig sy'n bell o ysbytai. Mae yna ffyrdd o arbed arian, fel buddsoddi mewn pethau yng nghefn gwlad - dyna un ffordd o arbed arian."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sion Tomos yn obeithiol ar gyfer y dyfodol ar ddechrau ei yrfa

Mae Sion Tomos o Lanfairpwll yn wreiddiol ac yn edrych ymlaen at ddechrau ei yrfa.

"Dwi'n edrych ymlaen a dwi'n falch bo fi'n edrych 'mlaen. Rydyn ni'n gweithio'n galed yn ystod y cwrs yma.

"Mae meddygaeth yn datblygu cymaint, a'r meddygaeth a'r dechnoleg a'r is-arbenigo, ac efallai yn colli y cof o'r claf dipyn bach.

"Rydyn ni'n gwbod bod y triniaethau newydd yma yn achub bywydau pobl ac yn gwneud bywydau pobl yn well ond mae hefyd angen rhywun yn canolbwyntio ar y problemau sydd ganddyn ni.

"Mae lot o bobl yn yr ysbyty ganddyn ni sydd ddim angen bod yna, ond dyw nhw ddim yn gallu bod adre. Mae angen gwasanaeth yn y canol."